Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 19 Mawrth 2019.
Yr wythnos diwethaf, Dirprwy Lywydd, fe welsom ni ddrama ffug taith funud olaf Mrs May i Strasbwrg i gael cyfres newydd o ymrwymiadau ail-law gan 27 o wledydd yr UE. Roedd yr ymrwymiadau hyn eisoes ymhlyg neu'n amlwg yn y cytundeb ymadael ym mis Tachwedd ac y cefnodd y Prif Weinidog arno ym mis Ionawr. Yna fe wnaethom ni edrych mewn syndod wrth iddi fethu â sicrhau cymeradwyaeth ei swyddog cyfraith ei hun o ran yr honiadau yr oedd hi wedi eu gwneud.
A, drwy ddangos y gwir—fod y 27 o wledydd yr UE wedi gwneud popeth posib i wneud y cytundeb yn dderbyniol heb gefnu ar egwyddorion yr UE o undod rhwng aelod-wladwriaethau a pharchu'r farchnad sengl—mae Prif Weinidog y DU wedi helpu 27 o wledydd yr UE i ddangos bod unrhyw fethiant parhaol yn y trafodaethau hyn yn ganlyniad i gamreoli gwleidyddol y Llywodraeth Dorïaidd.
Y canlyniad yw ein bod ni bellach ar ymyl y dibyn. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd Brexit llwgrwobrwyol y Prif Weinidog yn llwyddo. Os, fel y mae hi yn awr yn ymddangos sy'n debygol, y bydd hi'n gofyn am estyniad i Erthygl 50 heb unrhyw gynllun clir, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y 27 o wledydd yr UE yn llwyddo i gael yr unfrydedd angenrheidiol sydd ei angen i gytuno i hynny. Os lwyddan nhw, hwyrach y byddant yn gosod amodau, gan gynnwys y gofyniad i gynnal etholiadau Ewropeaidd ymhen dau fis, y gallai Llywodraeth y DU, yn ei thro, eu gwrthod.
A, hyd yn oed os cytunir ar estyniad, byddwn mewn maes dieithr. Yn llawer rhy aml yn y broses hon, Dirprwy Lywydd, mae Saeson cenedlaetholgar cibddall y mudiad Brexit yn anghofio bod angen i ddwy senedd gymeradwyo unrhyw gytundeb. Mae'n rhaid i Senedd Ewrop bleidleisio arno erbyn 18 Ebrill—ei chyfarfod llawn olaf cyn cael ei hethol—neu bydd angen i'r broses ddechrau gyda Senedd Ewrop newydd a gwahanol iawn o bosib yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Nawr, hyd yn oed heb ymyrraeth llefarydd Tŷ'r Cyffredin ddoe, roedd hi'n amlwg nad oedd gan y Prif Weinidog unrhyw le i fynd. Erbyn y trydydd diwrnod o bleidleisiau'r wythnos diwethaf, roedd ei Chabinet wedi chwalu. Caeodd yr Ysgrifennydd Brexit y ddadl drwy gyflwyno'r cynnig ar gyfer yr estyniad ac annog Aelodau Seneddol i beidio â phleidleisio fel yr oedd yntau yn bwriadu ei wneud, ochr yn ochr â phump o Weinidogion Cabinet eraill.
Sicrhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod yn pleidleisio ddwywaith: unwaith o blaid, ac unwaith yn erbyn y cynnig yn enw ei Brif Weinidog ei hun. Pasiwyd y cynnig hwnnw gyda phleidleisiau'r wrthblaid yn unig. Mae gennym ni Lywodraeth sy'n dal i ddioddef gorchfygiad ar ôl gorchfygiad, Cabinet mor rhanedig ag erioed, a Phrif Weinidog na all uno ei phlaid ei hun, heb sôn am y genedl. O ran y mater pwysicaf i'r Llywodraeth, nid oes unrhyw arweinyddiaeth, nid oes cyfrifoldeb ar y cyd ac nid oes unrhyw reolaeth.
Does bosib, Dirprwy Lywydd, fod yr amser wedi dod pryd mae'n rhaid i'r Llywodraeth, gyda neu heb y Prif Weinidog, newid cwrs er mwyn meithrin consensws traws-bleidiol—nid er mwyn ceisio dyhuddo llond llaw o bobl anfoddog a gwrthwynebus, ond drwy sicrhau cymorth gan arweinwyr y pleidiau o bob rhan o Dŷ'r Cyffredin—ac i wneud hynny'r sail yr ydym ni'n ceisio estyniad i Erthygl 50 arni.
