Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae adran 14 o'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu'r awdurdod trwyddedu, neu bob awdurdod trwyddedu os oes mwy nag un, o unrhyw euogfarn o drosedd o dan y Ddeddf yn gysylltiedig ag annedd yn ei ardal. Mae hyn yn sicrhau cysylltiad priodol rhwng y Bil ac arfer swyddogaethau gorfodi yn gysylltiedig â chofrestru a thrwyddedu landlordiaid a thenantiaid. Mae gwelliant 17 o f'eiddo yn cyflwyno is-adran newydd, is-adran (3) i adran 14. Yr effaith yw na fydd yn rhaid i awdurdod tai lleol hysbysu awdurdod trwyddedu o euogfarn os cafodd yr achos ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu. Mae'r gwelliant hwn yn perthyn i'r gwelliannau yng ngrŵp 9, sy'n darparu ar gyfer yr awdurdod trwyddedu i fod yn awdurdod gorfodi o dan y Bil. Os nad ydym yn gwneud gwelliant 17, byddai'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod tai lleol gymryd camau gweithredu sy'n gwbl ddiangen. Hyderaf y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliant.
Mae gwelliant 45, a gyflwynwyd gan David Melding, yn ceisio ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu'r awdurdod trwyddedu pan fydd hysbysiad cosb benodedig wedi ei dalu. Yng Nghyfnod 2, fe wnaethom ni wrthod gwelliant tebyg iawn oherwydd bod adran 36 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 eisoes yn gosod dyletswydd ar awdurdodau tai lleol i drosglwyddo unrhyw wybodaeth i'r awdurdod trwyddedu sy'n angenrheidiol at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan Rhan 1 o'r Ddeddf. Bydd hyn yn berthnasol i unrhyw wybodaeth sydd wedi'i derbyn gan awdurdod tai lleol wrth arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol.
Mae'r gwelliant hwn, yn ogystal â bod yn ddi-angen, hefyd yn rhoi pwysigrwydd i'r ffaith a yw hysbysiad cosb benodedig wedi'i dalu ai peidio. Fodd bynnag, y gwir amdani yw mai'r hyn sydd o'r diddordeb mwyaf i awdurdod gorfodi yw a yw hysbysiad cosb benodedig wedi'i gyflwyno. Hyn ynghyd ag erlyniadau, yw'r materion sydd fwyaf perthnasol i Rhentu Doeth Cymru wrth iddynt ystyried a yw rhywun yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Mae gwelliant 21 o f'eiddo yn darparu ar gyfer y caniatâd angenrheidiol i awdurdod trwyddedu ac awdurdod tai lleol rannu gwybodaeth yn rhan o'u gwaith gorfodi. Fel y soniwyd, mae adran 36 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 eisoes yn caniatáu i awdurdod trwyddedu ofyn am wybodaeth gan awdurdod tai lleol i'w helpu i arfer ei swyddogaethau o dan Ran 1 o'r Ddeddf honno. Mae'r gwelliant hwn yn darparu pŵer cyffelyb yn gysylltiedig â galluogi awdurdodau gorfodi i arfer eu swyddogaethau o dan y Bil. Bydd yn gwella effeithiolrwydd y cydweithio rhwng awdurdodau gorfodi, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r newid hwn. Rwyf felly yn annog Aelodau i gefnogi gwelliannau 17 a 21 a gwrthod gwelliant 45, nad oes ei angen, ond mae'n ddrwg gennyf siomi David Melding yn hyn o beth.