– Senedd Cymru am 3:08 pm ar 19 Mawrth 2019.
Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan y Prif Weinidog ar y newyddion diweddaraf am drafodaethau'r UE, a galwaf ar Mark Drakeford, y Prif Weinidog.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos ddiwethaf, roedd cyfle arall eto i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau pendant i osgoi'r trychineb o Brexit heb gytundeb. Naill ai byddai'r Prif Weinidog yn llwyddo i gael ei chytundeb drwy'r Senedd, gan glirio'r ffordd ar gyfer estyniad byr i erthygl 50 i basio'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen, neu byddai'r Senedd yn dweud wrthi am ofyn i'r Cyngor Ewropeaidd am estyniad i erthygl 50 beth bynnag. Byddai cyfres o bleidleisiau seneddol yn rhoi cyfle i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi diwedd ar yr ansicrwydd sy'n niweidio ein heconomi ac sy’n effeithio ar fywydau ein cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig a thramor.
Ond, Dirprwy Lywydd, fe fyddwn ni’n cyrraedd diwedd yr wythnos heb symud ymlaen o gwbl. Er gwaethaf barn glir Tŷ'r Cyffredin, dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi gofyn am estyniad eto, nac wedi dweud yn gyhoeddus nad yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn. Mae methiant trychinebus cytundeb y Prif Weinidog am yr ail waith yn cadarnhau beth roedden ni'n gwybod o'r dechrau. Y Democratic Unionist Party a'r European Research Group yw'r union grwpiau sydd eisiau inni ymadael heb gytundeb, ac roedd dibynnu arnyn nhw i bleidleisio dros gytundeb sydd ddim yn eu plesio nhw—nac yn plesio’r rhai eraill ohonom ni sydd am leihau niwed economaidd Brexit—yn hollol ddwl.
Yr unig beth lwyddodd y Prif Weinidog i’w wneud yr wythnos ddiwethaf oedd creu mwy o niwed i fuddiannau ein gwlad, a’i gwneud yn fwy tebygol y byddwn yn ymadael heb gytundeb ar 29 Mawrth.
Yr wythnos diwethaf, Dirprwy Lywydd, fe welsom ni ddrama ffug taith funud olaf Mrs May i Strasbwrg i gael cyfres newydd o ymrwymiadau ail-law gan 27 o wledydd yr UE. Roedd yr ymrwymiadau hyn eisoes ymhlyg neu'n amlwg yn y cytundeb ymadael ym mis Tachwedd ac y cefnodd y Prif Weinidog arno ym mis Ionawr. Yna fe wnaethom ni edrych mewn syndod wrth iddi fethu â sicrhau cymeradwyaeth ei swyddog cyfraith ei hun o ran yr honiadau yr oedd hi wedi eu gwneud.
A, drwy ddangos y gwir—fod y 27 o wledydd yr UE wedi gwneud popeth posib i wneud y cytundeb yn dderbyniol heb gefnu ar egwyddorion yr UE o undod rhwng aelod-wladwriaethau a pharchu'r farchnad sengl—mae Prif Weinidog y DU wedi helpu 27 o wledydd yr UE i ddangos bod unrhyw fethiant parhaol yn y trafodaethau hyn yn ganlyniad i gamreoli gwleidyddol y Llywodraeth Dorïaidd.
Y canlyniad yw ein bod ni bellach ar ymyl y dibyn. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd Brexit llwgrwobrwyol y Prif Weinidog yn llwyddo. Os, fel y mae hi yn awr yn ymddangos sy'n debygol, y bydd hi'n gofyn am estyniad i Erthygl 50 heb unrhyw gynllun clir, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y 27 o wledydd yr UE yn llwyddo i gael yr unfrydedd angenrheidiol sydd ei angen i gytuno i hynny. Os lwyddan nhw, hwyrach y byddant yn gosod amodau, gan gynnwys y gofyniad i gynnal etholiadau Ewropeaidd ymhen dau fis, y gallai Llywodraeth y DU, yn ei thro, eu gwrthod.
A, hyd yn oed os cytunir ar estyniad, byddwn mewn maes dieithr. Yn llawer rhy aml yn y broses hon, Dirprwy Lywydd, mae Saeson cenedlaetholgar cibddall y mudiad Brexit yn anghofio bod angen i ddwy senedd gymeradwyo unrhyw gytundeb. Mae'n rhaid i Senedd Ewrop bleidleisio arno erbyn 18 Ebrill—ei chyfarfod llawn olaf cyn cael ei hethol—neu bydd angen i'r broses ddechrau gyda Senedd Ewrop newydd a gwahanol iawn o bosib yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Nawr, hyd yn oed heb ymyrraeth llefarydd Tŷ'r Cyffredin ddoe, roedd hi'n amlwg nad oedd gan y Prif Weinidog unrhyw le i fynd. Erbyn y trydydd diwrnod o bleidleisiau'r wythnos diwethaf, roedd ei Chabinet wedi chwalu. Caeodd yr Ysgrifennydd Brexit y ddadl drwy gyflwyno'r cynnig ar gyfer yr estyniad ac annog Aelodau Seneddol i beidio â phleidleisio fel yr oedd yntau yn bwriadu ei wneud, ochr yn ochr â phump o Weinidogion Cabinet eraill.
Sicrhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod yn pleidleisio ddwywaith: unwaith o blaid, ac unwaith yn erbyn y cynnig yn enw ei Brif Weinidog ei hun. Pasiwyd y cynnig hwnnw gyda phleidleisiau'r wrthblaid yn unig. Mae gennym ni Lywodraeth sy'n dal i ddioddef gorchfygiad ar ôl gorchfygiad, Cabinet mor rhanedig ag erioed, a Phrif Weinidog na all uno ei phlaid ei hun, heb sôn am y genedl. O ran y mater pwysicaf i'r Llywodraeth, nid oes unrhyw arweinyddiaeth, nid oes cyfrifoldeb ar y cyd ac nid oes unrhyw reolaeth.
Does bosib, Dirprwy Lywydd, fod yr amser wedi dod pryd mae'n rhaid i'r Llywodraeth, gyda neu heb y Prif Weinidog, newid cwrs er mwyn meithrin consensws traws-bleidiol—nid er mwyn ceisio dyhuddo llond llaw o bobl anfoddog a gwrthwynebus, ond drwy sicrhau cymorth gan arweinwyr y pleidiau o bob rhan o Dŷ'r Cyffredin—ac i wneud hynny'r sail yr ydym ni'n ceisio estyniad i Erthygl 50 arni.
Ond, Dirprwy Lywydd, ni fydd hyn yn digwydd os yw'r Llywodraeth a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Torïaidd yn cael eu llyffetheirio gan ofynion y Prif Weinidog: 'na' i'r farchnad sengl; 'na' i undeb tollau; 'na' i agwedd synhwyrol i ymfudo. Mae oblygiadau ei strategaeth drychinebus a gafodd ei disgrifio yn ei haraith yn Lancaster House yn dod i'w penllanw trychinebus. Rydym ni wedi gweithio'n galed i baratoi Cymru ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ond dim ond hyn a hyn a allwn ni ei wneud i liniaru beth fyddai'n drychineb llwyr i Gymru.
Rydym ni'n parhau i gynrychioli ein buddiannau cenedlaethol ar bob cyfle. Aeth Vaughan Gething yr wythnos diwethaf i gyfarfod cyntaf gweinidogion iechyd y pedair gwlad. Rydym ni wedi cynnal cyfarfodydd yr wythnos hon o'n Cabinet ein hunain ac o'n his-bwyllgor Cabinet ein hunain ar ymadael â'r UE. Bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn siarad â David Lidington y prynhawn yma, ar ôl cyfarfod ag aelodau o Senedd Ewrop yn Strasbourg yr wythnos diwethaf.
