Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 19 Mawrth 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y dadansoddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru.
Hoffwn i droi yn gyntaf at y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno. Nid wyf i'n credu y bydd yn syndod i neb ein bod ni'n gwrthod y gwelliant gan y Ceidwadwyr, sydd ar ei orau yn ceisio bychanu'r effaith a gaiff diwygio lles, ac ar ei waethaf, yn ceisio ymryddhau o unrhyw gyfrifoldeb am yr effaith ddinistriol a gaiff ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac yn dlawd yng Nghymru.
O ran y gwelliant gan Blaid Cymru, rwy'n awyddus i egluro bod y Llywodraeth hon eisoes wedi ymrwymo i archwilio'r achos o blaid datganoli agweddau ar weinyddu'r system fudd-daliadau. Byddwn yn edrych eto ar dystiolaeth Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd, yn asesu profiad yr Alban hyd yma, ac wedyn yn darparu sylfaen o dystiolaeth i edrych ar bethau y gellir eu dwyn yn eu blaenau. Bydd raid i ni, wrth gwrs, edrych ar y modd y gallwn sicrhau bod unrhyw drosglwyddo swyddogaethau yn dod gyda'r cyllid angenrheidiol.
Mae'r adroddiad hwn yn dwyn at ei gilydd ystadegau allweddol, dadansoddiadau a thystiolaeth ar effaith digwyddiadau lles cyfredol ac arfaethedig ar deuluoedd yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y toriadau budd-dal sylweddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU o 2010 hyd at ddiwedd mis Ionawr 2019—cyfnod y gwelsom ni ynddo newid sylweddol yn y system—ac yn amlinellu'r effeithiau unigol a chronnol.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi rhai newidiadau cadarnhaol yn ddiweddar, fel cynnydd mewn rhai lwfansau gwaith credyd cynhwysol, ond mae'r rhain yn gymharol fychan yn eu maint. Rydym yn gwybod bod effaith y newidiadau lles hyn yn gyffredinol yn atchweliadol, gyda'r effeithiau mwyaf yn cael eu teimlo gan bobl ar yr incwm isaf, yn enwedig y rhai sydd â phlant. Rydym yn gwybod hefyd bod llawer o doriadau budd-dal yn cael eu cyflawni yn rhannol yn unig, yng nghysgod toriadau sylweddol sydd eto i ddod. Amcangyfrifir y bydd tlodi plant cymharol yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol, gyda'r diwygiadau yn gwthio 50,000 o blant yn ychwanegol i dlodi pan fydd y rhain i gyd yn weithredol. Y gwir plaen yw bod yr ergyd ddwbl o ddiwygio lles ac agenda cyni yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd leiaf abl i ddwyn y baich. Ac nid dyna ddiwedd arni.
Ceir effaith negyddol anghymesur hefyd ar incwm nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, aelwydydd pobl Bangladeshaidd a Phacistanaidd, a menywod, wrth gwrs. Mae'r effeithiau negyddol hyn, i raddau helaeth, yn deillio o newidiadau i'r system budd-daliadau, yn benodol: y penderfyniad i rewi cyfraddau budd-daliadau oedran gweithio; y terfyn dau blentyn o ran credydau treth a chredyd cynhwysol; diddymiad yr elfen deuluol; a newidiadau i fudd-daliadau anabledd. Roedd datganiad y gwanwyn yr wythnos diwethaf yn rhoi llwyfan amserol o ran gweithredu ar rewi budd-daliadau. Yn anffodus, ni chafwyd cyhoeddiad na chamau gweithredu, er i'r rhewi wthio llawer o deuluoedd ymhellach i dlodi.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn nodi'n eglur nifer o bryderon o ran cyflwyno credyd cynhwysol hyd yma, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol: yr effaith ar ôl-ddyledion rhent, banciau bwyd, a gwneud cais am gredyd cynhwysol ar-lein. Mae Ymddiriedolaeth Trussell, ynghyd â'r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau seneddol yn briodol yn galw am ddiwedd i orfod aros am bum wythnos am y taliad cyntaf o gredyd cynhwysol. Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn cyfaddef ar 11 Chwefror mai'r prif reswm sydd wedi arwain at y cynnydd hwn yn nefnydd y banciau bwyd o bosib yw'r ffaith bod pobl yn cael anhawster o ran asesu eu harian ar gyfer credyd cynhwysol yn ddigon cynnar.
O ran taliadau annibyniaeth personol, mae'r dystiolaeth a grynhoir yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod problemau enfawr a niweidiol yn bodoli ac yn parhau gyda'r broses asesu cymhwysedd. Dirprwy Lywydd, bydd pob un sydd yma yn y Siambr hon yn gyfarwydd â rhai o'r problemau gwrthnysig y mae pobl wedi dod ar eu traws wrth wneud cais am daliadau annibyniaeth bersonol. Ceir pryderon gwirioneddol o ran gallu contractwyr i gynnal asesiadau cymhwysedd yn gywir. Caiff hyn ei adlewyrchu gan y gyfran sylweddol a chynyddol o apeliadau yn barnu o blaid yr hawlydd.
Ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau ataf i, gan nodi nifer o newidiadau i fudd-daliadau iechyd ac anabledd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu cwblhau. Mae'r ymrwymiad i adolygu'r broses asesu i'w groesawu ond, fel y dywedir, yn y manylion a'r ddarpariaeth y bydd y diafol yn hyn o beth. Rydym ni dro ar ôl tro ac yn gadarn wedi egluro pryderon y Llywodraeth hon i Lywodraeth y DU, gan alw am atal cyflwyno'r credyd cynhwysol, a chwilio am newid brys yn y polisïau mwyaf niweidiol, fel y cyfyngiad dau blentyn. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rhai newidiadau, ond nid yw'r rhain yn mynd yn ddigon pell.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i ateb y diffyg cyfan sy'n deillio o'r diwygiadau lles hyn gan Lywodraeth y DU, yr amcangyfrifir y byddan nhw'n £2 biliwn erbyn 2020 i Gymru. Ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a gwneud yn iawn â nhw wrth iddyn nhw geisio ymdopi ag effaith annheg ac anghymesur y diwygiadau hyn. Drwy ein gwaith cynhwysiant ariannol, rydym yn rhoi cyllid grant o bron £6 miliwn y flwyddyn, sy'n cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau fel Cyngor Da, Byw'n Well sy'n darparu gwasanaethau cyngor o fewn pob un o'r 22 ardal awdurdod lleol. A phan fydd cyfran o'r ardoll ariannol i ddarparu gwasanaethau cynghori ar ddyled wedi cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru, rwy'n rhagweld y bydd hyn yn cynyddu ein cyllid grant cyfredol i oddeutu £8.5 miliwn o fis Ebrill eleni ymlaen.
Gwyddom fod ein cyllid i wasanaethau cynghori yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefnogodd y cyllid dros 73,000 o bobl, gan eu helpu i gael gafael ar bron £60 miliwn o incwm budd-daliadau lles. Ymwelais â Chyngor ar Bopeth Bargoed yn ddiweddar, un o'r ardaloedd peilot ar gyfer gwasanaeth cymorth newydd i'r rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol, a gwelais drosof fy hun rai o'r anawsterau gyda thechnoleg ddigidol a pha mor hanfodol yw'r cymorth hwn wrth wneud cais am gredyd cynhwysol.
Mae gan ein cronfa cymorth dewisol swyddogaeth hollbwysig wrth gefnogi'r rhai sydd fwyaf anghenus ac mae wedi cefnogi 214,300 o bobl, gan roi nawdd i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, gyda thros £44 miliwn mewn grantiau ers mis Ebrill 2013. Mae'r gronfa wedi gweld penllanw o ran pobl yn ymgysylltu am gymorth. Dirprwy Lywydd, pan ymwelais â'r ganolfan sy'n derbyn galwadau gan bobl sy'n ceisio cael gafael ar hawliadau gan y Gronfa Cymorth Dewisol a'r gronfa cymorth mewn argyfwng, mae'r dystiolaeth o'r fan honno'n awgrymu, i lawer o'r bobl hyn, fod hyn o ganlyniad i gyflwyniad credyd cynhwysol. Felly, rydym yn rhoi £2 miliwn yn fwy o gyllid eleni, ac ar gyfer 2019 a 2020.
Er mwyn talu cost y prydau ysgol am ddim ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflwyno credyd cynhwysol, byddwn yn rhoi £5 miliwn o arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2018-19 drwy gynllun grant. Bydd £7 miliwn ar gael i awdurdodau lleol hefyd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20.
Mae ein cynnig gofal plant yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru ac yn helpu ail enillwyr i gael gwaith ac yn galluogi rhieni sy'n gweithio'n rhan-amser i gynyddu eu hincwm drwy weithio mwy o oriau, sy'n hollbwysig i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith.
Gwyddom fod cyni yn rhoi pwysau ariannol aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus a'n pobl, felly rydym yn rhoi £244 miliwn bob blwyddyn i gefnogi Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae bron 300,000 o aelwydydd ar incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd yn eu biliau treth gyngor, ac nid yw 220,000 ohonyn nhw yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Dirprwy Lywydd, gwn nad yw effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU i lawer yn y Siambr hon a llawer mewn cymunedau ledled y wlad yn rhywbeth sy'n achosi pryder mawr yn unig iddyn nhw, ond ei fod yn achos dicter gwirioneddol, a hynny'n briodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y cyfraniadau i'r ddadl hon ar y dadansoddiad ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru. Diolch yn fawr.