– Senedd Cymru ar 19 Mawrth 2019.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar y Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Hannah Blythyn.
Cynnig NDM6993 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r dadansoddiad empirig o effaith Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r System Les ar Aelwydydd yng Nghymru.
2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar fywydau’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac yn gresynu at hynny.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y dadansoddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru.
Hoffwn i droi yn gyntaf at y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno. Nid wyf i'n credu y bydd yn syndod i neb ein bod ni'n gwrthod y gwelliant gan y Ceidwadwyr, sydd ar ei orau yn ceisio bychanu'r effaith a gaiff diwygio lles, ac ar ei waethaf, yn ceisio ymryddhau o unrhyw gyfrifoldeb am yr effaith ddinistriol a gaiff ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac yn dlawd yng Nghymru.
O ran y gwelliant gan Blaid Cymru, rwy'n awyddus i egluro bod y Llywodraeth hon eisoes wedi ymrwymo i archwilio'r achos o blaid datganoli agweddau ar weinyddu'r system fudd-daliadau. Byddwn yn edrych eto ar dystiolaeth Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd, yn asesu profiad yr Alban hyd yma, ac wedyn yn darparu sylfaen o dystiolaeth i edrych ar bethau y gellir eu dwyn yn eu blaenau. Bydd raid i ni, wrth gwrs, edrych ar y modd y gallwn sicrhau bod unrhyw drosglwyddo swyddogaethau yn dod gyda'r cyllid angenrheidiol.
Mae'r adroddiad hwn yn dwyn at ei gilydd ystadegau allweddol, dadansoddiadau a thystiolaeth ar effaith digwyddiadau lles cyfredol ac arfaethedig ar deuluoedd yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y toriadau budd-dal sylweddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU o 2010 hyd at ddiwedd mis Ionawr 2019—cyfnod y gwelsom ni ynddo newid sylweddol yn y system—ac yn amlinellu'r effeithiau unigol a chronnol.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi rhai newidiadau cadarnhaol yn ddiweddar, fel cynnydd mewn rhai lwfansau gwaith credyd cynhwysol, ond mae'r rhain yn gymharol fychan yn eu maint. Rydym yn gwybod bod effaith y newidiadau lles hyn yn gyffredinol yn atchweliadol, gyda'r effeithiau mwyaf yn cael eu teimlo gan bobl ar yr incwm isaf, yn enwedig y rhai sydd â phlant. Rydym yn gwybod hefyd bod llawer o doriadau budd-dal yn cael eu cyflawni yn rhannol yn unig, yng nghysgod toriadau sylweddol sydd eto i ddod. Amcangyfrifir y bydd tlodi plant cymharol yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol, gyda'r diwygiadau yn gwthio 50,000 o blant yn ychwanegol i dlodi pan fydd y rhain i gyd yn weithredol. Y gwir plaen yw bod yr ergyd ddwbl o ddiwygio lles ac agenda cyni yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd leiaf abl i ddwyn y baich. Ac nid dyna ddiwedd arni.
Ceir effaith negyddol anghymesur hefyd ar incwm nifer o grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl, aelwydydd pobl Bangladeshaidd a Phacistanaidd, a menywod, wrth gwrs. Mae'r effeithiau negyddol hyn, i raddau helaeth, yn deillio o newidiadau i'r system budd-daliadau, yn benodol: y penderfyniad i rewi cyfraddau budd-daliadau oedran gweithio; y terfyn dau blentyn o ran credydau treth a chredyd cynhwysol; diddymiad yr elfen deuluol; a newidiadau i fudd-daliadau anabledd. Roedd datganiad y gwanwyn yr wythnos diwethaf yn rhoi llwyfan amserol o ran gweithredu ar rewi budd-daliadau. Yn anffodus, ni chafwyd cyhoeddiad na chamau gweithredu, er i'r rhewi wthio llawer o deuluoedd ymhellach i dlodi.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn nodi'n eglur nifer o bryderon o ran cyflwyno credyd cynhwysol hyd yma, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol: yr effaith ar ôl-ddyledion rhent, banciau bwyd, a gwneud cais am gredyd cynhwysol ar-lein. Mae Ymddiriedolaeth Trussell, ynghyd â'r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau seneddol yn briodol yn galw am ddiwedd i orfod aros am bum wythnos am y taliad cyntaf o gredyd cynhwysol. Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn cyfaddef ar 11 Chwefror mai'r prif reswm sydd wedi arwain at y cynnydd hwn yn nefnydd y banciau bwyd o bosib yw'r ffaith bod pobl yn cael anhawster o ran asesu eu harian ar gyfer credyd cynhwysol yn ddigon cynnar.
O ran taliadau annibyniaeth personol, mae'r dystiolaeth a grynhoir yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod problemau enfawr a niweidiol yn bodoli ac yn parhau gyda'r broses asesu cymhwysedd. Dirprwy Lywydd, bydd pob un sydd yma yn y Siambr hon yn gyfarwydd â rhai o'r problemau gwrthnysig y mae pobl wedi dod ar eu traws wrth wneud cais am daliadau annibyniaeth bersonol. Ceir pryderon gwirioneddol o ran gallu contractwyr i gynnal asesiadau cymhwysedd yn gywir. Caiff hyn ei adlewyrchu gan y gyfran sylweddol a chynyddol o apeliadau yn barnu o blaid yr hawlydd.
Ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau ataf i, gan nodi nifer o newidiadau i fudd-daliadau iechyd ac anabledd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu cwblhau. Mae'r ymrwymiad i adolygu'r broses asesu i'w groesawu ond, fel y dywedir, yn y manylion a'r ddarpariaeth y bydd y diafol yn hyn o beth. Rydym ni dro ar ôl tro ac yn gadarn wedi egluro pryderon y Llywodraeth hon i Lywodraeth y DU, gan alw am atal cyflwyno'r credyd cynhwysol, a chwilio am newid brys yn y polisïau mwyaf niweidiol, fel y cyfyngiad dau blentyn. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rhai newidiadau, ond nid yw'r rhain yn mynd yn ddigon pell.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i ateb y diffyg cyfan sy'n deillio o'r diwygiadau lles hyn gan Lywodraeth y DU, yr amcangyfrifir y byddan nhw'n £2 biliwn erbyn 2020 i Gymru. Ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a gwneud yn iawn â nhw wrth iddyn nhw geisio ymdopi ag effaith annheg ac anghymesur y diwygiadau hyn. Drwy ein gwaith cynhwysiant ariannol, rydym yn rhoi cyllid grant o bron £6 miliwn y flwyddyn, sy'n cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau fel Cyngor Da, Byw'n Well sy'n darparu gwasanaethau cyngor o fewn pob un o'r 22 ardal awdurdod lleol. A phan fydd cyfran o'r ardoll ariannol i ddarparu gwasanaethau cynghori ar ddyled wedi cael ei datganoli i Lywodraeth Cymru, rwy'n rhagweld y bydd hyn yn cynyddu ein cyllid grant cyfredol i oddeutu £8.5 miliwn o fis Ebrill eleni ymlaen.
Gwyddom fod ein cyllid i wasanaethau cynghori yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cefnogodd y cyllid dros 73,000 o bobl, gan eu helpu i gael gafael ar bron £60 miliwn o incwm budd-daliadau lles. Ymwelais â Chyngor ar Bopeth Bargoed yn ddiweddar, un o'r ardaloedd peilot ar gyfer gwasanaeth cymorth newydd i'r rhai sy'n hawlio credyd cynhwysol, a gwelais drosof fy hun rai o'r anawsterau gyda thechnoleg ddigidol a pha mor hanfodol yw'r cymorth hwn wrth wneud cais am gredyd cynhwysol.
Mae gan ein cronfa cymorth dewisol swyddogaeth hollbwysig wrth gefnogi'r rhai sydd fwyaf anghenus ac mae wedi cefnogi 214,300 o bobl, gan roi nawdd i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, gyda thros £44 miliwn mewn grantiau ers mis Ebrill 2013. Mae'r gronfa wedi gweld penllanw o ran pobl yn ymgysylltu am gymorth. Dirprwy Lywydd, pan ymwelais â'r ganolfan sy'n derbyn galwadau gan bobl sy'n ceisio cael gafael ar hawliadau gan y Gronfa Cymorth Dewisol a'r gronfa cymorth mewn argyfwng, mae'r dystiolaeth o'r fan honno'n awgrymu, i lawer o'r bobl hyn, fod hyn o ganlyniad i gyflwyniad credyd cynhwysol. Felly, rydym yn rhoi £2 miliwn yn fwy o gyllid eleni, ac ar gyfer 2019 a 2020.
Er mwyn talu cost y prydau ysgol am ddim ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflwyno credyd cynhwysol, byddwn yn rhoi £5 miliwn o arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2018-19 drwy gynllun grant. Bydd £7 miliwn ar gael i awdurdodau lleol hefyd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20.
Mae ein cynnig gofal plant yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru ac yn helpu ail enillwyr i gael gwaith ac yn galluogi rhieni sy'n gweithio'n rhan-amser i gynyddu eu hincwm drwy weithio mwy o oriau, sy'n hollbwysig i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith.
Gwyddom fod cyni yn rhoi pwysau ariannol aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus a'n pobl, felly rydym yn rhoi £244 miliwn bob blwyddyn i gefnogi Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae bron 300,000 o aelwydydd ar incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd yn eu biliau treth gyngor, ac nid yw 220,000 ohonyn nhw yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
Dirprwy Lywydd, gwn nad yw effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU i lawer yn y Siambr hon a llawer mewn cymunedau ledled y wlad yn rhywbeth sy'n achosi pryder mawr yn unig iddyn nhw, ond ei fod yn achos dicter gwirioneddol, a hynny'n briodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at y cyfraniadau i'r ddadl hon ar y dadansoddiad ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwir yn enw Darren Millar. Mark.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith diwygio lles.
2. Yn nodi sylwadau diweddar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol a Thaliadau Annibyniaeth Personol, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon dros weithredu'r ddau.
3. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, drwy ei Rhaglen Lywodraethu a'r cynllun gweithredu economaidd;
4. Yn pryderu, er bod cyflogaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi bod tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain; Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, ac mae enillion wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.
Diolch. Yn 2010, etifeddodd Llywodraeth y DU gylch o anobaith, gyda diweithdra a dibyniaeth aml-genhedlaeth wedi gwreiddio'n ddwfn mewn gormod o leoedd, a Chymru ar ei hôl hi. Nawr mae gennym ni fwy o bobl mewn gwaith nag erioed o'r blaen ac mae cyflogau yn y DU yn codi ar y gyfradd gyflymaf ers mwy na degawd. Ac mae'r ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod lefelau lles personol a sgoriau iechyd meddwl wedi gwella yn y DU ar ôl 2011.
