– Senedd Cymru am 2:27 pm ar 19 Mawrth 2019.
Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a'r cyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd—Rebecca Evans.
Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn rhoi datganiad: yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch trafodaethau'r UE. Nodir busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Hoffwn i'r Gweinidog roi datganiad am y llifogydd erchyll a ddigwyddodd yn y gogledd a rhannau eraill o Gymru, mewn gwirionedd, y penwythnos yma. Fe gawsom ni’n taro’n wael yn Aberconwy, ac fe welais bethau nad oeddwn erioed wedi eu gweld mewn llifogydd o’r blaen. Roedd yr A470 wedi ei chau ar hyd dyffryn Conwy ac mae’r rheilffordd sydd wedi ei hatgyfnerthu yn Llanrwst bellach wedi ei difrodi yn ofnadwy, a bydd sawl wythnos cyn y bydd hi’n gallu cael ei defnyddio eto, ar ôl gwario arian arni dim ond yn ddiweddar. Roedd llifogydd mewn tai a busnesau yn Nolwyddelan, Betws-y-coed, Maenan ac, yn wir, yn Llanrwst, lle, unwaith eto, na weithiodd y 'dutchdam'—ac mae hwnnw’n gynllun lliniaru llifogydd, yn offer eithaf drud a osodwyd, ac nid dyma'r tro cyntaf iddo fethu, felly rwy'n gofyn am ddatganiad ynghylch hynny. I'r gorllewin, fe welodd castell Gwydir a'i erddi, yr unig erddi rhestredig gradd I yng Nghymru, ei amddiffyniad bagiau tywod yn methu a chafwyd llif arswydus o gyflym.
Trefnydd, fe achosodd y digwyddiad hwn y penwythnos yma gymaint o broblemau i mi yn Aberconwy a'm trigolion. Roedd gennym bobl ifanc yn cael eu hachub o do car—mae hyn yn y papurau newydd cenedlaethol i gyd. Ac, a dweud y gwir, mae dal enfawr bellach bod y cynllun lliniaru llifogydd a roddwyd ar waith rai blynyddoedd yn ôl—er ei fod o fudd i rai, yn cael effaith andwyol ar eraill, mewn gwirionedd. Rwyf wedi galw am gyfarfod cyhoeddus ar 5 Ebrill—dyna'r cyfan y gallaf ei wneud ar hyn o bryd fel Aelod Cynulliad. Rwyf yn ymbil ar y Cynulliad hwn—y Llywodraeth Cymru hon—os gwelwch yn dda, gwnewch ddatganiad a darparwch rywfaint o sicrwydd i’m trigolion, i bobl yn awr. Mae fy musnesau'n wynebu gwerth miloedd ar filoedd o bunnoedd o ddifrod; nid yw rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn gallu agor. Mae angen rhagor o gymorth, ac mae angen edrych o’r newydd ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghonwy. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Ac mae’n rhoi cyfle imi ddweud diolch wrth bawb yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys, sydd wedi gweithio mor ddiflino dros y penwythnos i ymateb i’r digwyddiadau llifogydd ledled y wlad.
Fe gawsom ni ddatganiad ar lifogydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd gan y Gweinidog yr wythnos diwethaf, a amlinellodd raglen fuddsoddi gwerth £50 miliwn i reoli llifogydd a pherygl arfordirol ledled Cymru. Ac mae hynny'n golygu, droes gyfnod y Llywodraeth hon, y byddwn wedi buddsoddi dros £350 miliwn ar reoli llifogydd a’r perygl o erydu arfordirol yng Nghymru. Rwy'n credu y gallwn ni ddweud ein bod ni wedi cael adroddiadau o asedau a fu'n gweithio'n dda dros y penwythnos, gan gynnwys yn Llanrwst, dyffryn Conwy, Llanelwy a Bangor Is-coed, lle lleihaodd y cynlluniau llifogydd sydd ar waith nifer yr eiddo a ddioddefodd lifogydd. Rydym ni’n gwybod bod tua wyth cartref wedi dioddef llifogydd, a bod gerddi tua 40 eiddo wedi dioddef llifogydd hefyd. Ac, yn amlwg, rydym ni’n meddwl am y bobl hynny, oherwydd mae'n brofiad ofnadwy i unrhyw un. Rydym ni’n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adrodd bod amddiffynfeydd a gweithdrefnau ar waith ym Mangor Is-coed sydd wedi perfformio'n dda, gan amddiffyn 381 eiddo yn yr ardal rhybudd llifogydd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn adrodd bod y systemau telemetreg y maen nhw wedi'u gosod ar geuffosydd, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, wedi gweithio’n dda hefyd gan ganiatáu iddyn nhw weld a nodi ardaloedd lle’r oedd gweddillion yn atal cyrsiau dŵr, er mwyn eu galluogi nhw i anfon timau i’r ardaloedd hynny a symud y rhwystrau hynny yn gyflym. Ac, wrth gwrs, roedd camerâu a reolir o bell sydd wedi'u gosod ym Mhlas Isaf yn Llanrwst wedi gweithio'n dda yn ystod y digwyddiad llifogydd, gan roi rhybudd i staff y cyngor am rwystrau posibl i gyrsiau dŵr, gan ganiatáu iddyn nhw gael amser i anfon timau i glirio'r ardal, a sicrhau bod y risg o lifogydd i eiddo wedi ei ddileu.
Felly, rwy'n credu bod y dystiolaeth, yn sicr, yn dangos bod yr amddiffynfeydd wedi gweithio'n dda, gan amddiffyn nifer fawr o eiddo. Bydd hi'n sawl diwrnod, wrth gwrs, cyn y bydd yr effeithiau llawn wedi eu nodi, a byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog yn ysgrifennu atoch chi cyn eich cyfarfod ar 5 Ebrill, fel bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Trefnydd, dwi'n galw am ddau ddatganiad. Yr un cyntaf: mae Estyn a chod trefniadaeth ysgolion y Gweinidog Addysg, fel ei gilydd, wedi nodi'r angen i archwilio posibiliadau ffederaleiddio yn drylwyr cyn cau ysgol, megis Felindre, ar gyrion Abertawe. Gan fod cyrff llywodraethol ysgolion Felindre a Lôn Las, yn gyfagos, wedi cytuno'n unfrydol ar yr egwyddor o ffederaleiddio, onid lle'r awdurdod addysg yn Abertawe yw cynorthwyo ysgol Felindre, ym mhob dull a modd, i wireddu hyn? Nawr, does dim sôn am hyn ym mhapurau cabinet dinas a sir Abertawe yr wythnos yma. Felly, ydy hi'n bosib cael datganiad ar ba oruchwyliaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyflawni i sicrhau bod ein siroedd yn dilyn canllawiau cenedlaethol, fel y cod trefniadaeth ysgolion, a pha sancsiynau sydd mewn lle os nad ydyn nhw'n gwneud hynny?