Nawr, Dirprwy Lywydd, fel yr wyf i wedi ei gwneud hi'n glir dro ar ôl tro yn y Siambr hon, yn ein barn ni, mae dwy ffordd y gellid gwneud cynnydd. Rydym ni'n parhau i ddadlau dros y polisi y buom ni'n ei arddel erioed ers y refferendwm: ffurf ar Brexit sy'n rhoi buddiannau economaidd ein gwlad o flaen ymagweddu a gorchest wleidyddol, ac sy'n rhoi swyddi cyn ymadroddion rhwysgfawr ond gwag fel adfer rheolaeth o'n harian, ein ffiniau a'n cyfreithiau. A, Dirprwy Lywydd, nid yn unig yw ein cynllun yn gywir mewn egwyddor, ond rydym ni hefyd yn credu bod modd ei gyflawni'n ymarferol. Byddai aildrafod y datganiad gwleidyddol yn y modd hwn, gan ymrwymo i gymryd rhan mewn undeb tollau ac yn y farchnad sengl, ynghyd â chael cyfatebiaeth ddeinamig â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei groesawu, fel y gwyddom ni, gan 27 o wledydd yr UE, ac, rydym ni'n credu, y gellid cyflawni hyn yn gyflym a'r tu allan i'r cytundeb ymadael ei hun.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymalau drafft i ddangos sut y gellid cynnwys newidiadau o'r fath mewn deddfwriaeth sylfaenol—enghraifft arall o Gymru yn cyflwyno atebion creadigol i broses sydd fel arall mewn parlys llwyr. Mae'r parlys hwnnw, Dirprwy Lywydd, yn deillio o gymysgedd gwenwynig o anghymhwysedd ac anhyblygrwydd sydd wedi dod yn nodwedd o Lywodraeth y DU. Oherwydd ei bod hi mor anodd cael ffydd yn ei gallu i sicrhau Brexit trefnus, dyna pam ein bod ni'n parhau i gefnogi ail bleidlais gyhoeddus os na ellir fel arall dod o'r parlys hwnnw. Dyna'r sefyllfa yr ydym ni wedi'i nodi yn y Siambr hon, ac rwy'n ei hailadrodd eto heddiw, ond ni ddylai unrhyw un, fel y gwyddom ni, dybio y bydd hynny'n syml.
Mae ail bleidlais yn gynnig sydd eto i sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Byddai angen estyniad hirach na 30 Mehefin, gyda'i holl oblygiadau ar gyfer etholiadau Ewropeaidd. A byddai ail ymgyrch refferendwm yn cael ei hymladd mewn ffordd a fyddai'n anochel yn peri rhwyg. Ond gadewch i mi ailadrodd eto: Os yw Tŷ'r Cyffredin yn penderfynu mai pleidlais gyhoeddus yw'r ffordd drwy'r gors a grëwyd, yna bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithredu yn y modd hwnnw.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n sefyll ar ymyl y dibyn. Gyda dim ond 10 diwrnod nes yr ydym ni i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid oes cytundeb, ac ychydig iawn o arwyddion sydd gan y Prif Weinidog fod parodrwydd neu gynllun i ganfod cytundeb newydd. Boed iddi newid cwrs. Boed iddi roi anghenion y wlad cyn ei phlaid doredig. Boed iddi estyn allan at bobl eraill sy'n barod i helpu, a boed iddi wneud hynny cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma?
Mae'n ofid mawr fod rhai gwleidyddion, ym mhob plaid, wedi defnyddio'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd fel pêl droed wleidyddol, ac rwy'n siomedig bod y Prif Weinidog wedi dewis cyfrannu at hyn drwy ei wrthwynebiad cyson i unrhyw beth a phopeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud i dorri drwy'r parlys. Rwy'n siŵr bod llawer o bobl ledled y DU yn teimlo rhwystredigaeth fawr, gyda chyn lleied o amser cyn inni adael yr UE, gyda'r pendilio cyson sy'n parhau i dra-arglwyddiaethu yn y byd gwleidyddol. Ac roeddwn i wedi gobeithio o leiaf yn y sefydliad hwn, y gallai pobl Cymru fod yn siŵr y byddai dadl aeddfed, mewn difrif, ar y mater mwyaf sy'n ein hwynebu fel Aelodau Cynulliad. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i Brif Weinidog Cymru yw gofyn pa drafodaethau uniongyrchol y mae wedi eu cael gyda Phrif Weinidog y DU ac Arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan i sicrhau yr ymdrinnir ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gadarn, yn deg a heb yr angen am ennill pwyntiau gwleidyddol.
Fel y gŵyr y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf pleidleisiodd Aelodau Seneddol i ganiatáu estyniad i Erthygl 50. Wrth gwrs, bydd hyd yr estyniad hwnnw yn dibynnu ar ba un a gaiff cytundeb presennol Prif Weinidog y DU ei gymeradwyo'n derfynol gan San Steffan. Mae Prif Weinidog Cymru yn gwbl ymwybodol fy mod i wedi cefnogi cytundeb Prif Weinidog y DU oherwydd fy mod yn credu y bydd yn parchu canlyniad y refferendwm, ond byddai hefyd yn sicrhau y bydd ein busnesau yn gallu parhau i fasnachu'r ddwy ffordd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, os cymeradwyir y cytundeb yn y pen draw, yna wrth gwrs bydd yn rhaid ymestyn Erthygl 50 er mwyn pasio'r ddeddfwriaeth. Efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa drafodaethau y mae wedi eu cael ynghylch yr estyniad i Erthygl 50. Fodd bynnag, mae'n rhaid imi ddweud wrth y Prif Weinidog y credaf y bydd hi'n annerbyniol i bobl a busnesau Cymru pe byddai'r Prif Weinidog yn annog ymestyn Erthygl 50 y tu hwnt i fis Mehefin, gan wneud y rhwystredigaeth yn waeth ac ychwanegu amhariad yr etholiadau Ewropeaidd at broses Brexit. Bydd llawer o bobl yn cwestiynu perthnasedd yr etholiadau hyn i sefydliad yr ydym ni i fod, ac y byddwn ni yn ei adael.
Mae'r Prif Weinidog newydd ddweud yn ei ddatganiad bod adfer rheolaeth dros ein harian, ein ffin a'n cyfreithiau yn eiriau gwag, ond dyma'n union yr hyn a bleidleisiodd pobl Prydain a Chymru amdano, a dyma'r hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio ei gyflawni. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn fod Prif Weinidog Cymru eisiau gweld cyfatebiaeth ddeinamig â safonau cymdeithasol, amgylcheddol a marchnad lafur yr Undeb Ewropeaidd, ond mae Prif Weinidog y DU wedi achub y blaen arno, ac wedi ymrwymo i'w cryfhau unwaith ein bod ni mewn gwirionedd wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Rwy'n cytuno gyda'r Prif Weinidog ei bod hi'n hollbwysig y gwneir popeth i liniaru effaith gadael heb gytundeb, yn enwedig ar gyfer busnesau Cymru, y mae llawer ohonyn nhw yn rhan annatod o farchnadoedd Ewropeaidd. Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymwybodol iawn o'r effaith ddifrifol y gallai tariffau'r UE ynghyd â'r sefyllfa bosib o Brexit heb gytundeb ei chael ar lawer o gynhyrchwyr llai a chadwyni cyflenwi ym mhob agwedd ar ddiwydiant Cymru, yn enwedig ffermwyr mynydd Cymru, a gaiff eu taro gan dariffau uwch. Gyda fawr ddim amser yn weddill, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha drafodaethau brys y mae wedi eu cael ac yn eu cael gydag arweinwyr busnes Cymru.