Rwy'n cynnig gwelliant 1, sy'n cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Lafur Cymru o effaith diwygio lles. Er hynny, mae ei natur wleidyddol a'i fod yn hepgor meysydd allweddol o newid, gan gynnwys newidiadau gan Lywodraeth y DU i lwfansau treth incwm personol ers 2010 a chyflwyno credyd cynhwysol a thaliadau annibyniaeth personol yn achos siom i ni. Siom i ni hefyd yw diffyg nodau ystyrlon gan Lywodraeth Cymru i leihau tlodi. Wrth feio Llywodraeth y DU yn barhaus am achosi amddifadedd yng Nghymru, maen nhw'n ceisio osgoi'r gwirionedd mai yn eu dwylo nhw y mae llawer o'r ysgogiadau wedi bod i fynd i'r afael â thlodi dros 20 mlynedd. Ac, fel y canfu 'A yw Cymru'n Decach?' adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fis Hydref diwethaf, mae tlodi ac amddifadedd yn parhau'n uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain. Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU ac mae cyflogau wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Yn ddamniol, dangosodd ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyflogau gweithwyr y DU yn 2018 hefyd fod cyflogau cyfartalog yn is yng Nghymru ac wedi tyfu'n fwy araf nag yng ngwledydd eraill y DU yn y flwyddyn flaenorol. Mewn gwirionedd, 20 mlynedd ar ôl datganoli, gan Gymru y mae'r cyflogau clir isaf ymysg gwledydd y DU.
Canfu adroddiad 'UK Poverty 2017' Sefydliad Joseph Rowntree fod 60 y cant o oedolion o oedran gweithio mewn aelwydydd di-waith mewn tlodi o'i gymharu â 16 y cant o'r rhai mewn aelwydydd sy'n gweithio. Mae Llywodraeth Cymru ei hunan wedi cyfaddef bod cyflogaeth yn un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae Tŷ'r Cyffredin—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, pwy sy'n siarad? Ie, mae'n ddrwg gen i.
Diolch i chi, Mark, am ildio. Diolch yn fawr iawn. Os derbyniwn fod cyfraddau uchel o anfantais ac amddifadedd yn rhai o'r cymunedau ac yr effeithir ar rywfaint o'r rhai sydd ar yr incwm isaf gan y newidiadau mwyaf pitw, rwy'n gofyn iddo wrando ar lais Aelodau Seneddol Ceidwadol, a Gweinidogion yn wir, sydd wedi siarad allan ynglŷn â hyn. Pan wnaeth Esther McVey gydnabod y gallai pobl gyda throsglwyddiad credyd cynhwysol, rhai o'r bobl hynny yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw funud yn ôl, fod £200 yn dlotach yn sgil y newid, fe fydden nhw'n dlotach, gan gynnwys pobl sydd mewn gwaith. Fe ddywedodd hi
Rwyf wedi dweud ein bod ni wedi gwneud penderfyniadau anodd, a bydd hi'n waeth ar rai pobl, neu hyd yn oed Amber Rudd, a ddywedodd fod credyd cynhwysol wedi achosi ymchwydd yn y defnydd o'r banciau bwyd. Ni allwch chi wadu, 'does bosib, fod y newidiadau i drethiant a lles wedi taro'r bobl yr oeddech chi'n sôn amdanyn nhw galetaf un.
Diolch. Wel, byddaf yn sôn am hynny yn ystod gweddill fy araith, ac rwyf innau hefyd wedi bod yn ysgrifennu at Weinidogion San Steffan am y materion a godwyd yn fy mhrofiad i gydag etholwyr.
Dywedodd Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin yn 2012,
Mae cefnogaeth eang i'r egwyddorion y tu ôl i gredyd cynhwysol, ac rydym ninnau o'r un farn.
A dywedodd Ysgrifennydd cysgodol Gwaith a Phensiynau'r Blaid Lafur yn 2014,
Mae Llafur yn cefnogi egwyddor credyd cynhwysol.
Mae credyd cynhwysol yn disodli system sy'n ffaelu, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o gael swydd, a symud i mewn i waith yn gynt ac aros mewn gwaith yn hwy. Serch hynny, fel y dywed Llywodraeth y DU, dylai unrhyw faterion, o'i chyflwyno, gael sylw, ac fe wnaiff hynny ddigwydd. Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau'r DU fis Tachwedd diwethaf,
Rwy'n gwybod bod problemau gyda chredyd cynhwysol, er gwaethaf ei fwriadau da... Byddaf yn gwrando ac yn dysgu oddi wrth y grwpiau arbenigol yn y maes hwn sy'n gwneud gwaith mor dda. Rwy'n gwybod y gall fod yn well.
Wrth i mi siarad yn y fan hon fis Tachwedd diwethaf, manylais ar gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynglŷn â rhoi credyd cynhwysol ar waith a oedd wedi eu cyhoeddi eisoes. Er bod y rhwydwaith banc bwyd yr oeddech chi'n sôn amdano wedi agor yn 2004, gyda'r nod o gael banc bwyd ym mhob tref yn y DU, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau fis Tachwedd diwethaf,
Rydym ni eisoes wedi cyflwyno taliadau 100% ymlaen llaw, rhoi cyllideb ar gyfer cymorth, taliadau uniongyrchol i landlordiaid a thalu dwy wythnos yn ychwanegol o fudd-dal tai i bobl sy'n symud o Fudd-Dal Tai i Gredyd Cynhwysol.
Dan daliadau annibyniaeth personol, mae 31 y cant o hawlwyr anabl yn derbyn y gyfradd uchaf o gymorth erbyn hyn o'i gymharu â 15 y cant dan lwfans byw i'r anabl. Er hynny, rwyf wedi cefnogi llawer o'm hetholwyr i herio penderfyniadau ar daliadau annibyniaeth personol yn llwyddiannus tra bod y gweithwyr iechyd proffesiynol a oedd yn cynnal eu hasesiadau yn arddangos ymwybyddiaeth wael a diffyg dealltwriaeth o'r rhwystrau y mae eu cyflyrau yn eu creu iddyn nhw. Rwyf wedi ysgrifennu droeon hefyd at Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â hyn. Felly, rwy'n croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau fod nifer yr apeliadau ar daliadau budd-dal anabledd personol sy'n dyfarnu yn erbyn Llywodraeth y DU—72 y cant haf y llynedd—yn rhy uchel. Hefyd, fe fydd hi'n rhoi sylw i hyn a chyhoeddiadau eraill, gan gynnwys y bwriad i integreiddio'r taliad annibyniaeth personol, credyd cynhwysol a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn un gwasanaeth rhannu gwybodaeth i leihau'r angen i ymgeiswyr orfod cyflwyno gwybodaeth sawl tro. Dim ond ddoe fe glywais i gan elusen yng Nghymru sydd â rhan yn hyn am eu gwaith gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i gefnogi pobl gyda namau ar y synhwyrau i gael gwaith.
