Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch ichi, Dirprwy Llywydd. Rwy'n gwrthwynebu gwelliannau 56 a 58, sydd yr un fath â'r rhai a ddygwyd ymlaen ar y mater hwn yng Nghyfnod 2. Mae ein safbwynt ni hefyd yr un fath—fod y gwelliannau'n cyfyngu'n amhriodol ar weithrediad yr awdurdod trwyddedu. Nid diddymu trwydded dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yw'r ateb gorau o reidrwydd, ond mae hwnnw'n fater i'r awdurdod trwyddedu benderfynu arno. Hoffwn atgoffa'r Aelodau bod adran 20 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn darparu, wrth benderfynu a yw person yn addas a phriodol i fod yn drwyddedig, y dylai'r awdurdod trwyddedu—ar hyn o bryd Rhentu Doeth Cymru— roi sylw i'r holl faterion y mae'n eu hystyried yn briodol. Ac ymysg y materion y mae'n rhaid i'r awdurdod trwyddedu roi sylw iddynt yw sicrhau nad oes unrhyw dramgwydd dan y gyfraith sy'n ymwneud â thai neu faterion landlord a thenant.
Mae trefniadau trwyddedu'n disgwyl fod landlordiaid ac asiantau yn gallu dangos eu bod yn addas i weithredu. Byddai collfarn am drosedd dan adran 2 neu adran 3 y Bil yn fater y dylai'r awdurdod trwyddedu roi sylw iddo wrth benderfynu a fyddai trwydded yn cael ei chaniatáu neu beidio, neu ei dirymu dan adran 25 o Ddeddf 2014. Mae'r gofynion i fod yn berson addas a phriodol dan adran 20 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu y dylai'r awdurdod trwyddedu, wrth benderfynu a yw person yn addas a phriodol i fod yn drwyddedig, roi sylw i'r holl faterion a ystyria'n briodol, sy'n cynnwys mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy'n ymwneud â thai neu landlord a thenant. Byddai collfarn am dramgwydd yn un enghraifft, a rhaid i'r awdurdod trwyddedu roi sylw i dramgwyddau o'r fath wrth benderfynu a yw person yn addas a phriodol i gael ei drwyddedu dan Ran 1 o Ddeddf 2014. Gallai hyn olygu dirymu trwydded os nad yw'r awdurdod trwyddedu yn cael ei fodloni mwyach fod deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Fel y nodir yng Nghyfnod 2, mae yna hefyd bosibilrwydd y byddai canlyniadau anfwriadol difrifol pe bai'r gwelliant hwn yn cael ei basio. Gallai'r gwelliannau greu sefyllfa wrthnysig lle gellid dirymu'r drwydded dan Ran 1 o Ddeddf 2014 gan y llys troseddol. Gallai'r un landlord neu asiant barhau i ddal trwydded rheoli tŷ amlfeddiannaeth ond ar yr un pryd gael trwydded dan ran 1 o Ddeddf 2014 wedi ei dirymu gan y llys troseddol. Nid yw'r gwelliant yn ymdrin â'r materion hyn, a allai olygu y gallem weld anghysonderau o'r fath.
Byddai canlyniad anfwriadol arall y gwelliant yn codi pe byddai asiant neu landlord yn penderfynu apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu trwydded dan Ran 1 o Ddeddf 2014. Yn yr amgylchiadau hyn, byddai rhaid cynnal yr apêl mewn tribiwnlys eiddo preswyl. Yn ôl gwelliannau 56 a 58, os gallai llys troseddol orchymyn i'r awdurdod trwyddedu ddirymu trwydded y tramgwyddwr dan adran 25(1)(b) o Ddeddf 2014, ni fyddai'r gwelliannau hyn yn gweithio ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth bresennol. Byddai'n rhaid i Rentu Doeth Cymru amddiffyn unrhyw achos o ddiddymu trwydded y gorchmynnwyd iddynt ei wneud gan y llys, er nad oedd ganddynt unrhyw ran yn y penderfyniad i ddirymu. Unwaith eto, nid wyf yn gweld bod y materion hyn wedi cael sylw yn y gwelliant, sydd heb newid ers Cyfnod 2.
Er mwyn osgoi amheuaeth, rydym ni'n disgwyl i'r awdurdod trwyddedu roi sylw i'r materion hyn yn eu hystyriaethau. Rwyf wedi cyflwyno gwelliant i'w drafod yn ddiweddarach, Rhif 25, sy'n caniatáu ar gyfer canllawiau i'r awdurdod trwyddedu ar y mater hwn.
Mae'r gwelliannau hyn, felly, yn ein barn ni, yn ddiangen ac yn sylfaenol ddiffygiol, a byddwn yn annog yr Aelodau i wrthod y ddau welliant.