Fel yr wyf i wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, rwy'n awyddus i weithio mewn ffordd adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pryd y gallaf er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru orau, ac rwyf eisiau ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma. Wrth gwrs, gallai digwyddiadau allweddol yr wythnosau diwethaf gael effaith ddifrifol ar allu'r DU i ddatblygu cytundebau masnach ryngwladol, a fydd yn hollbwysig wrth helpu i ddatblygu economi Cymru ar ôl Brexit, fel y byddai dymuniad Plaid y Prif Weinidog i'n rhwymo i undeb tollau yr UE—yr union beth sy'n nacau inni'r gallu i fod â llais mewn cytundebau masnach. Pan ffurfiodd y Prif Weinidog ei Lywodraeth, aeth ati'n ddiymdroi i benodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros Brexit, a Gweinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros fasnach ryngwladol. Yng ngoleuni'r penodiadau hynny, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa ganllawiau swyddogol ac asesiadau a dderbyniodd gan y ddwy adran ynglŷn ag effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gallu Cymru i fod yn rhan o gytundebau masnach ryngwladol yn y dyfodol? Efallai y gallai hefyd gadarnhau pa waith mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei wneud i ddatblygu ei strategaeth fasnach ryngwladol ei hun, fel y gall Cymru ddechrau arni'n syth ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd a gweithio gydag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU.
Dirprwy Lywydd, mae Cymru, ac yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa sy'n hollol newydd iddynt. Mae'n bwysig nad ydym ni'n colli golwg ar yr hyn sy'n bwysig yma, sef parchu canlyniad refferendwm 2016 a sicrhau'r ymadawiad rhwyddaf posib â'r Undeb Ewropeaidd. Yn y gorffennol, mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yr un mor bryderus â minnau ynglŷn â natur gyfansoddiadol y DU ers Brexit a lle Cymru yn hynny. Felly, efallai mewn ymateb i fy nghwestiynau y prynhawn yma y bydd hefyd yn achub ar y cyfle i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ar asesiad Llywodraeth Cymru o effaith Brexit ar Gymru mewn cyd-destun cyfansoddiadol.
Dirprwy Lywydd, byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gweithio lle gallwn ni ag eraill i amddiffyn buddiannau Cymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant Cymru ar ôl Brexit ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog nawr yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU yn y dyddiau a'r wythnosau sydd i ddod.
Diolch i'r Aelod am gyfres o gwestiynau pwysig. Rwyf eisiau wfftio'r hyn a ddywedodd ar y dechrau, oherwydd yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi coleddu'r agwedd o wrthwynebu unrhyw beth a phopeth y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei wneud yn y maes hwn. Rhoesom groeso cymedrol i araith Fflorens, pan ddechreuodd y Prif Weinidog gyfaddawdu ar yr amodau yr oedd hi wedi eu nodi yn ei haraith yn Lancaster House. Rhoesom groeso cymedrol i'w chynllun Chequers. Nid Llywodraeth Cymru oedd y broblem a oedd gan y Prif Weinidog ynghylch y mater hwnnw; ond ei hanawsterau wrth geisio cael cymorth o fewn ei phlaid ei hun. Faint o Weinidogion Cabinet a adawodd ei Llywodraeth o ganlyniad i'r cynllun Chequers? A faint mae hi wedi parhau i'w colli bron yn wythnosol fyth ers hynny? Pan fo Llywodraeth y DU wedi symud i'n cyfeiriad ni, rydym ni wedi ceisio croesawu hynny a'u hannog i wneud hynny. Yn y pen draw, pendantrwydd Prif Weinidog y DU mai ei chynulleidfa bwysicaf yw'r rhai sydd yn eistedd y tu ôl iddi ac nad ydynt yn fodlon derbyn ei chynllun sydd wedi ei thanseilio.
Mae'r Aelod yn gofyn pryd siaradais â Phrif Weinidog y DU ddiwethaf; siaradais â hi yr wythnos diwethaf. Fe wnes i gyfarfod ag arweinydd yr wrthblaid ychydig cyn dechrau'r hanner tymor hwn, ac rwyf wedi trafod gyda'r ddau ohonyn nhw. Rwy'n falch iawn o weld y prynhawn yma bod arweinydd yr wrthblaid yn cyfarfod ag arweinwyr y pleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin i geisio gwneud beth ddylai'r Prif Weinidog fod wedi bod yn ei wneud ers wythnosau lawer bellach, sef estyn at y pleidiau eraill i ddod o hyd i wahanol fath o gydbwysedd yn Nhŷ'r Cyffredin lle gellid dod i gytundeb.
Dirprwy Lywydd, rwy'n derbyn yn hollol ddidwyll yr hyn y mae Arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud ynghylch dymuno chwarae rhan adeiladol ei hun, ac rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio ei swyddogaeth yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru i eiriol dros Gymru ar y Prif Weinidog ei hun, oherwydd cytunais â'r hyn a ddywedodd am effaith Brexit heb gytundeb o ran goblygiadau tariff a di-dariff ar economi Cymru, ar ein sector gweithgynhyrchu, ar ein sector amaethyddol. Mae'r rheini'n anawsterau mawr iawn sy'n ein hwynebu pe byddai Brexit heb gytundeb yn digwydd, a byddai croeso i unrhyw eiriau yng nghlust y Prif Weinidog am yr anawsterau hynny.
Gofynnodd Aelod beth ydym ni'n ei wneud i sicrhau ein bod mewn cysylltiad â busnesau Cymru. Wel, rydym ni'n parhau i annog busnesau Cymru i ddefnyddio'r porth Brexit a sefydlwyd gennym ni—mae 30,000 wedi ymweld â hwnnw. Ond un peth yw ymweld â'r porth, peth arall yw derbyn ei gyngor a gwneud y gwaith diagnostig y mae angen i gwmnïau ei wneud i baratoi eu hunain ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Rydym ni'n defnyddio cronfa bontio'r UE sydd gennym ni i barhau i gefnogi busnesau a sectorau eraill yn economi Cymru i baratoi ar gyfer y byd hwnnw.
Yr hyn na fyddwn ni'n gallu ei wneud, Dirprwy Lywydd, yw cofleidio'r ffantasi sy'n bodoli ymysg gwleidyddion Ceidwadol fod y byd yn aros am Brydain anturus, fel pan fyddwn ni'n troi ein cefn ar ein marchnad agosaf a mwyaf pwysig, y caiff hynny ei ddisodli gan yr holl gytundebau hyn a fydd yn cael eu llunio ar draws y byd. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny o gwbl. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn fod y cytundebau yr ydym ni eisoes yn eu mwynhau drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwrthod i ni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ymhell o gael mwy o gytundebau masnach ledled y byd, byddwn yn dechrau gyda llawer llai na'r hyn sydd gennym ni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r UE.
Gadewch imi derfynu gyda'r sylw olaf pwysig iawn a wnaeth arweinydd yr wrthblaid: natur gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Mae hwn yn fater y mae fy rhagflaenydd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, wedi chwarae rhan flaenllaw yn ei gylch ledled y Deyrnas Unedig, wrth geisio dal sylw pobl eraill ar y ffyrdd hynny o weithio o fewn y Deyrnas Unedig a fydd yn angenrheidiol er mwyn iddi barhau i weithredu'n llwyddiannus unwaith y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dechreuwyd ar y gwaith gan Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog y DU mewn cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth y llynedd. Mae'r gwaith hwnnw eto i'w gwblhau, ac mae'n anodd iawn yn wir dod o hyd i bobl yn Llywodraeth y DU sydd â'r diddordeb neu'r ynni i weithio ar yr agenda honno pa fo nhw wedi eu llethu gymaint gan yr anawsterau y mae Brexit wedi eu creu. Ond rydym ni'n parhau i weithio ar hyn, rydym ni'n parhau i weithio ar hyn gyda chydweithwyr yn yr Alban, ac rydym ni'n edrych ymlaen at ddychwelyd at y Cyd-bwyllgor Gweinidogion llawn gydag adroddiad cynhwysfawr ar yr holl feysydd gwaith gwahanol y cytunwyd arnynt, oherwydd bydd cynnal busnes yn drefnus ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu arnyn nhw pan na fydd yr Undeb Ewropeaidd yno mwyach.