Ac yn ail, Trefnydd, fe fyddwch yn ymwybodol, ddydd Gwener diwethaf, bod yr adolygiad annibynnol i Fargen Ddinesig Bae Abertawe wedi ei ryddhau. Comisiynwyd yr adolygiad hwnnw, a gynhaliwyd gan Actica Consulting, wrth gwrs, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yr hyn sy’n deillio o'r adroddiad hwn yw nifer o argymhellion o blaid newid er mwyn gwella’r llywodraethu a chyflymu'r cyflawniadau. Mae'n amlwg o ddarllen yr adroddiad bod rhwystredigaeth o safbwynt Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac o safbwynt yr awdurdodau lleol rhanbarthol o ran sut mae’r fargen ddinesig yn mynd rhagddi. Mae'n codi nifer o gwestiynau ynghylch effeithiolrwydd strwythur bargen ddinesig Bae Abertawe. Yr hyn sy’n fy nharo i yw bod llawer o welliannau i'w gwneud o ran y berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU a'r awdurdodau lleol. Pan fo'r argymhelliad cyntaf yn ceisio annog sgyrsiau, ac rwyf yn dyfynnu, 'uniongyrchol ac wyneb yn wyneb yn rheolaidd', rydych chi’n gwybod bod rhywbeth o’i le. Mewn cynllun o'r maint hwn, fe fyddech chi’n disgwyl i drafodaethau wyneb yn wyneb rheolaidd ac uniongyrchol fod yn anhepgor.
Yr hyn sydd hefyd yn drawiadol yw pa mor araf y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyddhau arian. Mae argymhelliad 7 yn cyfeirio at y ffaith y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sicrhau bod arian yn cael ei ryddhau ar unwaith ar gyfer Yr Egin yng Nghaerfyrddin a phrosiectau Glannau Abertawe. Y ddamcaniaeth y tu ôl i'r strwythur bargen ddinesig ym Mae Abertawe yw y dylai’r ddwy Lywodraeth ddarparu cyllid yn gynnar i roi'r rhan fwyaf o'r arian ar ddechrau proffil ariannu prosiectau er mwyn eu galluogi nhw i gael eu cyflawni. Fodd bynnag, mae gennym sefyllfa chwerthinllyd lle bo datblygiad Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi ei adeiladu, fe gafodd ei agor yn swyddogol y llynedd, ac mae bron yn llawn, ac eto nid yw Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi rhyddhau’r cyllid. Mae pobl yn briodol yn gofyn, 'Beth sy'n digwydd yn y fan yma?' Nawr, rwy'n sylweddoli bod sesiwn friffio anffurfiol wedi ei threfnu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad bore yfory, ond, yn amlwg, ni fydd nifer o Aelodau'r Cynulliad yn gallu mynd i’r sesiwn honno oherwydd yr angen i fynychu pwyllgorau yn y fan yma. Gyda hynny mewn golwg, a gaf i ofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gyflwyno datganiad ynghylch bargen ddinesig Bae Abertawe yn y Siambr hon er mwyn i ni allu trafod y camau nesaf ar gyfer y fargen ddinesig yn gyhoeddus? Diolch yn fawr.
Diolch am godi'r ddau fater hyn. Fel yr ydych yn dweud, mae'r Dirprwy Weinidog wedi cynnig sesiwn friffio yfory i Aelodau'r Cynulliad ynghylch bargen ddinesig Bae Abertawe a'r adolygiad annibynnol a gynhaliwyd. Rwy'n sylweddoli na fydd rhai Aelodau yn gallu bod yn bresennol, felly byddaf yn siarad â’r Dirprwy Weinidog i edrych a oes cyfle arall lle gallai’r Aelodau gael trafodaeth wyneb yn wyneb ag ef yn y lle cyntaf er mwyn mynd drwy'r adroddiad. Ac wrth gwrs, bydd Gweinidog yr Economi yn ateb cwestiynau yn y Siambr brynhawn yfory, felly byddai hyn yn gyfle arall i godi'r mater hwnnw.
Rwyf yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n wynebu ysgol Felindre, ac ysgol Craigcefnparc hefyd, y mae'r ddwy yn fy etholaeth i, ac yn fy swyddogaeth fel Aelod Cynulliad, rwy'n sicr wedi gwneud sylwadau ar ran y gymuned. Rwyf yn eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog addysg os oes unrhyw ddiffyg eglurder o ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau a'r cyngor yr ydym ni’n ei ddarparu i awdurdodau lleol yn y mathau hyn o amgylchiadau.
Yr hyn sy'n lladd y nifer fwyaf o fenywod ifanc mwyaf yw canser ceg y groth, ac rwy'n credu bod ymgyrch wych yn cael ei chynnal ar hyn o bryd ledled y DU er mwyn cael menywod ifanc i oresgyn unrhyw gywilydd sydd ganddyn nhw am eu cyrff a dod i gael sgriniau ceg y groth, a all achub eu bywydau mewn llawer o achosion. Ond cefais fy siomi o ddarllen bod anhrefn llwyr yn y labordai yn Lloegr lle maen nhw'n uno labordai o 50 i naw, ac mae hynny'n achosi oedi mawr yn y broses o roi canlyniad sgriniau i bobl. Tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch cyflwr profion mewn labordai yng Nghymru, ac a ydym ni wedi ein hamddiffyn rhag y fath anhrefn a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU.
Diolch am godi'r mater hwn. Rydym ni’n sicr mewn sefyllfa wahanol iawn yng Nghymru o gymharu â’r sefyllfa y mae Lloegr ynddi, wrth gwrs, gan mai ni yw’r unig wlad yn y DU sy’n cynnig profion Feirws Papiloma Dynol risg uchel fel y prif brawf ar gyfer yr holl bobl sy’n dod i sgrinio ceg y groth. Mae hwn yn brawf mwy sensitif ac mae’n fwy cywir, a bydd yn atal mwy o ganserau na'r prawf blaenorol, sef y prawf a ddefnyddir o hyd yng ngweddill y DU. Rydym ni’n gwybod bod dros 99 y cant o’r achosion o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan rywogaethau risg uchel o’r Feirws Papiloma Dynol. Fe gyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cyflawni’r rhaglen sgrinio ceg y groth, ein dull gweithredu yn llwyddiannus ym mis Medi. Fe baratôdd Sgrinio Serfigol Cymru i weithredu'r dull newydd o sgrinio am nifer o flynyddoedd, felly fe wnaethon nhw sicrhau eu bod nhw wedi cadw staff a chynnal y gwasanaeth drwy gydol y cyfnod pontio i'r prawf newydd. Felly, nid ydym ni wedi cael yr un problemau ag y maen nhw’n eu gweld dros y ffin.
