Grŵp 3: Ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd: Adennill costau (Gwelliannau 30, 6, 8, 9)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:19, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Lywydd. I ymateb i Mark Isherwood, nid wyf yn credu, mewn gwirionedd, fod yna newid polisi yma. Mae hyn yn ymwneud â gweithdrefn gliriach, mwy effeithlon a mwy penodol ar gyfer adennill costau, sy'n cynnwys hefyd, buaswn yn dweud, dibynnu ar lys ynadon ar gyfer apeliadau. Felly, nid wyf yn derbyn yr honiad fod yna newid polisi sylweddol yma. Mae'n cynnig eglurder ac effeithlonrwydd o ran y ffordd yr ysgrifennwyd y Bil. Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynais ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn gwneud hynny.