Gwasanaethau Fasgwlaidd Brys

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 19 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:32, 19 Mawrth 2019

Wel, Dirprwy Lywydd, dyw hwnna ddim yn wir o gwbl. Nawr, dwi'n gwybod bod yr Aelod yn adlewyrchu beth mae pobl leol yn ei ddweud wrthi hi, ond, yn y bôn, beth sy'n digwydd fan hyn yw nid mater o broses, ond mater o greu gwasanaethau newydd a gwasanaethau cynaliadwy i bobl ledled gogledd Cymru. Dyna pam mae'r Gymdeithas Fasgwlaidd a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn cefnogi beth rŷm ni'n ei wneud. Dyna pam dŷn ni'n ei wneud e—nid am ddim byd arall ond y cyngor rŷm ni wedi ei gael oddi wrth bobl sy'n gweithio yn y maes, pobl â'r anawsterau, sori, pobl â'r—.