Dylai Llywodraeth Cymru hithau chwarae ei rhan hefyd. Er enghraifft, dylai ymateb yn gadarnhaol i'r alwad gan Dai Cymunedol Cymru iddi hi ac awdurdodau lleol Cymru weithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru i gyd-leoli gwasanaethau a chaniatáu i fudd-daliadau gan awdurdodau lleol gael eu gwneud ar yr un pryd â chredyd cynhwysol, a chan gyhoeddi cynllun cadarn i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys nodau perfformiad clir a mesurau o gynnydd. Diolch.
Rwy'n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynir yn enw Rhun ap Iorwerth. Leanne.
Diolch, ac rwy'n cynnig y gwelliant. Nid yw'n syndod ein bod wedi cyflwyno'r gwelliant hwn. Rydym wedi gwthio'r agenda hon ers sawl blwyddyn erbyn hyn, gan gredu mai'r unig ffordd y gallwn ni fynd i'r afael mewn gwirionedd â'r agweddau gwarthus tuag at y bobl dlotaf yn ein cymdeithas yw drwy gymryd y cyfrifoldeb ein hunain. Mae'n werth nodi ar y dechrau yr effaith y mae'r dewisiadau gwleidyddol sef cyni a diwygio lles wedi ei chael ar fenywod. Fel yr amlinellais yn gynharach yn ystod y cwestiynau busnes, mae llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn amcangyfrif, wrth edrych ar bob newid i drethiant a budd-daliadau rhwng 2010 i 2017, fod 86 y cant o'r gostyngiad yng ngwariant y Llywodraeth wedi bod yn wariant ar fenywod. Ac rydym wedi cael adroddiad gan bwyllgor Tŷ'r Cyffredin heddiw sy'n disgrifio nad oes gan rai menywod unrhyw ddewis heblaw am droi at buteindra i gael dau ben llinyn ynghyd, ac mae hynny'n gysylltiedig â diwygio lles.
Nid oes angen imi raffu rhestr hir o bolisïau sydd wedi cael effaith ddinistriol a chronnus ar y bobl dlotaf yng Nghymru. Mae'r polisïau hyn wedi cael eu dogfennu yn dda, ac fel y dangosodd y newidiadau arfaethedig i'r credyd cynhwysol yn ddiweddar, mae'r effeithiau hyn yn cael eu derbyn yn dawel erbyn hyn, hyd yn oed gan lawer o Dorïaid. Mae wedi bod yn ddoniol ar un ystyr gweld cyn-Dorïaid fel Anna Soubry yn sylweddoli graddfa'r hyn sydd wedi digwydd yn ei henw, fel y gwelwyd yn The Last Leg ar y teledu yn ddiweddar.
Y meddylfryd o fewn y gwasanaeth sifil yw'r hyn yr wyf i am dynnu sylw ato heddiw mewn gwirionedd, oherwydd nid wyf i'n credu y gallwn mewn gwirionedd greu system o nawdd cymdeithasol ddynol sy'n deilwng o'r enw oni bai ein bod ni'n newid y ffordd y mae'r staff yn rhyngweithio gyda phobl mewn angen o ddydd i ddydd. Mae'r rhestr hir o gosbedigaethau a roddir i bobl sydd mewn amgylchiadau truenus—er enghraifft, y dyn a gafodd ei gosbi am golli apwyntiad oherwydd ei fod yn yr ysbyty gyda'i bartner a oedd newydd gael plentyn marw-anedig—yn darlunio hynny. Mae'r system hon yn ddideimlad. Nawr, mae adolygiadau o gosbedigaeth wedi gwadu fod yna bolisi swyddogol o gosbi'r rhai mewn profedigaeth, ac wedi tynnu sylw at anghysondebau rhanbarthol o ran y polisi hwnnw. Nid oes gennyf i amheuaeth, er hynny, y byddai'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi defnyddio'r adroddiadau hynny i nodi'r rhanbarthau lle nad ydyn nhw'n cosbi digon ar bobl, ac wedi holi pam oedd hynny, mae'n debyg. Ond byddai'r gweddill ohonom ni sy'n darllen yr adroddiadau hynny yn cydnabod bod rhywbeth llawer mwy cymhleth yn digwydd.
Mae polisi swyddogol wedi bod yn llym ac wedi cael ei lunio i gosbi'r tlodion ac, wrth gwrs, nid oes ganddo ddim i'w wneud â chymhellion i weithio, fel y mae asesiadau effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gredyd cynhwysol wedi dangos. Ond yn fwy eang, nid yw'r polisïau hyn wedi cael eu cyflwyno mewn gwagle—maen nhw wedi bod yn rhan o gyfres o bolisïau a ddechreuodd pan dreuliodd yr Arglwydd Freud dair wythnos gyfan yn adolygu polisi lles yn fanwl i Tony Blair. Ie, siarad yn goeglyd wyf i—yr hyn a oedd yn digwydd mewn gwirionedd oedd mai ymdrech gan y Blairites oedd hon i dawelu'r Daily Mail. Gwyddom nad yw tawelu'n gweithio, ac felly yn hytrach na newid y ffordd y mae'r papurau tabloid yn ymdrin â materion nawdd cymdeithasol, gwelwyd bod y papurau tabloid yn mynd yn fwy gorffwyll a chamarweiniol, pan mai'r materion gwirioneddol ar y pryd oedd biwrocratiaeth, anhyblygrwydd a'r anallu i gefnogi llafur achlysurol. Creodd hynny yn ei dro ddiwylliant a oedd yn gwneud i'r system wleidyddol gyfan ofni gwrthwynebu llawer o doriadau lles y glymblaid, ac roedd hi'n ymddangos felly mai'r hyn a achosodd y chwalfa ariannol yn 2008 oedd gormod o fudd-daliadau i bobl anabl. Mae honno'n hinsawdd a all droi'n annifyr yn gyflym iawn a threiddio drwy Lywodraeth, fel y gwelwyd gan ryngweithio staff yr Adran Gwaith a Phensiynau gyda chosbedigaethau o ddydd i ddydd.