Prif Weinidog, mae fy nghyd-Aelodau yn San Steffan yn cyfarfod â Jeremy Corbyn wrth inni siarad, er mwyn ystyried cydweithredu trawsbleidiol i sicrhau, hyd yn oed ar yr adeg hwyr hon, dull cydweithredol. Rydym ni'n gobeithio y daw mwy o eglurder ynghylch safbwynt gwirioneddol y Blaid Lafur ar Brexit. Yr wythnos diwethaf, nododd BBC Cymru fod uwch-aelod ym Mhlaid Lafur Cymru—sydd naill ai'n eistedd neu beidio, pwy a ŵyr, ar eich meinciau blaen—wedi dweud bod eich diffyg eglurder dros bleidlais y bobl yn achosi tensiynau yn eich Cabinet. Fe wnaethon nhw alw eich polisi yn anghynaliadwy ac yn ddryslyd. Disgrifiodd eich Aelod Cynulliad eich hun—Lynne Neagle, Torfaen—eich sefyllfa fel un chwerthinllyd ac un nad yw'n argyhoeddi. Nawr, yn eich datganiad heddiw, fe wnaethoch chi ddweud y byddai ail refferendwm yn rhannu pobl, o bosib yn amhendant, ond y byddech chi'n cefnogi hynny wedyn, os byddai Tŷ'r Cyffredin yn gwneud hynny'n gyntaf. Mae'n anodd dychmygu cymeradwyaeth wannach o'r achos dros ail refferendwm. Rydych chi'n rhwyfo ymhellach ac ymhellach i ffwrdd, Prif Weinidog, o'r polisi a gymeradwywyd gennym ni yn y lle hwn ym mis Ionawr, cymaint felly, petai Jeremy Corbyn, yn wyrthiol, yn gwneud tro pedol eto, ac yn mabwysiadu polisi o roi pleidlais i'r bobl, yn dilyn ei gyfarfod â Phlaid Cymru y prynhawn yma, fe fyddech chi mewn gwirionedd yn pasio eich gilydd, yn wynebu cyfeiriadau cyferbyniol, fel llongau yn suddo yn y nos.
Ac yna dyna'r cwestiwn, Prif Weinidog, pe byddai refferendwm arall, sut fyddech chi a'r Blaid Lafur yn ymgyrchu ac yn pleidleisio? Pan gafodd ei gyfweld gan Sky News ddydd Sul, roedd yn ymddangos bod Jeremy Corbyn, o'r diwedd, yn cymryd agwedd bendant. Ac yna peidiodd. Yn gyntaf, cyfaddefodd y dylid cael refferendwm arall, ar yr hyn a alwodd yn gytundeb credadwy i adael yr Undeb Ewropeaidd, sef yr hyn a olygai oedd cytundeb gan y Blaid Lafur i sefydlu undeb tollau newydd a pherthynas agos â'r farchnad sengl, a dewis i aros yn yr UE. Pan bwyswyd arno ynghylch sut fyddai'n pleidleisio mewn refferendwm o'r fath, atebodd y byddai'n well ganddo gydnabod canlyniad refferendwm 2016. Dyna ben ar niwlogrwydd, hir oes i niwlogrwydd. Beth oedd yn ei olygu wrth hynny? Prif Weinidog, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni yma nawr. Bydd fy nghyd-Aelodau yn San Steffan yn sicr yn gofyn iddo. Ond mae eich datganiad heddiw yn awgrymu mai eich dewis chi hefyd yw sicrhau eich fersiwn chi o Brexit dros ganlyniad 'aros' mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol.
Yn olaf, a gaf i droi at y dadansoddiad ar gyfer eich Llywodraeth gan yr Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain, sydd wedi canfod y caiff Cymru ei tharo'n galetach na gweddill y DU gan yr isafswm cyflog arfaethedig o £30,000 ar gyfer ymfudwyr medrus sy'n bwriadu dod i'r DU o 2021? Dywedodd, er nad yw enillion llawn amser cyfartalog ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd ymhell o £30,000, eu bod nhw yng Nghymru yn sylweddol is na hynny. O ganlyniad, byddent yn rhwystr enfawr i fusnesau yng Nghymru sy'n chwilio am weithwyr proffesiynol medrus o dramor. Argymhellodd bennu isafswm cyflog o £20,000 i Gymru. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru—i'r graddau yr wyf i wedi llwyddo i'w ddarganfod—wedi mynegi barn ynghylch canlyniadau ei hymchwil ei hun. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno gyda'r Athro Portes, ac, os felly, beth ydych chi'n ei wneud i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i ystyried ei argymhellion?
Wel, dechreuodd Adam Price drwy gyfeirio at y dull cydweithredol y mae mannau eraill yn rhoi cynnig arno, ac rwy'n falch iawn o hynny. Ac rwy'n falch iawn y bydd Aelodau ei blaid, a'r pleidiau eraill, yn dod at ei gilydd er mwyn ceisio dod o hyd i'r ffordd wahanol honno drwy Tŷ'r Cyffredin.
Yn rhan ganol yr hyn yr oedd gan Adam i'w ddweud—mae ganddo obsesiwn â phobl nad ydyn nhw yn y Cynulliad hwn, ac nad ydyn nhw'n atebol iddo. Felly, fe wnaf i siarad drosof fy hun a'r cyfrifoldebau sydd gennyf yn y fan yma. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson o'r dechrau a bod ein safbwynt yn hollol eglur. Efallai ei fod yn gymhleth, ond mae'n eglur, a dyna'r safbwynt yr wyf i wedi ei amlinellu y prynhawn yma—bod cytundeb i'w wneud ar sail y cynigion yr ydym ni yn gyson wedi eu cefnogi ers iddyn nhw gael eu ffurfio'n gyntaf mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru yma yn y Cynulliad, ac rydym ni'n parhau i gefnogi'r cynigion hynny. Rwy'n gwybod fod yr Aelod wedi ymbellhau cryn dipyn oddi wrthyn nhw'n ddiweddar, ac, wrth gwrs, mae ganddo berffaith hawl i wneud hynny, ond nid ydym ni wedi gwneud hynny. Rydym ni'n dal i gredu eu bod yn cynnig ateb a allai weithio i Gymru a dyna fy safbwynt i heddiw.
Nid yw hi'n gwneud unrhyw les i neb, pan fo nhw'n dweud eu bod o blaid sefyllfa, i beidio ag edrych ar yr anawsterau sydd efallai ynghlwm â'r sefyllfa honno. Er fy mod i'n cefnogi—fe wnaf i ddweud hynny eto; rwyf wedi dweud hynny droeon yn y fan yma—ail bleidlais gyhoeddus fel datrysiad i Dŷ'r Cyffredin sydd mewn parlys, nid oes neb ar ei ennill drwy beidio ag edrych ar y pethau y byddai'n rhaid eu datrys ar gorn yr ateb hwnnw, a dyna'r hyn y ceisiais i ei wneud y prynhawn yma. A byddai eu hwfftio fel pe na baen nhw'n bodoli, fel pe na fyddai cynnal ail refferendwm yn gynhennus—. Mae'r mater hwn yn gynhennus yn y Siambr hon, mae'r mater hwn yn gynhennus yn ein cymdeithas. Os cawn ni bleidlais arall—ac os mai dyna sydd ei angen arnom ni, byddaf yn ei gefnogi'n llwyr—yna byddwn yn gwybod y ceir pobl a fydd yn arddel safbwyntiau gwahanol cryf ynghylch hynny, ac nid yw ysgwyd pen a gweithredu fel pe na bai hynny'n bwysig yn gwneud cyfiawnder ag arwyddocâd y penderfyniad hwnnw.