Rwy'n falch eich bod chi wedi crybwyll yr ymgyrch newydd, sy’n cael ei lansio ar hyn o bryd. Enw’r ymgyrch yw #loveyourcervix. Mae hi newydd gael ei lansio yr wythnos hon, rwy'n credu, a’i nod yw annog pobl ifanc yn enwedig i fynd am eu prawf, oherwydd rydym ni’n gwybod, er bod gennym stori dda i'w hadrodd o ran pa mor gyflym yr ydym ni’n gallu rhoi canlyniadau eu profion i bobl, mewn gwirionedd, rydym ni’n gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynd am sgrinio, ymhlith menywod iau yn arbennig, sef y demograffig sy'n peri'r pryder mwyaf inni.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu un datganiad yn sicr a pheth cadarnhad gennych chi? Cadarnhad, yn y lle cyntaf: pryd ar wyneb y ddaear a gawn ni’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch asesiad effaith amgylcheddol llosgydd y Barri? Ymddengys fy mod i’n sefyll yn y fan yma bob mis, ac rwy'n credu ein bod ni ar fis 13 yn awr. Mae'r Aelod dros Fro Morgannwg a'r Dirprwy Weinidog yn eistedd yn y fan yna; mae’r Prif Weinidog yn eistedd yn y fan yna. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror y llynedd ei bod yn bwriadu cyfarwyddo y byddai asesiad o'r effaith amgylcheddol yn ofynnol ar gyfer y llosgydd yn y Barri. Mae hi bellach yn fis Mawrth 2019. Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru hysbysiad i ddweud eu bod nhw’n fodlon i amodau newydd gael eu rhoi ar waith ar gyfer y gollyngiad o’r safle newydd. Nid wyf yn rhoi bai ar Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd, o’m cyfarfodydd i â Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes ganddyn nhw ran i'w chwarae yn y penderfyniad hwn, nid oes ganddyn nhw, o ran a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ai peidio. Felly, heddiw, a gawn ni beth cadarnhad o leiaf o ran pryd y bydd hyn? Oherwydd pan mae pobl yn clywed Aelodau eraill yn y Siambr hon yn sôn am ddyfodol y sefydliad hwn yn y Barri, mae'n debyg eu bod nhw’n cwestiynu gwerth hyn pan nad yw’r ymrwymiadau a wneir yn y Siambr hon yn cael eu gweithredu. Ac a gawn ni ‘ie’ neu ‘na' o leiaf, os gwelwch yn dda?
Yn ail, a gaf i geisio cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros drafnidiaeth mewn cysylltiad â’r datblygiadau o amgylch y gwelliannau i gyffordd 34 o Sycamore Cross ym Mro Morgannwg? Byddai rhai pobl yn ei alw yn ‘welliannau’, byddai rhai pobl yn ei alw'n ‘fandaliaeth cefn gwlad’—gallwch chi fod unrhyw le rhwng y ddau. Mae hyn yn ymwneud â’r cynigion i gyflwyno ffordd newydd sy’n cysylltu cyffordd 32 â Sycamore Cross ar yr A48. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar rannau penodol o'r ffordd honno, ac rwy'n credu y byddai croeso mawr i glywed safbwynt a barn diweddaraf y Gweinidog newydd ynghylch cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwn. Fel y dywedais, mae Gweinidog newydd yn ei swydd erbyn hyn ac, os yw'r prosiect hwn i fynd rhagddo, byddai'n rhaid iddo gael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn ariannol ac yn wleidyddol, er mwyn gallu darparu’r prosiect hwn. Felly fe fyddwn i’n gwerthfawrogi datganiad o fwriad er mwyn deall hynny.
Diolch yn fawr iawn. O ran llosgydd y Barri, mae arnaf ofn bod y sefyllfa yn parhau fel y bu hyd yma a chyn gynted ag y bydd y cyngor cyfreithiol ar gael i ni, yna fe fyddwn ni'n gallu gwneud y penderfyniad hwnnw. Yn anffodus, nid wyf yn gallu rhoi dyddiad ichi ar gyfer hynny heddiw.
O ran eich ymholiad ynghylch cyffordd 34, wrth gwrs, bydd cyfle ichi godi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog yn ystod ei gwestiynau yfory. Fel arall, os na fydd y cyfle yn codi, fe fyddwn yn sicr yn argymell ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn cael yr eglurder hwnnw.
Ddydd Iau, fe fyddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol er mwyn Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil, ac mae'n dod yn union ar ôl yr ymosodiad erchyll yn seiliedig ar hil gan y dde eithafol a laddodd 50 o bobl ac anafu yr un nifer wrth iddyn nhw addoli yn Seland Newydd. A ddoe, wrth gwrs, bu ymosodiad terfysgol arall yn yr Iseldiroedd. Yn ddealladwy, mae llawer o bobl yn teimlo'n nerfus yn yr hinsawdd bresennol, felly beth a all y Llywodraeth ei wneud i dawelu meddyliau pobl, yn enwedig y dinasyddion Moslemaidd hynny yng Nghymru a allai fod yn teimlo'n arbennig o agored, bod eu pryderon yn mynd i gael eu cymryd o ddifrif? Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod gwleidyddion poblyddol ac eraill yn ymuno yn y mynegiadau o gasineb yn eu herbyn. Beth arall y gellir ei wneud â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol sydd wedi eu dwyn yn gyfrifol am sbarduno a lluosi'r atgasedd yma? Fe hoffwn weld datganiad yn ymateb i'r cwestiynau hynny. Fe fyddwn hefyd yn croesawu rhyw fath o gytundeb mewn egwyddor drwy ddangos undod yn agored er mwyn mynegi, fel dinasyddion Cymru, ein bod ni i gyd yn unedig a’n bod ni’n casáu hiliaeth, goruchafiaeth a chasineb o bob math. Felly, a wnewch chi gytuno â hynny mewn egwyddor?