Ond, Dirprwy Lywydd, ni fydd hyn yn digwydd os yw'r Llywodraeth a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Torïaidd yn cael eu llyffetheirio gan ofynion y Prif Weinidog: 'na' i'r farchnad sengl; 'na' i undeb tollau; 'na' i agwedd synhwyrol i ymfudo. Mae oblygiadau ei strategaeth drychinebus a gafodd ei disgrifio yn ei haraith yn Lancaster House yn dod i'w penllanw trychinebus. Rydym ni wedi gweithio'n galed i baratoi Cymru ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ond dim ond hyn a hyn a allwn ni ei wneud i liniaru beth fyddai'n drychineb llwyr i Gymru.
Rydym ni'n parhau i gynrychioli ein buddiannau cenedlaethol ar bob cyfle. Aeth Vaughan Gething yr wythnos diwethaf i gyfarfod cyntaf gweinidogion iechyd y pedair gwlad. Rydym ni wedi cynnal cyfarfodydd yr wythnos hon o'n Cabinet ein hunain ac o'n his-bwyllgor Cabinet ein hunain ar ymadael â'r UE. Bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn siarad â David Lidington y prynhawn yma, ar ôl cyfarfod ag aelodau o Senedd Ewrop yn Strasbourg yr wythnos diwethaf.
Nawr, Dirprwy Lywydd, fel yr wyf i wedi ei gwneud hi'n glir dro ar ôl tro yn y Siambr hon, yn ein barn ni, mae dwy ffordd y gellid gwneud cynnydd. Rydym ni'n parhau i ddadlau dros y polisi y buom ni'n ei arddel erioed ers y refferendwm: ffurf ar Brexit sy'n rhoi buddiannau economaidd ein gwlad o flaen ymagweddu a gorchest wleidyddol, ac sy'n rhoi swyddi cyn ymadroddion rhwysgfawr ond gwag fel adfer rheolaeth o'n harian, ein ffiniau a'n cyfreithiau. A, Dirprwy Lywydd, nid yn unig yw ein cynllun yn gywir mewn egwyddor, ond rydym ni hefyd yn credu bod modd ei gyflawni'n ymarferol. Byddai aildrafod y datganiad gwleidyddol yn y modd hwn, gan ymrwymo i gymryd rhan mewn undeb tollau ac yn y farchnad sengl, ynghyd â chael cyfatebiaeth ddeinamig â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei groesawu, fel y gwyddom ni, gan 27 o wledydd yr UE, ac, rydym ni'n credu, y gellid cyflawni hyn yn gyflym a'r tu allan i'r cytundeb ymadael ei hun.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymalau drafft i ddangos sut y gellid cynnwys newidiadau o'r fath mewn deddfwriaeth sylfaenol—enghraifft arall o Gymru yn cyflwyno atebion creadigol i broses sydd fel arall mewn parlys llwyr. Mae'r parlys hwnnw, Dirprwy Lywydd, yn deillio o gymysgedd gwenwynig o anghymhwysedd ac anhyblygrwydd sydd wedi dod yn nodwedd o Lywodraeth y DU. Oherwydd ei bod hi mor anodd cael ffydd yn ei gallu i sicrhau Brexit trefnus, dyna pam ein bod ni'n parhau i gefnogi ail bleidlais gyhoeddus os na ellir fel arall dod o'r parlys hwnnw. Dyna'r sefyllfa yr ydym ni wedi'i nodi yn y Siambr hon, ac rwy'n ei hailadrodd eto heddiw, ond ni ddylai unrhyw un, fel y gwyddom ni, dybio y bydd hynny'n syml.
Mae ail bleidlais yn gynnig sydd eto i sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Byddai angen estyniad hirach na 30 Mehefin, gyda'i holl oblygiadau ar gyfer etholiadau Ewropeaidd. A byddai ail ymgyrch refferendwm yn cael ei hymladd mewn ffordd a fyddai'n anochel yn peri rhwyg. Ond gadewch i mi ailadrodd eto: Os yw Tŷ'r Cyffredin yn penderfynu mai pleidlais gyhoeddus yw'r ffordd drwy'r gors a grëwyd, yna bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithredu yn y modd hwnnw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n sefyll ar ymyl y dibyn. Gyda dim ond 10 diwrnod nes yr ydym ni i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid oes cytundeb, ac ychydig iawn o arwyddion sydd gan y Prif Weinidog fod parodrwydd neu gynllun i ganfod cytundeb newydd. Boed iddi newid cwrs. Boed iddi roi anghenion y wlad cyn ei phlaid doredig. Boed iddi estyn allan at bobl eraill sy'n barod i helpu, a boed iddi wneud hynny cyn ei bod hi'n rhy hwyr.