Beth fyddai safbwynt Llywodraeth Cymru pe byddai ail refferendwm? Wel, rwyf wedi dweud hyn yn eglur droeon hefyd—os ceir ail refferendwm, a bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio hwnnw, yna nid oes dim a welais yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf yn fy arwain i gredu bod y cyngor a roesom ni i bobl yng Nghymru yn y refferendwm cyntaf yn gyngor anghywir. Fe wnaethom ni gynghori pobl bryd hynny bod modd sicrhau dyfodol pobl yng Nghymru orau drwy aelodaeth barhaus o'r Undeb Ewropeaidd, a hynny fyddai fy nghyngor onest i bobl pe caem ni gyfle arall i bleidleisio ar hynny. Caiff dyfodol Cymru ei sicrhau orau drwy aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae llawer o bobl yma yn anghytuno—wrth gwrs eu bod nhw. Dyna pam y dywedais y byddai'r ddadl yn anochel yn un a fyddai'n ein rhannu. Ond dyna yw fy marn onest. Nid yw unrhyw beth a welais yn y cyfamser wedi newid hynny. Byddai'n safbwynt anodd ei gyfleu i lawer o bleidleiswyr Llafur sydd o farn wahanol i hynny. Ond os cawn ni bleidlais gyhoeddus arall, a bod aros yn yr Undeb Ewropeaidd ar y papur pleidleisio, cyngor y Llywodraeth hon fydd mai hynny sydd fwyaf llesol i Gymru.
Gadewch imi droi at y pwynt olaf—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd. Y pwynt olaf un a wnaeth yr Aelod oedd yr un ynglŷn ag adroddiad Jonathan Portes. Dyna'r ail adroddiad a ddarparwyd gan yr Athro Portes i Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn falch iawn o'r cyfle i gwrdd ag ef ac i drafod ei adroddiad cyntaf. Yr hyn y mae'n ei wneud yw nodi dau o'r diffygion mawr yn y polisi ymfudo a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU: mae'r polisi yn mynnu gosod terfyn cyflog mympwyol ac yn mynnu rhannu'r gweithlu yn fympwyol rhwng y rhai medrus a'r rhai di-grefft. Nid oes unrhyw un o'r pethau hynny yn gweithio i Gymru.
Siaradais yn fanwl â Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo a gofyn iddo a oedd wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r gosodiadau hynny o ran economi Cymru. Dywedodd wrthyf nad oedd. Nid yw'n syndod bod yr Athro Portes—y prif arbenigwr ar y materion hyn yn y DU—yn dod i gasgliad sy'n dweud y byddai isafswm cyflog o £30,000 yn groes i fuddiannau gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion yng Nghymru. Ac mae disgrifio pobl sy'n gweithio yn ein system gofal cymdeithasol fel rhai anfedrus ac, felly, nad oes angen eu recriwtio o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn gwbl groes i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan bobl o rannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd bob dydd yng Nghymru gan ddarparu gwasanaethau i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Byddwn yn cefnogi casgliadau adroddiad Portes, a phan yr ydym ni wedi cael cyfle priodol i gnoi cil arno ac i'w drafod gyda'r awdur, yna byddwn yn mynegi'n eglur ein casgliadau o ran hynny.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fodd bynnag, erbyn newyddion chwech o'r gloch heno, efallai y bydd peth ohono'n amherthnasol, wrth i Lywodraeth traed moch San Steffan gythru hyd y lle yn ceisio newid hynny a llunio diffiniadau newydd o'i chytundeb presennol ei hun i'w gadw ar y papurau hynny. Mae un neu ddau sylw yr hoffwn i eu crybwyll ichi. Yn amlwg rydym ni wedi clywed dadleuon ynghylch lle'r ydym ni arni yn y broses, ac rydym ni yn awr lai na 10 diwrnod o'r dyddiad ymadael o dan y gyfraith—fel y gwyddom ni sydd yn y gyfraith ar hyn o bryd—ac nid yw penderfyniadau Llywodraeth y DU dros y ddwy flynedd a hanner mewn gwirionedd wedi cyflawni dim o ran y broses hon. Ond rydym ni bellach mewn sefyllfa pryd yr ydym ni'n gwybod, os na cheir chytundeb, bellach caiff tariffau eu cyflwyno. Fe gawson nhw eu datgan yr wythnos diwethaf a'u cyhoeddi yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth y DU. Efallai y gallwch chi awgrymu sut y byddai'r tariffau hynny yn effeithio ar economi Cymru, yn enwedig yng nghyswllt porthladdoedd Cymru, gan fod rhan o'r trafodaethau hynny yn cynnwys dim tariff rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, a fyddai'n amlwg yn annog busnesau Iwerddon i gludo eu nwyddau drwy Ogledd Iwerddon ac ymlaen i Lerpwl gan na fyddai unrhyw archwiliadau ar yr agwedd honno chwaith? Byddai hynny'n effeithio'n fawr ar borthladdoedd Cymru. Bydd y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y byddant yn sicrhau buddsoddiad a chynhyrchiant y porthladdoedd hynny yng Nghymru yn hollbwysig.
O ran y trafodaethau ynglŷn ag estyniad, nid ydym ni'n gwybod pa mor hir fydd hwnnw, nid ydym ni'n gwybod beth y mae hi'n ei fwriadu—mae hi'n sôn am un byr ac un hir. Nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod, fel y dywedwch chi, a fydd y 27 o wledydd yr UE yn cytuno i hynny chwaith, gan fod rhaid cael diben ac nid wyf wedi clywed am ddiben eto. A yw hi wedi nodi diben i chi mewn unrhyw drafodaethau y mae hi wedi eu cael gyda chi ynghylch beth fydd yr estyniad hwnnw mewn gwirionedd yn ceisio ei gyflawni? Oherwydd rydym ni i gyd yn siarad am y peth, ond nid ydym ni'n gwybod beth yw'r bwriad neu beth fydd diben hynny.
A ydych chi hefyd yn cytuno â mi ein bod ni'n chwarae gemau a bod canlyniadau difrifol i'r gemau hynny, oherwydd y berthynas sydd ganddi gyda'r DUP y tu ôl i ddrysau caeedig? Mae hi'n amlwg o'r wybodaeth yr ydym ni'n ei chael bod posibilrwydd y bydd y DUP yn cael cynnig sedd wrth y Bwrdd mewn trafodaethau masnach. Beth fydd yn digwydd i Gymru a Llywodraeth yr Alban mewn perthynas â hynny? Ond hefyd ariannu—pa ddadl gaiff ei defnyddio ynghylch sut y gall hi gyfiawnhau rhoi mwy o arian i'r DUP, pan rydym ni unwaith eto yn cael dim budd o hyn ac felly'n gweld effaith ar ein heconomïau wrth inni chwalu allan heb gytundeb gan fod 60 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE? Felly, ble ydym ni arni yn hynny o beth?
Tynnodd Arweinydd yr wrthblaid sylw at baratoi busnesau ar gyfer ymadael heb gytundeb, ond a allwch chi hefyd roi inni wybodaeth ynghylch yr hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda Llywodraeth Leol, oherwydd, unwaith eto, bydd Llywodraeth Leol yn dioddef o ddifrif, a chyrff cyhoeddus fel cyrff iechyd, oherwydd ein bod ni i gyd yn gwybod am y goblygiadau i'n gwasanaethau iechyd o ymadael heb gytundeb? Yn anffodus—nid rhywbeth y byddai llawer o bobl eisiau ei weld yn digwydd yr wythnos nesaf—rydym ni'n symud yn agosach ac yn agosach ac yn agosach at sefyllfa o ymadael heb gytundeb.
