Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr iawn. O ran llosgydd y Barri, mae arnaf ofn bod y sefyllfa yn parhau fel y bu hyd yma a chyn gynted ag y bydd y cyngor cyfreithiol ar gael i ni, yna fe fyddwn ni'n gallu gwneud y penderfyniad hwnnw. Yn anffodus, nid wyf yn gallu rhoi dyddiad ichi ar gyfer hynny heddiw.
O ran eich ymholiad ynghylch cyffordd 34, wrth gwrs, bydd cyfle ichi godi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog yn ystod ei gwestiynau yfory. Fel arall, os na fydd y cyfle yn codi, fe fyddwn yn sicr yn argymell ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn cael yr eglurder hwnnw.