Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch. Cyflwynwyd y gwelliannau hyn i roi pŵer i'r llys i ddirymu trwydded ar gyfer rhywun a fu'n codi taliadau heb ganiatâd. Pŵer disgresiwn fyddai hwn, ni fyddai'n orfodol, ond yno i'w benderfynu gan y llysoedd. Nawr, yng Nghyfnod 2, gwrthododd y Gweinidog blaenorol y gwelliannau hyn ar y sail y byddai'n tanseilio swyddogaeth Rhentu Doeth Cymru i benderfynu pa gamau i'w cymryd. Ond, y pwynt yw ein bod yn gofyn i'r llysoedd i orfodi'r gyfraith hon ac, fel rhan o hynny, bydd rhoi pŵer disgresiwn iddynt i ddirymu trwydded yn eu helpu i orfodi'r gyfraith.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei ddyddiau cynnar ac yn debygol o fod yn destun heriau cyfreithiol oddi wrth landlordiaid mewn modd na fydd yn wir am y llysoedd. Mae'n debygol y gallai landlord sydd a'i drwydded wedi cael ei dirymu gan Rentu Doeth Cymru herio hyn a defnyddio'r diffyg eglurder o ran pryd y dylid dirymu'r trwyddedau. Wedi'r cyfan, rhaid gofyn y cwestiwn a yw'r person yn addas a phriodol i benderfynu hyn, ac wrth gwrs gall collfarnu yn y llysoedd am godi ffioedd heb awdurdod gyfrannu at hynny. Ond byddai'n cymryd amser i sefydlu'r pwerau hynny, ac felly byddent yn llai tebygol o gael eu herio.