Mae gennyf ddamcaniaeth cynllwyn efallai bod Llywodraeth y DU a'r Prif Weinidog yn benodol yn hoffi symud tuag at hyn oherwydd mae'n gweddu i'w hanghenion—estyniad, estyniad hir i ddod yn ôl ag ef—. Mae hynny'n mynd i wthio Brecsitwyr i dderbyn ei chytundeb. Mae'n amlwg yn ffordd o weithredu, ac yn seiliedig ar ei gweithredoedd yr wythnos diwethaf, pan addawodd pleidlais rydd ar nos Fawrth ar ôl iddi golli'r bleidlais yn y Tŷ o 149—cododd ac addawodd mewn gwirionedd bleidlais rydd i'w phlaid ar ymadael heb gytundeb. Y diwrnod canlynol, fe wnaeth hi mewn gwirionedd ailystyried a chwipio ei haelodau yn erbyn ei chynnig ei hun. Felly, sut gellir ymddiried ynddi mewn gwirionedd i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed ganddi ar y dechrau? Oherwydd fe wnaeth hi addo hyn ar y blwch dogfennau, ac mae hynny'n agwedd bwysig. Rhaid inni gael ffydd yn y cytundeb y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig. Os nad yw ein Prif Weinidog hyd yn oed yn anrhydeddu ei haddewidion ei hun i'w phlaid ei hun, sut allwn ni ymddiried yn ei haddewidion i ni?
O ran y cytundebau masnach unwaith eto, Prif Weinidog, fe gawsom ni drafodaeth yr wythnos diwethaf ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach, ond rwy'n mynd i anwybyddu'r Bil Masnach ar hyn o bryd—gadewch i ni edrych ar y cytundebau parhad masnach a oedd yn cael eu trafod. Rwy'n deall bod chwech wedi eu llunio erbyn hyn, ond a allwch chi gadarnhau a oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld y cytundebau masnach hynny cyn iddyn nhw gael eu llofnodi? Ydych chi wedi mynnu gweld cytundebau masnach eraill cyn iddyn nhw gael eu llofnodi? Oherwydd bod y rhain yn effeithio'n fawr ar economi Cymru ac mae'r rhain yn newid polisi. Nid ydyn nhw mor syml â throsglwyddo; ceir newidiadau polisi o ganlyniad i hyn. Felly, lle ydym ni arni o ran cyrraedd sefyllfa o gael llais Cymru yn y cytundebau hynny cyn eu llofnodi?
A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni—? Deddfwriaeth—un o'r dadleuon y mae hi'n ei defnyddio ar gyfer estyniad yw oherwydd nad oes gennym ni amser i gau pen y mwdwl ar yr holl ddeddfwriaeth. Faint o ddeddfwriaeth sy'n dal yn ofynnol gennym ni yn y Cynulliad hwn yn seiliedig ar Lywodraeth y DU yn llunio deddfwriaeth yn y fan honno yn gyntaf, oherwydd, yn amlwg, mae yna rannau o'r ddeddfwriaeth na allwn ni eu llunio nes iddyn nhw lunio eu rhai nhw? Felly, lle ydym ni arni o ran yr amserlen o gwblhau ein rhan ni ac a oes gennym ni syniad, y byddan nhw, mewn gwirionedd, wedi eu cwblhau i gyd erbyn 30 Mehefin—os oes modd, 23 Mai, oherwydd dyna ddyddiad arall sy'n cael ei drafod ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd?
Ac yn olaf—.
Ac yn olaf, ie—[Chwerthin.] A ydych chi'n cytuno â mi mai un o'r camgymeriadau mwyaf yr wythnos diwethaf oedd peidio â chefnogi gwelliant Hilary Benn, pryd y gallen nhw mewn gwirionedd gytuno ar safbwynt o ran cael ateb posib yn Nhŷ'r Cyffredin, a fyddai mewn gwirionedd yn rhoi gwybod i ni ynghylch yr union fath o bleidlais a allai ddigwydd a'r math o gytundeb a allai fod ar waith pe gwyddem ni beth gytunodd y rhan fwyaf o Dŷ'r Cyffredin arno?
Wel, Llywydd, byddaf yn gwneud fy ngorau i fod mor gyflym ag y gallaf wrth ateb y cwestiynau hynny. Wrth gwrs, mae David Rees yn llygad ei le fod ein porthladdoedd yn cael eu heffeithio gan y model tariff y mae'r Llywodraeth wedi ei awgrymu ar draws Ynys Iwerddon. Mae hi wedi bod yn gyfnod hir o addysgu Gweinidogion y DU ynghylch y ffaith bod gennym ni borthladdoedd yng Nghymru a'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud. Ac mae'n gywir yn dweud y byddai'r awgrym presennol yn niweidiol i borthladdoedd Cymru, oherwydd ei bod yn anochel y bydd nwyddau'n teithio o'r de i'r gogledd ac yn dod i mewn i'r DU o ran ogleddol Iwerddon.
O ran y DUP, gwelaf fod Prif Weinidog yr Alban wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU y prynhawn yma, yn nodi'r pryderon y byddem ni yn sicr yn eu rhannu ynghylch y ffordd y mae adroddiadau o drafodaethau gyda'r DUP yn ymddangos, gyda'r DUP rywsut yn cael sedd wrth y Bwrdd mewn trafodaethau masnach. Mae'n gwbl syfrdanol, Llywydd, y gellid gwneud unrhyw awgrym o'r fath ag un blaid wleidyddol nad yw hyd yn oed mewn llywodraeth mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig ac i esgeuluso gweinyddiaethau yng Nghymru ac yn yr Alban. Yr awgrymiadau parhaus y gellid arllwys mwy o arian eto i lawr llwnc y DUP—rwy'n falch fod cyni ar ben mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig, ond mae'n annheg yn y bôn ac yn gwbl groes i'r datganiad polisi ariannu bod arian yn cael ei drosglwyddo i un rhan o'r Deyrnas Unedig ar gyfer cyfrifoldebau sy'n cael eu rhannu yn rhywle arall. Ac mae hynny'n cynnwys Lloegr, yn ogystal â Chymru a'r Alban.
O ran llywodraeth leol, mae ein trafodaethau gyda nhw yn canolbwyntio ar fwyd, bwyd arbennig mewn ysgolion, bwyd mewn cartrefi gofal preswyl, bwyd ar gyfer pobl hŷn sy'n dibynnu ar ofal cartref, a gwneud yn siŵr, pe bai Brexit heb gytundeb, bod systemau ar waith i amddiffyn y mwyaf agored i niwed.
Yng nghyswllt y gwasanaeth iechyd, rydym ni am y tro cyntaf, rwy'n credu, bellach wedi gorfod neilltuo arian mewn perthynas â Brexit heb gytundeb. Byddwch wedi clywed fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, yn siarad am warws yr ydym ni wedi gorfod ei ddefnyddio yng Nghasnewydd. Rydym ni'n gwneud hynny oherwydd ei bod hi'n angenrheidiol diogelu buddiannau gwasanaeth iechyd Cymru a chleifion Cymru rhag Brexit heb gytundeb.
A wnaiff Brexit llwgrwobrwyol y Prif Weinidog lwyddo? Y ffordd y mae hi'n ceisio'n barhaus i ddarbwyllo pobl i fynd i'r lobi i'w chefnogi, oherwydd fel arall gallai rhywbeth hyd yn oed gwaeth ddigwydd—wel, mae'n gêm o fentro a hapchwarae, ac ni ddylai ein dyfodol ni gael ei negodi yn y ffordd honno mewn gwirionedd. A oes modd ymddiried yn y Prif Weinidog? Wel, rwy'n credu yr adroddais i'r Siambr yr wythnos diwethaf, pan oeddwn ym Mrwsel yn ystod ein gwyliau hanner-tymor, fe'm trawyd gan ba mor gadarn y datganodd cyfeillion da i Gymru a'r Deyrnas Unedig eu cred bod gweithredoedd y Prif Weinidog yn cefnogi gwelliant Brady wedi tanseilio ffydd mewn modd sylfaenol iawn. Fe wnaeth hi gefnogi gwelliant yn erbyn y cytundeb yr oedd hi wedi dod iddo gyda'r Undeb Ewropeaidd. Sut allen nhw deimlo'n hyderus yn parhau i negodi gyda rhywun a oedd yn barod i wneud hynny?