Daw hyn â mi at fy mhwynt olaf—mae'r agweddau yn parhau i fod yn amlwg, hyd yn oed yn adroddiad Llywodraeth Cymru. Nawr, gwn nad y Gweinidog ei hunan yn bersonol a ysgrifennodd yr adroddiad hwn, ond rhoddaf enghraifft fel a ganlyn. Ar dudalen 2, mae'r adroddiad yn cyfeirio at gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr. Nawr, dyna derm gwleidyddol llwythog—dyna'r term y ceisiodd y Torïaid ei ddefnyddio i wrthweithio labelu'r polisi o dreth ar ystafell wely. Enw gwirioneddol y polisi, fel y gwelir yn y dogfennau swyddogol ar y pryd, yw'r 'tâl am danddeiliadaeth'. Ond gan ddefnyddio'r term Torïaidd yn y fan hon, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dangos cymaint y mae'r naratif am doriadau lles wedi cael ei fewnoli.
Mae hyn i gyd yn dangos bod yr iaith a ddefnyddiwn i ddisgrifio pethau yn bwysig ac anaml y bydd yn anwleidyddol, ac mae caethiwed i derminoleg a meddylfryd Whitehall yn parhau. Dyna un rheswm pam mae angen datganoli lles fel y gallwn ni ddechrau newid agweddau ac fel y gallwn ni ddod o hyd i rywfaint o drugaredd.
Mae'n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl, ond byddai'n well gen i pe na fyddai'n rhaid i mi, mewn sawl ffordd. Dywedodd John F. Kennedy un tro:
Os na all cymdeithas rydd helpu'r niferoedd sy'n dlawd, ni all achub yr ychydig sy'n gyfoethog.
Rwyf i o'r farn mai hynny yw hanfod yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yma—sut y mae cymdeithas yn gwarchod y rhai sy'n wynebu anfantais. Gyda llaw, nid yw anfantais yn rhywbeth sydd filiwn o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth unrhyw un ohonom ni. Mae'r dadansoddiadau dro ar ôl tro wedi ystyried faint ohonom sydd ond rhyw un neu ddau o daliadau cyflog oddi wrth gyni a thlodi gwirioneddol. Yn fy achos i fy hunan—pan oeddwn i yn anterth fy ngyrfa ym maes rheoli hamdden, ac yn gwneud yn arbennig o dda, cafodd y cwmni ei gymryd drosodd a chafodd llu o reolwyr eu dihysbyddu gan y cwmni newydd—cefais fy niswyddo yng nghanol fy 20au, yn Ninas Llundain, yn talu rhent uchel, a'm gwraig a minnau yno o hyd. Treuliais i chwe mis nid yn unig yn rhoi ystyriaeth ddofn i bethau ond yn gweithio hefyd fel swyddog diogelwch nos ar sifftiau 12 awr yn Ninas Llundain wedi fy amgylchynu gan gyfoeth a golud canol y 90au yn Llundain, ac yn gweithio cyn yr isafswm cyflog drwy sifftiau hir o 12 awr. Cefais i amser wrth fy modd a chwrdd â llawer o bobl ffein hefyd. Ond mae'n hynny'n dangos, mewn gwirionedd, i lawer ohonom ni—ac mae'r bobl hynny sy'n troi i fyny yn y banciau bwyd yn aml yn bobl sydd naill ai mewn gwaith neu wedi bod yn gweithio tan yn ddiweddar a bod ychydig o ddigwyddiadau yn eu bywydau wedi eu gwthio dros y dibyn. Ac ar y pwynt hwnnw rydym yn disgwyl i'r system dreth a lles eu cefnogi a'u galluogi i ddychwelyd i'r gwaith, a phan fyddan nhw'n cael gwaith eto i wneud i'r gwaith hwnnw dalu mewn gwirionedd. Nid yw hynny'n digwydd, er gwaethaf dyheadau gorau—ac rwy'n bod yn hael yma—Iain Duncan Smith, ar un adeg, a ddaliodd y portffolio hwn yn y Llywodraeth, ac a aeth i'r ystadau tai yn Glasgow a threulio chwe mis yno yn dysgu sut beth oedd bywyd yno. Rhoddodd gynnig ar waith, wedi ei ariannu'n dda, ar y pryd, i chwildroi'r cymunedau hynny mewn gwirionedd, ac yna pan ddaeth yn ei ôl i'r Llywodraeth fe rwygodd George Osborne y llyfr sieciau a dweud, 'Fe gei di wneud yr holl stwff ynglŷn â'r gosbedigaeth, mi gei di wneud peth o'r stwff ynglŷn â'r cymhellion, ond 'fydd 'na ddim arian i ti wneud hynny'. Tanseiliodd hynny yr hyn a allasai fod yn ffordd dosturiol, ystyriol, strwythuredig ac yn seiliedig ar dystiolaeth, o helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith a rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw sydd ei hangen, i wneud i waith dalu mewn gwirionedd. Ni ddigwyddodd hynny. Rydym yma lle yr ydym ni nawr.