Mae cyhoeddiad adroddiad pwyllgor Tŷ'r Cyffredin heddiw yn disgrifio sut y bo rhai menywod wedi canfod eu hunain heb ddewis arall heblaw troi at buteindra o ganlyniad i ddiwygiadau budd-daliadau’r Torïaid, sydd wedi'u hysgogi, wrth gwrs, gan gyni. Nid yw'n syndod bod llawer o fenywod wedi canfod eu hunain yn cael eu gwthio i’r sefyllfa anodd hon. Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn amcangyfrif, wrth edrych ar yr holl newidiadau i drethi a budd-daliadau rhwng 2010 a 2017, mai gwariant ar fenywod oedd 86 y cant o’r gostyngiadau mewn gwariant Llywodraeth. Erys y ffaith fod gan bob menyw, waeth pa swydd, gefndir neu amgylchiadau, ond yn enwedig y menywod hynny sy'n gweithio yn y diwydiant rhyw, yr hawl i fod yn ddiogel. Ein nod, yn sicr, ddylai creu byd lle mae pob menyw yn rhydd rhag camdriniaeth, trais rhywiol ac ymosodiadau. Mae’n rhaid clywed lleisiau gweithwyr rhyw, ac mae’n rhaid eu cynnwys nhw yn yr weledigaeth honno. A dyna pam yr wyf wedi rhoi fy nghefnogaeth i ymgyrch Make All Women Safe. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i'r mater hwn yn fwy manwl yng Nghymru, sy’n amlwg yn effeithio ar fwy a mwy o bobl wrth i’r diwygiad lles waethygu?
Diolch am godi'r ddau fater hynny, ac fe fyddwn i’n sicr yn cytuno â chi nad oes gan unrhyw fath o wahaniaethu ar sail hil, neu wahaniaethu o unrhyw fath, ond yn enwedig yng nghyd-destun yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y dyddiau diwethaf, unrhyw le o gwbl yng Nghymru. Ac fe fyddwch yn falch o weld bod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip wedi darparu datganiad ysgrifenedig heddiw, sy'n amlinellu ymagwedd Llywodraeth Cymru at y mater hwn, yn enwedig y trafodaethau a gafwyd gyda’r heddlu a gwasanaethau eraill er mwyn sicrhau bod y gymuned Foslemaidd yn benodol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi, ac nad ydyn nhw’n teimlo'n agored i niwed neu’n ofnus mewn cyfnod sy’n amlwg yn gyfnod ofnadwy o anodd.
O ran yr adroddiad Tŷ'r Cyffredin, wrth gwrs, yn nes ymlaen heddiw, mae gennym ddadl ynghylch effaith diwygio lles ac, fel yr ydych chi'n dweud, mae llawer o fenywod yn canfod eu hunain yn cael eu gwthio i mewn i waith rhyw oherwydd eu bod nhw’n canfod eu hunain mewn tlodi o ganlyniad i’r diwygiadau lles. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Roeddwn mewn digwyddiad gyda Julie James yn rhinwedd ei swydd flaenorol, pan oedd hi’n gyfrifol am gydraddoldeb, sef digwyddiad ochr yn ochr â’r heddlu a sefydliadau eraill sy’n ceisio cefnogi gweithwyr rhyw, yn enwedig yn Abertawe yn yr achos hwnnw, ond gwn fod llawer o waith cydweithredol a chydweithrediadol da yn cael ei wneud ar draws pob sector er mwyn cefnogi menywod sy'n canfod eu hunain yn y sefyllfa honno.
Yn dilyn fy nghais diweddar am ddatganiad ynghylch y crocbris am docynnau trên drwy Ben-y-bont ar Ogwr, a gaf i ailadrodd yr alwad honno? Fe gefais i sgwrs ddiddorol ar Twitter ddoe rhyngof i, fy etholwr a, chwarae teg iddo, gweithredwr cyfrif Twitter Trafnidiaeth Cymru gweithgar, a datgelwyd (a) bod yr un tocyn o Faesteg i Lundain, o’i gymharu â Phen-y-bont ar Ogwr i Lundain £31 yn ddrytach, er mai £2.60 yw pris tocyn o Faesteg i Ben-y-bont; yn ail, mynna fy etholwr nad oedd y gwahaniaeth hwnnw’n bodoli cyn Trafnidiaeth Cymru, er bod Trafnidiaeth Cymru yn gwrthod hyn; ond yn drydydd, mae Trafnidiaeth Cymru’n dweud mai polisi prisio Great Western Railway yw hyn, ac nad oes ganddyn nhw unrhyw ran yn hyn o gwbl. Nawr, mae hynny'n hynod ddiddorol, oherwydd dim ond dau neu dri stop i fyny’r llinell ydym ni am wahaniaeth o £31. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog, sy’n egluro cyfrifoldebau Trafnidiaeth Cymru a GWR ynghylch prisiau tocynnau drwy Ben-y-bont ar Ogwr, ac a yw hi'n dderbyniol bod disgwyl i deithwyr ar linell Cwm Llynfi, oherwydd eu cyfoeth rhodresgar llewyrchus, eu cychod hwylio a’u fflatiau ail gartrefi yng nghanol Manhattan, dalu am y fraint o sybsideiddio teithwyr tlawd rhwng dinasoedd Caerfaddon neu Fryste neu Ben-y-bont ar Ogwr hyd yn oed, yn eu plastai cyfoethog i lawr yn y fan honno?
Yn ail, a gawn ni ddadl ynghylch newid yn yr hinsawdd, yn dilyn protest gan bobl ifanc o dan faner streic yr hinsawdd? Nawr, fe fyddai hyn yn caniatáu i'r Gweinidog, sydd yma heddiw, nodi ei huchelgais o gael Cymru i arwain y ffordd drwy droi Cymru yn genedl teithio llesol wirioneddol, lle mae hi’n fwy naturiol i seiclo, cerdded a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na disgyn yn swp y tu ôl i lyw; lle'r ydym yn ymateb yn gadarnhaol i adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig sy’n annog symud, 100 y cant, i ynni adnewyddadwy erbyn 2030 a chreu 20,000 o swyddi gwyrdd ym maes ynni adnewyddadwy bob blwyddyn; lle mae pob cartref newydd yn un dim carbon neu’n un ynni cadarnhaol; lle'r ydym yn cyflymu ein rhaglen ôl-osod cartrefi hŷn, yn creu mwy o swyddi gwyrdd; a lle'r ydym yn atal ac yn gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a llawer iawn mwy? Nawr, fe fydd rhai pobl yn beirniadu’r bobl ifanc hyn am gymryd diwrnod i ffwrdd o’r ysgol, a chwarae triwant, ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n diolch iddyn nhw am ein hatgoffa ni o’n braint a’n cyfrifoldeb ni fel gwleidyddion i fynd i'r afael â chynhesu byd-eang ac i Gymru arwain y ffordd, hyd yn oed os yw’r DU wedi colli ei ffordd. Mae angen i Gymru fyw yn unol â’r ddihareb ‘Byddwch y newid y mynnwch ei weld’, a byddai dadl yn caniatáu i'r Gweinidog glywed syniadau ynghylch sut y gallem wneud hyn gan arddangos ei gallu ynghylch sut y gall Cymru fod yr arweinydd byd-eang hwnnw.