Mae deddfwriaeth sydd ei angen yma yn dibynnu, fel y dywedodd David Rees, ar offerynnau statudol y mae'n rhaid eu llywio drwy Dŷ'r Cyffredin. Rydym ni yn barod. Rydym ni'n ffyddiog ein bod yn y lle cywir; mae pa un a ydyn nhw yn fater gwahanol.
Ac yn olaf, ynglŷn â gwelliant Hilary Benn, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddweud wrthych chi am rywbeth a ddigwyddodd i mi, sydd fwy neu lai yn unigryw yn fy mhrofiad fy hun? Roeddwn yn curo wrth ddrysau yn isetholiad Casnewydd nos Iau ddiwethaf, fel llawer o Aelodau yma yn ddiau hefyd. Curais wrth ddrws a daeth dyn at y drws a dywedodd ar unwaith wrthyf, 'rhaid i chi ddod i mewn, rhaid i chi ddod i mewn.' Nid oes gennyf syniad beth yr oeddwn i wedi'i wneud, ond yr hyn yr oedd eisiau imi ei wneud oedd gweld canlyniad y bleidlais ar welliant Hilary Benn. Felly, roeddwn yn sefyll yn ei ystafell fyw ac fe welais i'r peth yn digwydd, ac rwy'n gwbl o'r un farn â chi yn ei gylch. Roedd yn ennyd pan allai Tŷ'r Cyffredin fod wedi meistroli'r broses hon, ac roedd colli'r bleidlais honno gan ddwy bleidlais, rwy'n credu, yn siomedig iawn i'r rhai ohonom ni a oedd yn gobeithio bod honno'n eiliad pryd gellid bod wedi cychwyn ar lwybr gwahanol.
Wel, mwynheais glywed Prif Weinidog Cymru yn diberfeddu Prif Weinidog y DU a'r traed moch gwleidyddol y mae hi a'r Blaid Geidwadol wedi ei greu, ond rwy'n credu bod mwy o draed moch yn y gwrthbleidiau, oherwydd, er gwaethaf bod gennym yr hyn y credaf yw'r Prif Weinidog mwyaf anfedrus mewn 250 o flynyddoedd, nid yw arweinydd yr wrthblaid wedi elwa mewn unrhyw ffordd ar yr hyn sydd wedi digwydd ac ymddengys bod Llafur yn dal i fod 10 pwynt y tu ôl yn y polau piniwn—[Torri ar draws.] Ond y—[Torri ar draws.] Mae etholedigion y sefydliad—[Torri ar draws.] Mae etholedigion y sefydliad bellach yn eithaf amlwg ac yn agored yn benderfynol i danseilio'r refferendwm Brexit a gawsom ni ddwy flynedd a hanner yn ôl. Mae'r Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Blaid Geidwadol, hyd yn oed, yn benderfynol o beidio â chyflawni yr hyn y pleidleisiodd pobl amdano yn 2016. Gadewch i ni atgoffa'n hunain, ie, bod 406 etholaeth o blith 650 wedi pleidleisio i adael; pleidleisiodd 247 o etholaethau Ceidwadol i adael a dim ond 80 i aros; pleidleisiodd 148 o etholaethau Llafur i adael a dim ond 84 i aros; ac eto, yn y lle hwn, pleidleisiodd 49 o aelodau ein Cynulliad i aros ac fe bleidleisiodd 480 o'r 650 o Aelodau Seneddol hefyd i aros. Mae mwyafrif mawr iawn dros aros i'w gael yn y Cynulliad hwn ac yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae'r mwyafrif hwnnw'n benderfynol, yn gwbl benderfynol, doed a ddelo, ar unrhyw gost o rwystro'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto ac—rwy'n falch fod Alun Davies yn amneidio mewn cytundeb yn y fan acw—[Torri ar draws.]—i bleidleisio yn erbyn yr hyn y pleidleisiodd y bobl amdano dim ond dwy flynedd a hanner fyr yn ôl. Ac yr wythnos diwethaf profwyd hynny gan Dŷ'r Cyffredin, oherwydd fe bleidleisiodd yn erbyn gadael yr UE gyda chytundeb honedig y Prif Weinidog, pleidleisiodd yn erbyn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, a elwir hefyd yn ymadael heb gytundeb, a phleidleisiodd o blaid ymestyn erthygl 50. Ni ellir ar unrhyw gyfrif galw hynny yn bleidleisio dros Brexit mewn unrhyw fodd. Ac, fel y dywedodd Mervyn King, cyn-lywodraethwr Banc Lloegr:
Mae hi'n hollol anghredadwy y gallai'r Llywodraeth fod yn benderfynol o selio cytundeb sy'n cyflwyno £39 biliwn, er ei fod yn rhoi'r hawl i'r UE orfodi cyfreithiau ar y DU am gyfnod amhenodol a feto ar roi terfyn ar y sefyllfa hon o reolaeth faenoriaethol.
Dyna'r llanastr y mae Theresa May wedi ei greu ac nad yw'r Blaid Lafur mewn gwirionedd yn anghytuno ag ef. Mewn gwirionedd, maen nhw eisiau mynd hyd yn oed ymhellach na Theresa May wrth ildio'r holl fanteison a oedd gennym ni ac aros yn yr UE. A yw Prif Weinidog Cymru yn pryderu am y gagendor cynyddol sy'n agor rhwng y bobl a bleidleisiodd dros Brexit drwy fwyafrif—56 y cant yng Ngorllewin Casnewydd; gan i Brif Weinidog Cymru sôn am yr etholaeth honno, meddyliais y buaswn yn dyfynnu'r ffigur hwnnw—a'r etholedigion gwleidyddol? Mae arolwg a gyhoeddwyd gan ComRes yn The Daily Telegraph heddiw, yn gofyn gwahanol gwestiynau i bobl: ydyn nhw'n ymddiried mewn Aelodau Seneddol i wneud yr hyn sy'n iawn i'r wlad o ran Brexit? Mae chwe deg wyth y cant yn anghytuno. Cwestiwn arall: 'mae hi wedi teimlo fel pe byddai'r UE wedi bod yn ceisio cosbi'r DU am Brexit.' Mae chwe deg un y cant yn cytuno â'r gosodiad hwnnw. Pe byddai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb ar 29 Mawrth, ai hynny fyddai'r canlyniad gorau posibl? Roedd pedwar deg tri y cant yn cytuno â'r gosodiad hwnnw; dim ond 30 y cant oedd yn anghytuno.
Mae'r polisi sydd gan Brif Weinidog Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yn gwbl groes i gyfran fawr iawn o bobl yn y wlad hon ac, yn wir, cyfran uwch na'r rhai sy'n cefnogi ei farn. Beth mae e'n gredu y bydd hyn yn ei wneud i ddemocratiaeth yn y wlad hon os, ar ddiwedd y broses hon, nad oes, mewn gwirionedd, unrhyw newid? Pan gaiff y cytundeb hwn ei selio, os bydd hynny'n digwydd, yna gallai aelodaeth Prydain o'r UE barhau am gyfnod amhenodol. Ac, ie, gallai gael ei ohirio tan 30 Mehefin, ond nid oes dim yn mynd i newid rhwng nawr a 30 Mehefin ac wedyn, wrth gwrs, bydd yr holl bwysau ar ei ymestyn y tu hwnt i hynny, ac felly ymlaen yn ddi-ben-draw. Pam ar y ddaear y byddai'r UE eisiau rhoi unrhyw gonsesiynau i ni pan ei fod eisoes wedi cael popeth yr oedd arno ei eisiau? Dyna'r cwestiwn allweddol sydd gennym ni yn y fan yma, rwy'n credu. Beth fydd iechyd democratiaeth Prydain yn y dyfodol os caiff ei fradychu gan y rhai y mae pobl wedi ymddiried hynny ynddynt?
