Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Dai Lloyd, am y sylwadau yna. Rydym ni'n cytuno yn llwyr a byddwn yn cywiro pwynt 1. Pwyntiau 2 a 4: rydym ni'n cytuno ac rydym ni'n ceisio cywiro'r gwallau drwy reoliad 8(4) a (6) o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019. Ac rydym yn nodi pwyntiau 3, 5, 6 a 7, ac rydym o'r farn nad ydynt yn effeithio ar effaith gyfreithiol y darpariaethau, fel y dywedasoch chi.