Diolch yn fawr iawn. O ran y mater prisiau tocynnau trên, gwn y bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ysgrifennu atoch cyn bo hir ynghylch y mater hwn, ond mae'n fater hanesyddol sy’n mynd yn ôl i’r adeg pan breifateiddiwyd y rheilffyrdd ym 1998, a dyrannwyd llifau teithio i fasnachfreintiau rheilffyrdd a oedd wedi eu neilltuo i'r gweithredwr sylfaenol, sef y gweithredwr y mae ei wasanaethau yn uniongyrchol dros y llwybr penodedig neu y mae ei wasanaethau yn gweithredu dros y rhan fwyaf o’r llwybr hwnnw fel arfer, a dyna pam, mewn rhai achosion, GWR fydd hwnnw, ac mewn achosion eraill, Trafnidiaeth Cymru fydd hwnnw. Felly, mae’r mater yn gymhleth iawn a byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael ymateb llawn i'r cwestiwn hwnnw.
O ran newid yn yr hinsawdd, yn amlwg, mae’n un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu pob un ohonom ni, ond rwyf yn sicr yn annog pobl ifanc i gael dweud eu dweud, llywio’r ddadl ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni’r camau gweithredu angenrheidiol fel y gallwn gryfhau ein hymateb i newid yn yr hinsawdd. Fe fyddwch yn falch o wybod bod y Prif Weinidog yn lansio ein cynllun cyflenwi carbon isel cyntaf ddydd Iau yr wythnos hon, ac mae hyn yn cynnwys y camau y byddwn yn eu cymryd i fodloni ein cyllideb garbon gyntaf. Bydd y camau hyn yn cwmpasu'r sectorau allyriadau allweddol, megis trafnidiaeth, amaethyddiaeth, defnydd tir, adeiladau, pŵer a gwastraff. Yn rhan o'r lansiad hwnnw, rydym ni wedi cynnwys pobl ifanc, ac fe fyddan nhw’n siarad yn ein digwyddiad lansio hefyd. Felly, pan fydd y cynllun hwnnw’n cael ei gyhoeddi a’r Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno fe, fe fyddwn yn dod ag ef yn ôl i'r Cynulliad ar ôl toriad y Pasg er mwyn cael cyfle i’w drafod.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Rwy'n ymwybodol o’r embargo oriau brig ar symudiadau llwythi annormal, sy’n cynnwys cario carafanau, ar bob ffordd, bron, yn ardal heddlu Manceinion Fwyaf. O 1 Ebrill ymlaen, fe fydd cerbydau yn cael eu stopio, ac ni fyddan nhw’n cael parhau ar eu taith yn ystod oriau brig, fel yr wyf i ar ddeall. Fe fydd hyn yn effeithio ar nifer o barciau gwyliau yng nghanolbarth a gogledd Cymru gan fod Hull yn ganolfan ar gyfer diwydiant gweithgynhyrchu carafanau’r DU, ac mae dosbarthu carafanau yn amserol ac yn effeithiol, wrth gwrs, yn hanfodol ar gyfer dichonoldeb y sector. Felly, fe fyddwn i’n gwerthfawrogi pe byddai’r Gweinidog dros Drafnidiaeth yn cydgysylltu â heddlu Manceinion Fwyaf ac fe allai datganiad ddilyn i egluro'r effaith ar Gymru yn hyn o beth, oherwydd, yn amlwg, ceir effaith sylweddol ar y sector twristiaeth yma gan y symudiadau hyn, ac, fel yr wyf i ar ddeall, nid oes unrhyw ymgynghoriad wedi bod. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oes rhywun wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar y mater penodol hwn.
Yn ail, mae lefelau uchel afonydd a llifogydd i lawr Afon Clywedog yn ddiweddar wedi bod yn destun pryder. Clywais eich ymateb i Janet Finch-Saunders ac rwy'n cydnabod bod datganiad wedi ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, ond mae fy mhryder penodol i’n canolbwyntio ar reoli’r gwaith o dynnu dŵr o ddau argae yn fy etholaeth i, a byddwn i’n ddiolchgar—. Byddai'n ddefnyddiol cael datganiad ar safbwynt presennol Llywodraeth Cymru o ran rheoli lefelau dŵr yn argaeau Cymru ac, yn benodol, wrth gwrs, y ddau y mae gennyf ddiddordeb ynddyn nhw, sef Llyn Clywedog a Llyn Efyrnwy.
Diolch am y materion hynny. O ran y cyntaf, fe fyddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod Gweinidog yr economi yn ysgrifennu atoch chi ynghylch unrhyw drafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda heddlu Manceinion neu'r awdurdod lleol yno i sicrhau bod traffig yn symud yn rhwydd fel nad yw'n effeithio ar ein diwydiant twristiaeth yn eich rhan chi o'r byd yn enwedig.
Ac a gaf i awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd ynghylch tynnu dŵr o'r ddau argae sy'n peri pryder arbennig ichi?
Trefnydd, yn dilyn y pwyntiau a godwyd gan fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Weinidog cydraddoldeb am ei datganiad ysgrifenedig mewn ymateb i’r digwyddiadau ofnadwy yn Seland Newydd ac yn awr, wrth gwrs, yn yr Iseldiroedd. Fodd bynnag, rwy'n gofyn i’r Llywodraeth ailystyried a allwn ni, mewn gwirionedd, gael hwn wedi ei gyhoeddi fel datganiad llafar er mwyn ein galluogi ni i graffu arno a herio’r Llywodraeth ymhellach ynghylch pa gamau a gymerir i atal eithafiaeth asgell dde ac eithafiaeth o unrhyw fath.