Wel, Dirprwy Lywydd, rydych chi'n credu bod y ddadl ar Brexit yn symud y tu hwnt i barodi, ac wedyn rydych yn canfod eich hun yn cael eich cyhuddo gan Neil Hamilton o fod yn perthyn i'r sefydliad ac o fod yn un o'r etholedig rai. Bryd hynny, teimlaf fod y ffin lle'r oeddech chi'n credu nad oedd hi'n bosib ei ymestyn ymhellach yn canfod ei hun yn ymestyn ymhellach fyth.
A wyf i'n poeni am iechyd democrataidd ein gwlad? Wrth gwrs fy mod i. Dyna pam y dywedais yr hyn a ddywedais yn fy natganiad. Nid fy mhryder i yw ei bryder ef, oherwydd mae ef bob amser eisiau darlunio hyn mewn ffordd sy'n apelio at reddfau poblyddol ei gefnogwyr. Rwyf i'n poeni am y berthynas rhwng pobl. Rwy'n poeni am y berthynas rhwng pobl sy'n arddel safbwyntiau cryfion gwahanol ar y mater hwn a phryd yr wyf yn wirioneddol, wirioneddol gredu bod angen i bob un ohonom ni fod yn ofalus wrth roi ein barn, ein bod ni'n parchu barn pobl eraill sy'n arddel safbwynt gwahanol. Os nad ydym ni'n gallu gwneud hynny, yna mae'r bygythiadau i iechyd ein democrataidd yn real, ac mae'r pethau hynny ar wyneb ac yn agos at wyneb y ddadl hon.
Y perygl gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu, serch hynny, Dirprwy Lywydd, yw nid yr un y mae'r Aelod yn cyfeirio ato o gwbl. Y perygl gwirioneddol yr ydym ni'n ei wynebu yw 10 diwrnod o nawr fe allem ni fod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb o unrhyw fath ac ni ddywedodd neb—ond ni ddywedodd neb—wrth bobl yn y refferendwm mai dyna oedd hyn i gyd yn ymwneud ag ef. Roeddem ni'n mynd i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn un o'r negodiadau hawddaf a gynhaliwyd erioed. Byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd yr oedd ble byddai'r holl fanteision ar ein hochr ni a dim un o'r anfanteision. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth heb gytundeb o unrhyw fath, yna bydd yr effaith yma yng Nghymru yn drychinebus a bydd effaith hynny ar ein hiechyd democrataidd mewn gwirionedd yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn poeni amdano.
Ac yn olaf—ac yn fyr iawn—Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Fe wnaf i ddweud wrtho fy mod i'n gresynu'n fawr iawn at ei agwedd pan ddisgrifiodd y cyfle i gynnig pleidlais gyhoeddus ac i roi'r gair olaf i bobl y wlad hon. Dyna, wrth gwrs, yw polisi Llafur Cymru, polisi Llafur, dyna bolisi Llywodraeth Cymru, dyna'r polisi a gyflwynodd ef ei hun gerbron ei Aelodau rai wythnosau yn ôl a gofyn i'r Senedd hon ei fabwysiadu fel y polisi y byddem ni eisiau ei weld yn cael ei weithredu. Rwyf i yn credu, felly, y bu ymrwymiad clir iawn, o gofio na fydd Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ei hun i ddim ond disgrifio'r problemau a'r anawsterau sy'n ein hwynebu, ond yn ceisio mynd ati'n rhagweithiol i baratoi ar gyfer pleidlais. Ac mae'r rhain yn ddau beth gwahanol. Nid ailadrodd dadleuon academaidd yw hyn. Mae'n dweud mai dyma'r mater pwysicaf sy'n wynebu'r wlad hon ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod bod yna lanast yn Llundain. Rydym ni'n gwybod bod yna lanast yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod na all Llywodraeth y DU gytuno â hi ei hun, heb sôn am unrhyw un arall. Rydym ni'n gwybod nad ydyn nhw'n gwybod beth yw eu polisi heddiw, yfory, yr wythnos nesaf. Rydym ni'n gwybod y pethau hynny i gyd. Ond yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yn y Senedd a'r Llywodraeth hon yw gwneud yn well na hynny a gwneud mwy na hynny, ac mae hynny'n golygu bod yn driw i'r hyn yr ydym ni'n credu ynddo, ac nid anwadalu, nid canfod geiriau i ddod o hyd i wahanol ffyrdd o osgoi ein hymrwymiadau, ond dadlau'n eglur dros yr ymrwymiadau hynny.
Felly, rwy'n gobeithio, felly, Prif Weinidog, y byddwch chi'n ymrwymo mewn modd eglur iawn, iawn i'r polisi y dylai pobl y wlad hon gael y gair terfynol, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu dros ddewis i aros ac ymgyrchu i aros, a'r hyn a wnawn ni yn y fan yma yw derbyn nad oes y fath beth â Brexit lle mae swyddi'n dod yn gyntaf, ond yr hyn sy'n bwysig i ni yw'r egwyddor—yr egwyddor—y dylai pobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig gael y gair olaf ar unrhyw gytundeb y deuir iddo.
Dirprwy Lywydd, allwn i ddim wedi bod yn fwy eglur y prynhawn yma yn nodi polisi'r Llywodraeth oherwydd dyna bolisi'r Llywodraeth hon ers i ni ddechrau trafod hyn yn y fan yma. Mae wedi ei ailadrodd droeon mewn penderfyniadau, wedi ei osod gan y Llywodraeth a'i gytuno gan yn y Cynulliad hwn, fod ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd a all ddiogelu swyddi a'r economi yma yng Nghymru. Ond os yw hynny'n amhosibl, a bod Tŷ'r Cyffredin yn methu â dod i benderfyniad, yna dylai'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl. A Llywodraeth Cymru a roddodd gynnig gerbron y Cynulliad hwn a oedd yn gofyn i'r paratoadau gael eu dechrau fel nad ydym yn colli'r cyfle hwnnw yn ddiofyn—nad os yn syml ddigon o amser er mwyn i hynny ddigwydd.
Yr hyn na fyddaf i yn ei wneud, Dirprwy Lywydd dros dro, yr hyn na fyddaf yn ei wneud yw esgus ar lawr y Cynulliad hwn, rywsut, ein bod ni'n rheoli pethau nad ydym ni. Yn y pen draw, nid yw refferendwm yn nwylo pobl yn y Cynulliad hwn, a dylem fod yn onest ynglŷn â hynny. Ni fyddaf ychwaith yn esgus os mai dyna lle y byddwn ni yn y pen draw, fod hynny rywsut yn ddewis heb unrhyw anawsterau. Oherwydd mae anawsterau yn gorwedd yn ei lwybr; mae anawsterau ymarferol ac anawsterau gwleidyddol hefyd.
Gofynnodd yr Aelod i mi petai yna ail refferendwm a bod 'aros' ar y papur pleidleisio, wel, dywedaf eto, fel yr wyf wedi'i ddweud yn y fan yma, safbwynt Llywodraeth Cymru fyddai ein bod ni'n parhau i fod o blaid aelodaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd. Dywedaf hynny er gwaethaf yr anawsterau y credaf a fyddai yn hynny o beth, oherwydd dyna'r safbwynt gonest. Ond mae'n onest hefyd i egluro i bobl hyd yn oed os ydych chi, fel y gwn i fod yr Aelod, yn ymrwymedig iawn i ail bleidlais ymhlith y bobl, y mae gan hynny broblemau sydd angen eu hwynebu hefyd, ac nid yw o unrhyw les i neb i ymddwyn fel ei bod yn bosibl cael gwared ar y problemau hynny drwy chwa o frwdfrydedd rhethregol.