Hoffwn dalu teyrnged i'r cymdeithasau tai niferus, yr awdurdodau lleol, yr undebau credyd, a'r sefydliadau fel Cristnogion yn Erbyn Tlodi ac eraill, sydd allan yno ar hyn o bryd yn feunyddiol yn rhoi cyngor ar ddyledion, cyngor ar reoli arian, cyngor ar gyllidebu ariannol, gan gynorthwyo pobl wrth iddyn nhw geisio ailadeiladu eu bywydau, yn aml oherwydd bod diwygiadau mewn treth a lles yn eu gwthio i dlodi. Hoffwn ddiolch hefyd, wrth gwrs, i'r rhai sy'n gwirfoddoli wythnos ar ôl wythnos, nid yn unig pan fyddwn ni'r gwleidyddion yn troi i fyny i helpu un dydd Sadwrn bob yn hyn a hyn, ond y rhai sy'n gwneud eu rhan bob wythnos, bob dydd o bob wythnos, gyda'r banciau bwyd fel banc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, Ymddiriedolaeth Trussell, yr eglwysi, y trefnwyr cymunedol ac eraill, sy'n darparu nid yn unig gynhaliaeth gorfforol a llythrennol gyda bwyd a chewynnau a diaroglyddion a phopeth arall i helpu pobl i gael cydbwysedd yn eu cyllidebau—a hynny yn y chweched wlad fwyaf ffyniannus yn y byd— ond yn ogystal â hynny maen nhw'n cynnig cyfeillgarwch a chymorth hefyd. Hoffwn ddiolch i'r holl elusennau digartrefedd lleol ar hyn o bryd hefyd, gan gynnwys Emaus, y Wallich, Centrepoint a Shelter a llawer un arall ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ledled Cymru hefyd. Ond ni ddylem ni fod yma—os na all cymdeithas rydd helpu'r niferoedd sy'n dlawd, ni all achub yr ychydig sy'n gyfoethog.
Y ffeithiau syml yw, Mark, ac fe glywais i'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith yr ydych chi'n ei wneud fel Aelod Cynulliad unigol, yn ymgymryd ag achosion ar les a budd-daliadau er mwyn eich etholwyr, fel yr wyf innau a llawer un arall yn ei wneud—ond y ffaith syml yw bod y diwygiadau treth a lles hyn wedi bod yn atchweliadol iawn. Hyd yn oed ar ôl y gwelliannau, dengys y dadansoddiad eu bod yn dal i fod yn atchweliadol iawn. Maent yn druenus o atchweliadol gan eu bod yn taro'r rhai sydd leiaf abl i'w hamddiffyn eu hunain. Y menywod, cymunedau ethnig penodol, yr ifanc, y rhai nad oes ganddyn nhw lais—sydd yn gorfod dod atoch chi a minnau i ofyn am gymorth. Ond a wyddoch chi ein bod ni yn eu helpu nhw i wrthsefyll y system, er gwaethaf y system? Pam na wnaeth—? Pan oeddwn i'n Weinidog, pan ysgrifennodd Julie James a minnau ac eraill y llythyr at Weinidogion y DU i ddweud, 'Gwnewch eich asesiad eich hunain ar yr effaith gronnol yn seiliedig ar dystiolaeth. A gweithiwch allan beth yw effaith y rhain.' 'Na, does dim angen gwneud hynny'. 'Pam, beth sy'n codi ofn arnoch chi?' Maen nhw'n ofni'r ffaith syml y bydd yn dangos bod y rhain yn cosbi'r tlawd.
Ni fu a wnelo hyn erioed â gosod cyni ar ysgwyddau'r rhai a all ei fforddio fwyaf—mae'n cael ei wneud ar y rhai a all ei fforddio leiaf, ac mae'n peri niwed iddyn nhw a niwed i gymunedau. Pan soniwn ni am y pellter, fel y crybwyllwyd mewn dadl flaenorol yn y fan hon, rhwng y goreuon, y gwleidyddion, pa ryfedd, pan mae gennych mewn etholaeth fel fy un i ardaloedd cefnog nad ydynt yn gweld hyn o gwbl ac nid yw'n cyffwrdd â'u bywydau, ac eto i gyd yng Nghaerau a Gilfach ac mewn mannau eraill, ceir cymunedau cyfan sy'n dioddef nawr dan hyn, a bydd pethau'n gwaethygu. Ni allaf fynd drwy fanylion y cyflwyniadau y byddwch chi wedi eu gweld, ac yr wyf i wedi eu gweld, ac y bydd pawb wedi eu cael nhw gan Age Cymru ynglŷn â rhai o'r newidiadau sydd eto i ddod a sut y byddan nhw'n effeithio ar rai o'r bobl hŷn sy'n cael y taliad annibyniaeth personol ac ati. Dim ond dweud a wnaf wrth Geidwadwyr tosturiol, wrth bobl sy'n wirioneddol boeni am eu hetholwyr—na allwn guddio ein pennau yn y tywod mwyach. Mae hon yn gosbedigaeth ar bobl, ac os ydym ni'n credu na fydd y bwlch yn cynyddu, wel fe wna. Os na all cymdeithas rydd helpu'r niferoedd sy'n dlawd, ni all achub yr ychydig sy'n gyfoethog. Mae'n ddyletswydd arnom gydnabod y ffeithiau ar lawr gwlad cyn y gallwn ddod ymlaen gyda'r atebion mewn gwirionedd.