Wrth gwrs, mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi llawer o’r gwaith presennol sydd eisoes yn digwydd ac mae hynny'n sicr yn waith y byddai pob un ohonom ni yn Plaid Cymru yn ei groesawu'n fawr, ond mae'r Dirprwy Weinidog yn ei datganiad yn cyfeirio, wrth gwrs, at noswyl a drefnwyd ddydd Gwener gan Cyngor Mwslimiaid Cymru. Roeddwn i’n falch iawn o weld y Prif Weinidog ac uwch-wleidyddion eraill yno. Roeddwn i’n falch iawn o gynrychioli Plaid Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cofio ni'n cael ein herio'n gryf iawn gan un o'r siaradwyr Mwslimaidd ifanc a ddywedodd, 'Mae’n rhaid ichi wneud yn well'. Ac mae arnaf ofn fy mod i o'r farn mai’r hyn sydd gennym yn y datganiad ysgrifenedig yw datganiad o'r hyn sydd eisoes wedi ei wneud, ac mae hynny'n dda, ond rwy'n credu ei bod hi’n ddyletswydd arnom ni, ar draws y sbectrwm gwleidyddol, i ddarparu sicrwydd, ond i edrych ar gamau gweithredu ychwanegol eraill hefyd. Er enghraifft, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y Llywodraeth yn ymrwymo i ariannu ymchwil i weld beth sy'n strategaethau effeithiol er mwyn ymdrin ag eithafiaeth o bob math a gwrthsefyll ei dwf, oherwydd rydym ni'n gwybod nad yw rhai o'r strategaethau sy’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd, drwy'r rhaglen Prevent, er enghraifft, yn llwyddiannus bob amser.
Felly, rwy'n gofyn a yw’n bosibl i chi ailystyried—. Wyddoch chi, yn ddelfrydol, dadl yn amser y Llywodraeth a fyddai orau oherwydd y byddwn ni’n gallu cyfrannu'n llawn, ond, os na fydd amser am ddadl ar gael—ac rwy'n gwerthfawrogi faint o bwysau amser sydd yn y Siambr hon—ac os bydd dadl yn amhosibl, rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog gyflwyno’r datganiad ysgrifenedig fel datganiad llafar er mwyn gallu gofyn rhagor o gwestiynau.
Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, roedd y Dirprwy Weinidog yma i glywed eich cyfraniad. Rwy'n siŵr y bydd hi'n rhoi rhagor o ystyriaeth i'r mater.
A gaf i ddechrau drwy ymuno ag arweinwyr ar draws y Siambr a'r Prif Weinidog i longyfarch tîm rygbi Cymru ar eu buddugoliaeth wych dros y penwythnos? Fe ddylent fod yn hynod o falch o'r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld nhw’n dod yn eu holau o Japan ddiwedd mis Tachwedd gyda Chwpan y Byd gan ddod â'r fasnach twristiaeth gyda nhw, fel y mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato o'r blaen.
Llywydd, rwy'n gwybod bod yr Aelod dros Flaenau Gwent wedi cymryd diddordeb brwd yn y Cwpan Irn-Bru, a dyna pam yr wyf yn gobeithio y bydd ef, ynghyd â’r Trefnydd, yn dymuno’r gorau i Nomadiaid Cei Connah ar gyfer eu rownd derfynol yn erbyn Ross County dros y penwythnos. Mae pawb yng Nglannau Dyfrdwy yn eu cefnogi'n llwyr, ac rwyf yn edrych ymlaen at wneud y daith i fyny i Inverness y penwythnos yma ac at gwrdd â chefnogwr sydd wedi hedfan o Awstralia ar gyfer y gêm. Dyna pa mor bwysig ydyw i bobl o’r gogledd.
Ond, Llywydd, peidiwch â phoeni, nid yw’r chwaraeon yn gorffen yn y fan yna, mae mwy i ddod. Ddiwedd y mis, fe fyddaf innau yn cau careiau fy esgidiau. Byddaf yn dod allan o’m hymddeoliad ac yn chwarae i’r Offside Trust yn erbyn actorion Hollyoaks. Ond ar nodyn mwy difrifol, Dirprwy Lywydd, a wnaiff y Trefnydd ddatganiad a threfnu i'r Gweinidog perthnasol wneud datganiad ar yr hyn sy’n cael ei wneud i gefnogi elusennau fel Offside Trust sy'n cefnogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol er mwyn i ni allu sicrhau ein bod ni’n cael gwared ar gam-drin mewn chwaraeon am byth? Diolch.
Diolch yn fawr iawn i Jack Sargeant am godi'r hyn sydd yn fater difrifol a phwysig iawn. Rwy'n cofio, pan oeddwn yn y portffolio chwaraeon, fy mod yn awyddus iawn i archwilio sut y gallem gydweithio orau â'r cyrff llywodraethu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel pan eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Gwn y bydd y Gweinidog chwaraeon presennol yn ysgrifennu atoch gyda diweddariad ar y mathau hynny o drafodaethau. Ac, wrth gwrs, rwy'n manteisio ar bob cyfle i ddymuno'r gorau i Grwydriaid Cei Connah, fel y gwnaf i'r rhan fwyaf o dimau—[Chwerthin.]—a diolchaf i Jack am godi hyn eto.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn enwedig os nad ydyn nhw'n cael eu codi yn y cwestiynau amserol yfory? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r sefyllfa gyda chwmni adeiladu Dawnus, ac er fy mod i'n diolch i Lywodraeth Cymru am y datganiad ysgrifenedig byr a dderbyniwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu y byddai'n werthfawr iawn i'r Aelodau gael y cyfle i ofyn cwestiynau, oherwydd bod cwymp cwmni sy'n mor bwysig i economi Cymru yn bendant yn werth datganiad llafar, yn fy marn i.