Mae'n rhaid inni wynebu'r ffeithiau yma heddiw. Un peth oedd dweud y byddem ni'n hepgor y wleidyddiaeth yn hyn, ond peth arall yw hepgor y wleidyddiaeth o benderfyniad gwleidyddol sydd wedi cael ei wneud, sef gwasanaethu system gyfan sy'n gweld pobl mewn tlodi, mewn tlodi mawr, y bobl hynny na all weld eu ffordd trwy yfory, drennydd a thradwy—pobl sy'n troi i fyny yn ein cymorthfeydd neu bobl sy'n ysgrifennu atom i ddweud nad ydyn nhw'n gwybod sut y maen nhw'n mynd i ddal ati. Ac ni allwn honni nad dewis gwleidyddol mo hwnnw. Dewis gwleidyddol yw hwn. Dewis gwleidyddol yw cyni. Yn wir, dewis mewn dwy ran oedd hwn. Y rhan gyntaf oedd amddifadu'r sector cyhoeddus o unrhyw arian, a'r sector cyhoeddus oedd yn darparu'r cymorth i'r bobl hynny sy'n eu cael eu hunain dan ormes y diwygiadau lles llym hyn. Felly nid yn unig y gwelwyd y diwygiadau lles yn torri'r cyllid a oedd yn mynd i deuluoedd wythnos ar ôl wythnos, ond roedd y toriadau wedyn ar Lywodraeth Leol, y penderfyniad gwleidyddol i gael gwared ar y cronfeydd a oedd ar waith yn 65 y cant o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth pan wnaethoch chi gymryd yr awenau a bellach ar 45 y cant o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth—dewis gwleidyddol oedd hwnnw. Felly, ceir llai o arian i fynd o gwmpas ym mhobman.
Mae'n fethiant llwyr. Mae'n warth llwyr, ac rwy'n falch bod Leanne Wood wedi tynnu sylw at yr hyn a wnaeth hi—y ffordd y mae pobl yn cael eu trin pan na allan nhw gyrraedd cyfarfodydd, y cosbedigaethau sydd arnyn nhw. Pwy allai gredu mewn difrif ei bod yn system deg a honno'n cosbi pobl lle mae'n rhaid iddyn nhw fynd i gardota am eu harian, ac os na allan nhw fynd i gardota am eu harian, yna nid oes unrhyw arian iddyn nhw? Ni ellir esgusodi hynny fel penderfyniad anwleidyddol, oherwydd penderfyniad gwleidyddol yw peth fel hyn.
Hoffwn i godi mater Age Cymru, a'r diwygiadau lles sydd eto i ddod. Meddyliais y byddwn i'n canolbwyntio ar hwnnw oherwydd mae'n amlwg nad yw pobl eraill wedi gallu gwneud hynny. Rydym ni'n sôn yma am gyplau o oedran cymysg a'r meini prawf credyd pensiwn a budd-dal tai sy'n newid ar 15 Mai eleni, a fydd yn gwneud yr aelwydydd hynny yn y dyfodol cymaint â £7,000 y flwyddyn yn dlotach. A theuluoedd yw'r rhain sydd eisoes yn dlawd eu hunain. Felly, beth yw'r newidiadau hyn? Wel, ar hyn o bryd, gall yr unigolyn hynaf hawlio lwfans credyd pensiwn, ac fe wna hynny waeth beth fo oedran yr unigolyn iau ar yr aelwyd honno. Yr hyn a fydd yn digwydd ar 15 Mai yw y bydd pobl yn gorfod cyrraedd yr oedran pensiwn hwnnw, a gadewch i ni fod yn glir yma: rydym yn sôn am fenywod yn bennaf, a fydd yn iau na'u dynion—nid yw'n hynny'n ddieithriad; gwyddom hynny—a gwyddom hefyd eu bod nhw wedi codi oedran ymddeol y menywod hynny beth bynnag. Gwyddom hefyd, a rhoddwyd enghreifftiau o hynny yma heddiw, y gallai rhai o'r menywod hynny fod allan o waith ers cryn amser am amryw o resymau. Ac mae 'na ystadegyn arall hysbys, a hwnnw yw ystadegyn PRIME Cymru, sef bod rhywun dros 65 oed sy'n chwilio am waith yn fwy tebygol o farw cyn iddyn nhw ddod o hyd i'r gwaith hwnnw. Ac mae'r ystadegyn hwnnw'n hysbys iawn, iawn. Caiff ei gadarnhau, mae'n hysbys, ac eto i gyd mae gennym ni Lywodraeth yma sy'n dweud wrth bobl hŷn, 'Rhaid i chi fynd allan a chwilio am waith, oherwydd, os na wnewch chi hynny, fe welwch y bydd raid ichi fyw ar £143 yr wythnos, oherwydd rydym wedi dileu eich hawliau.' Oni bai, wrth gwrs, eich bod yn digwydd gwahanu. Pe byddech yn digwydd gwahanu, caiff y partner hŷn gynnydd, a bydd yn cael £163 yr wythnos, os yw'n ddyn. Nawr, dewch ymlaen, gadewch inni fyw yn y byd go iawn yma. Mae hyn yn gwbl warthus. Er bod y Torïaid wedi cydnabod ac wedi esgus cefnogi'r syniad o beidio ag effeithio ar bobl hŷn oherwydd eu bod eisiau eu pleidleisiau, maent bellach wedi diarddel y syniadau hynny, hyd yn oed. Felly, rydym yn mynd i roi pobl, o'r crud i'r bedd nawr, mae'n debyg, mewn tlodi. Nid cymorth cymdeithasol o'r crud i'r bedd mo hyn.
A gaf i alw nawr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Hannah Blythyn.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl ystyriol hon heddiw, ac yn enwedig i Leanne Wood, Huw Irranca-Davies a Joyce Watson. Roeddech chi'n dechrau drwy sôn, mewn gwirionedd, am sut y dylid barnu cymdeithas wâr yn ôl sut yr ydym ni'n trin y rhai mwyaf anghenus a'r rhai sy'n dioddef fwyaf. Joyce, gan gysylltu â hynny, roeddech chi'n sôn am annynoldeb y system bresennol ac yn benodol yr effaith ar bobl hŷn, menywod yn arbennig felly. Roedd yr Aelodau yn y Siambr heddiw yn sôn am ba mor wleidyddol yw pethau, neu am beidio â gwneud pethau yn faterion gwleidyddol, ond, mewn gwirionedd, gadewch inni fod yn onest, mae diwygio lles a chyni yn mynd yn erbyn menywod yn eu hanfod. Nid oes dianc rhag hynny. Rydym yn gweld yr effeithiau a'r dystiolaeth o hynny. Derbyniaf yr hyn a ddywedwch am eirfa. Mae iaith yn aml yn llwythog a gellir defnyddio hynny i ddadwleidyddoli, fel y dywedwch chi, ac i annynoli hefyd. Mae'n wirioneddol bwysig, yn arbennig pan soniwn am fater fel hwn. Felly, mae'n amlwg bod—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, siŵr.