Yn ail, rwyf yn ategu cais Dai Lloyd am ddatganiad ar fargen ddinesig Bae Abertawe. Er fy mod i'n rhannu ei rwystredigaethau ynghylch pa mor gyflym y mae peth o'r arian yn cael ei ryddhau, nid yw hynny'n syndod o ystyried bod rhai cwestiynau difrifol wedi eu codi ynglŷn â rheoli risg, gwrthdaro buddiannau o bosibl, ar draws strwythur llywodraethu'r fargen ddinesig. Os cawn ni ddatganiad llafar am hynny, credaf y byddai hynny'n eithriadol o bwysig, oherwydd mae dyfodol y fargen hon yn bwysig ac mae'n gyfle mor bwysig i'n rhanbarth ni, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys eich etholaeth chi, a byddai'n drueni os na fyddwn ni'n cael cyfle i drafod hyn yn llawn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn cofio bod Ken Skates wedi gwneud datganiad ysgrifenedig ar Dawnus yn syth ar ôl y newyddion ddiwedd yr wythnos diwethaf, ac mae swyddogion yn monitro cynnydd y gweithdrefnau gweinyddu. Byddwn yn sicr yn gweithio â'r gweinyddwr, pan gaiff ei benodi, er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar gyfer pawb yr effeithir arnynt. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gydag asiantaethau partner yn y sector preifat i gefnogi staff uniongyrchol sydd wedi eu heffeithio gan y newyddion. Ac rydym yn sylweddoli, wrth gwrs, bod hyn yn amser annifyr iawn i bawb dan sylw, a byddwn yn ceisio cefnogi unigolion sydd wedi eu heffeithio i gael swyddi newydd tymor hir a diogel.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgysylltu â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu i geisio sicrhau y gellir nodi lleoliadau newydd ar gyfer prentisiaid fel eu bod yn gallu gorffen eu rhaglenni hyfforddi. Ac, wrth gwrs, bydd rhai effeithiau sylweddol ar gadwyn gyflenwi Cymru, ac felly rydym ni'n gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i gefnogi'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt.
Yn amlwg, bydd rhai contractau sector cyhoeddus parhaus sylweddol yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio, a byddwn yn gweithio â'r gweinyddwr er mwyn sicrhau bod yr oedi, y tarfu ac unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu cadw cyn lleied â phosibl. Rwyf wedi siarad am y mater hwn gyda Ken Skates y bore yma, a gwn y bydd yn croesawu'r cyfle yn ystod y cwestiynau yfory i ddarparu rhagor o wybodaeth ac i sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei ddiweddaru cymaint â phosibl.
Hoffwn innau hefyd ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth y prynhawn yma, yn gyntaf ar y cyfryngau a mynediad at newyddion yng Nghymru. Rydym wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf bod dwy orsaf fasnachol sy'n gwasanaethu Cymru yn dileu eu sioeau brecwast a gynhyrchir yn lleol, a chlywsom yr wythnos diwethaf fod Radio Cymru yn dileu Good Morning Wales ac yn ei disodli ym mis Mai. Gyda'i gilydd, mae hwn yn fater arwyddocaol i wlad sydd eisoes yn brin iawn o gyfleoedd i gael gafael ar newyddion a materion cyfoes yn ymwneud nid yn unig â llywodraethu Cymru, ond yr hyn sy'n digwydd yn y wlad hon. A gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn gallu cael safbwynt ar y materion hyn a rhoi cyfle i'r Aelodau drafod a dadlau'r materion hyn ac yna edrych ymlaen at sut y gallem fynd i'r afael â'r materion real iawn sy'n ein hwynebu o ran diffyg newyddion a materion cyfoes yn y wlad hon.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael, gan y Llywodraeth, os yw'n bosibl, yw dilyniant ar y cynnig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru gerbron yr Aelodau rai wythnosau yn ôl a oedd yn cynnwys ymrwymiad i baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus i ganiatáu i'r cyhoedd leisio barn derfynol ar unrhyw drafodaethau neu unrhyw gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, gwn fod y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar y trafodaethau ynghylch yr argyfwng Undeb Ewropeaidd, os mynnwch chi, yn ddiweddarach y prynhawn yma, yn syth ar ôl y datganiad hwn. Ond fe hoffwn i glywed gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y mae Gweinidogion wedi bod yn ei wneud i gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac a gafodd wedyn ei gefnogi gan Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddechrau paratoadau ar gyfer cynnal pleidlais o'r fath. Credaf y byddai'n ddefnyddiol i Aelodau ddeall pa gamau y mae Gweinidogion unigol wedi bod yn eu cymryd a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cymryd er mwyn hyrwyddo'r polisi hwn ac er mwyn sicrhau bod pleidlais gyhoeddus yn digwydd i alluogi pob un ohonom i gael gair olaf democrataidd ar y materion yn ymwneud â Brexit a'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch yn fawr iawn. Ynglŷn â radio masnachol yn y lle cyntaf, yn amlwg, mae'r sector yn gwneud cyfraniad hanfodol pan ein bod yn ystyried pwysigrwydd sicrhau lluosogrwydd gwasanaethau yng Nghymru. Fel Llywodraeth, yn sicr nid ydym ni'n dymuno gweld rheolau lleolrwydd presennol ynghylch radio masnachol yn cael eu llacio ymhellach na'u diddymu. Rydym wedi pwysleisio hyn yn rheolaidd i Ofcom, a hefyd, rydym wedi codi'r mater hwn yng nghyd-destun ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Llywodraeth Cymru i radio yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi bod yn rhaid i weithrediadau radio masnachol fod yn hyfyw yn ariannol er mwyn bod yn gynaliadwy, ond rydym yn annog Ofcom i ymgysylltu â'r diwydiant i nodi dewisiadau eraill i gefnogi cynaliadwyedd radio masnachol, heb lacio'r rheolau lleolrwydd hynny, yn enwedig ynglŷn â darpariaeth newyddion lleol.
O ran y mater o ddarpariaeth amser brecwast BBC News, BBC Cymru neu BBC Wales yn y dyfodol, deallaf y bu cynigion i newid hynny, a byddwn yn awgrymu eich bod yn codi eich pryderon yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog perthnasol, a fydd yn gallu gwneud sylwadau ar eich rhan.
Ac, fel y dywedwch, mae gennym ddatganiad gan y Prif Weinidog ar Brexit fel yr eitem nesaf yn y Siambr y prynhawn yma, a byddwn yn awgrymu eich bod yn codi'r mater yn ystod y datganiad hwnnw.
Galwaf am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, ar ariannu prentisiaethau, wythnos yn ôl, yn y Siambr, cyflwynodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ddatganiad ar brentisiaethau a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol. Yn ystod ei gyfraniad, dywedodd bod tric consurio yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ar ariannu prentisiaethau, oherwydd ni roddwyd arian ychwanegol i ni i adlewyrchu ardoll. Yr ardoll yw... treth ar fusnesau ac nid yw'r cyllid wedi ei drosglwyddo i ni—torrwyd oddeutu £120 miliwn gan y Llywodraeth yn Lloegr oddi ar brentisiaethau sector cyhoeddus, ac, wele, ymddangosodd £120 miliwn yn ein cyllideb ni i ariannu'r cynllun hwn.