A ydych chi'n derbyn y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud am y swyddogion a ysgrifennodd yr adroddiad a'u bod nhw'n gwbl anghyfarwydd â'r sefyllfa ar lawr gwlad? Felly, er enghraifft, mae'r adroddiad yn edrych ar y penderfyniad i gyfyngu ar gredydau treth i'r ddau blentyn cyntaf ond yn llwyr anwybyddu sgandal y cymal trais rhywiol. A ydych chi'n rhannu fy mhryderon ynghylch hyn?
Nid wyf i'n credu mai beirniadaeth o swyddogion yn uniongyrchol neu fel unigolion yw hyn, ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch o ran meddwl am yr iaith a ddefnyddiwn ni. Ac, yn wir, bwriadwyd y ddogfen hon i fod yn ddogfen ffeithiol, ond rwy'n derbyn yn llwyr os nad ydym ni'n agored ac yn blaen o ran ystyr y pethau hyn yn ymarferol, gallai hynny fod yn annynoli ac yn dadwleidyddoli a thywys y ddadl i gyfeiriad nad ydym ei eisiau, ac mae angen inni fod yn fwy dewr ac agored ynglŷn â hynny.
Yn amlwg, mae angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r materion systemig o ran y system fudd-daliadau lles a gwrthdroi'r toriadau niweidiol sy'n cael eu harwain gan ideoleg, sy'n cynyddu tlodi plant. Pan welwch chi effaith gronnol y diwygiadau lles mawr hyn sydd wedi cael eu gweithredu neu sydd heb fod mewn grym yn llawn eto, mae effaith mesurau cyni Llywodraeth y DU yn wirionedd noeth na all neb ohonom ni neu na ddylai neb ohonom ni gilio oddi wrtho.
Un o'r agweddau niferus sy'n peri pryder i hawlwyr newydd y credyd cynhwysol yw sefyllfa'r rhai sy'n ceisio cymorth hanfodol gyda'u costau tai, ac ni fydd llawer yn gallu fforddio i dalu'r rhent i'r landlord nes y daw eu taliad cyntaf i law. Mae awdurdodau lleol lle mae'r gwasanaeth llawn credyd cynhwysol ar waith eisoes yn gweld cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent i nifer o denantiaid. Mae hyn yn achosi ac yn gwaethygu problemau â dyled i'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth ac wedi arwain at ganlyniadau difrifol i bobl sy'n wynebu cael eu troi allan o ganlyniad i fod heb arian o gwbl i dalu eu rhent. Bydd rhai newidiadau gan Lywodraeth y DU, fel treialu taliadau mwy cyson a thaliadau uniongyrchol i landlordiaid y sector preifat, a amlinellodd y Gweinidog dros gyflogaeth yn ei lythyr yn ymateb i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn helpu i greu gwelliannau pe bydden nhw ar waith yn llawn ledled Cymru. Eto i gyd, ni fydd y newidiadau hyn ar eu pennau eu hunain yn mynd yn ddigon pell nac yn ddigon cyflym i ymdrin â phroblemau sylweddol sydd yn nyluniad y credyd cynhwysol.
Dirprwy Lywydd, fel yr amlinellir yn fy sylwadau agoriadol, byddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant y Ceidwadwyr, sy'n methu â chydnabod maint y problemau a ddaeth i'r amlwg eisoes. Rwyf hefyd yn awyddus i ailadrodd sut y byddwn ni'n edrych ar yr achos o blaid datganoli gweinyddiad rhai agweddau ar y system budd-daliadau lles, gan edrych a oes ffordd y gallem wneud pethau, yn weinyddol, yn wahanol, yn well ac yn decach yng Nghymru. Rydym wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'n cynorthwyo wrth ddatblygu'r gwaith hwn. Yn rhan o hyn, byddwn hefyd yn dilyn yn agos ac â diddordeb mawr waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o ran ei ymchwiliad ar hyn o bryd i fudd-daliadau yng Nghymru, dewisiadau ar gyfer darpariaeth well.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir iawn fod effaith diwygio lles Llywodraeth y DU yn niweidiol yng Nghymru. Fel y clywsom ni yma eto heddiw—ac mae llawer ohonom ni'n clywed ac yn gweld y sefyllfa wirioneddol boenus a dinistriol hon, boed hynny yn ein gohebiaeth, yn ein cymorthfeydd neu yn ein cymunedau. Cyn imi gael fy ethol i'r Senedd hon, ymgyrchais dros ddod â'r gyfundrefn o gosbedigaeth greulon a dideimlad i ben. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd camau i fynd i'r afael ag effaith diwygio lles ac yn pwyso am wrthdroi'r polisïau niweidiol sy'n cael effaith—[Torri ar draws.]—niweidiol a dinistriol ar fywydau pobl yma yng Nghymru. Diolch.
A ydych chi'n ildio? Nac ydych. Iawn, mae'n ddrwg gen i. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn i ni symud at y ddadl ar Gyfnod 3 o'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati.) (Cymru), rwy'n gohirio'r trafodion am 10 munud. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn inni ailgynnull, ond a gaf i annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda? Diolch.