Fodd bynnag, dywedodd llythyr dyddiedig 20 Gorffennaf 2018 oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol y DU at Eluned Morgan, a hi oedd, ar y pryd, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, fod y swm o arian a oedd yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru o dan fformiwla Barnett wedi'i warantu yn yr adolygiad o wariant. Mae'r swm yn defnyddio £128 miliwn yn 2017-18, yn codi i £133 miliwn yn 2018-19 ac i £138 miliwn yn 2019-20. Felly, a gawn ni ddatganiad yn egluro (a) faint o arian gafodd Llywodraeth Cymru o dan y system flaenorol, (b) faint mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gorfod ei dalu i'r ardoll, y mae'n rhaid wedyn i Llywodraeth Cymru wneud iawn amdano gyda swm y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU ac (c) cadarnhau ei bod wir yn derbyn y ffigurau sydd yn y llythyr hwnnw oddi wrth yr Ysgrifennydd Cartref fis Gorffennaf diwethaf, neu fel arall a oes gennych chi dystiolaeth i'r gwrthwyneb?
Yn ail, a gaf i ddatganiad gan Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ar y gefnogaeth ar gyfer rheilffyrdd treftadaeth o led safonol yng Nghymru? Ac rwy'n siŵr fod nifer ohonom ni wrth ein boddau â'n rheilffyrdd treftadaeth. Gofynnwyd i mi ddod ag erthygl a fu yn y Denbighshire Free Press yn gynharach y mis hwn ar brosiect Corwen rheilffordd Llangollen i sylw cynrychiolwyr etholedig. Roedd hwn yn dweud bod gwirfoddolwyr sy'n adeiladu'r cyswllt rhwng dwy dref yn Sir Ddinbych yn dweud bod angen £10,000 arnynt i gwblhau'r prosiect. Maen nhw wedi gorffen 10 milltir o reilffordd rhwng Llangollen a Chorwen ers i drenau roi'r gorau i redeg 45 mlynedd yn ôl, mae platfform wedi ei greu, ond mae bwlch yn dal i fod yn yr arglawdd rhwng yr orsaf newydd yng Nghorwen a gweddill y rheilffordd, a'r nod yw llenwi'r bwlch hwnnw. Mae'r prosiect ar gyfer yr orsaf yn costio tua £1 miliwn. Mae tua £600,000 o hyn yn waith sydd wedi ei gyflawni gan wirfoddolwyr, ac maen nhw'n gobeithio, gorffen hyn cyn tymor yr haf, oherwydd bod denu pobl i ymuno â'r trên yng Nghorwen yn hanfodol a bydd y dref yn elwa ar yr ymwelwyr ychwanegol hefyd.
Os caf i alw am ddatganiad ar gymorth ar gyfer ein rheilffyrdd treftadaeth o led safonol—oherwydd gwyddom fod Llywodraeth Cymru yw cefnogi'n rheilffyrdd treftadaeth cul—a chymeradwyo ac ystyried sut y gallwn ni gefnogi'r ymdrech wirfoddol enfawr honno, sydd nid yn unig yn cyflawni prosiectau treftadaeth, ond sydd hefyd yn cynnig cymaint i dwristiaeth ac economïau ehangach ardaloedd y mae wir angen yr ysgogiad hwnnw arnynt.
Diolch am grybwyll hynny. Fe wnaf i yn sicr ysgrifennu atoch chi gyda'r eglurder sydd ei hangen arnoch chi ynghylch yr ardoll prentisiaeth, a byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr y bydd y Gweinidog priodol yn ysgrifennu atoch chi ynglŷn â'r rheilffyrdd treftadaeth lled safonol, ond fe wnaf i achub ar y cyfle hwn i ymuno â chi i longyfarch y gwirfoddolwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud er mwyn diogelu'r rhan hon o'n treftadaeth a'n hanes, a hefyd i hybu a gwella twristiaeth.
Ac yn olaf, Mohammad Asghar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â'r canfyddiadau diweddar o ran sgrinio serfigol yng Nghymru? Dywedodd Sgrinio Serfigol Cymru bod traean o'r menywod o dan 30 mlwydd oed yn gwrthod gwahoddiadau i gael prawf canser ceg y groth, sy'n glefyd ofnadwy mewn gwirionedd. Canser ceg y groth yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod ifanc. Fel gyda phob math o ganser, po gynharaf y canfyddir y clefyd, y gorau y gellir ei gyflawni ar gyfer y claf. A allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r hyn y mae hi'n bwriadu ei wneud i gynyddu nifer y merched ifanc sy'n cael y profion sgrinio hanfodol hyn yng Nghymru?
A'r ail ddatganiad yr hoffwn i ei gael yn y Siambr hon yw ynglŷn â chydlyniant a diogelwch cymunedol. Yng ngoleuni'r hyn a ddigwyddodd yn Seland Newydd, rwy'n gobeithio y bydd y wlad hon yn gosod esiampl fel gwlad gariadus, oddefgar ac yn hyrwyddo cydlyniant ymysg cymunedau a lles pawb sy'n byw yn y rhan hon o'r byd, a'i drafod yn y Siambr yn rheolaidd, i arwain y byd o ran sut yr ydym ni'n byw a sut yr ydym ni'n gwella ein safon. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. O ran y mater o ganser ceg y groth, rwy'n eich cyfeirio at yr ateb a roddais i Jenny Rathbone yn gynharach y prynhawn yma, ond yn cydnabod, fel y dywedwch chi, fod diagnosis cynharach yn hynod bwysig, a dyna pam mae'r amseroedd ymateb ar gyfer canlyniadau profion ceg y groth yng Nghymru—rydym ni'n gweithio'n galed iawn er mwyn sicrhau eu bod yn rhagori ar ein targed o 95 y cant o'r canlyniadau yn cael eu derbyn o fewn pedair wythnos, gyda 99.2 y cant o fenywod mewn gwirionedd yn cael eu prawf o fewn yr amser safonol, felly credaf fod hynny'n dyst i'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn y maes hwnnw. Ond fel y dywedais yn gynharach, yn sicr nid ydym ni'n llaesu dwylo, a byddem yn annog Aelodau i gymryd rhan yn yr ymgyrch #loveyourcervix, sydd wedi'i hanelu yn arbennig at ferched ifanc, sef y grŵp sydd leiaf tebygol ar hyn o bryd o fynd i gael eu sgrinio.
Ni allaf ond cytuno ag ac ategu eich sylw ynglŷn â Chymru'n wlad gariadus, groesawgar, oddefgar, a gobeithiaf yr adlewyrchwyd hynny yn y datganiad ysgrifenedig a wnaeth y Dirprwy Weinidog yn gynharach heddiw.
Diolch yn fawr iawn, Rebecca Evans.