Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Mawrth 2019.
Ddirprwy Weinidog, mae gan ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol rym i drawsnewid busnesau bach, ac eto nid yw'r mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn gwybod sut i harneisio ei bŵer. Nid ar gyfer cwmnïau technoleg mawr yn unig y mae dysgu peirianyddol; gall y caffi lleol ei ddefnyddio, i helpu i brosesu taliadau, ffurflenni TAW, ac awtomeiddio nifer fawr o dasgau. Gyda'r mwyafrif o offer yn ffynhonnell agored, hyd yn oed y data llais Cymraeg—diolch i brosiect Common Voice Mozilla—nid oes fawr o rwystrau rhag mynd i mewn i'r maes. Yr hyn sydd ei angen yw i fusnesau gael eu pwyntio i'r cyfeiriad iawn. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo manteision deallusrwydd artiffisial a sicrhau ein bod yn arfogi perchnogion busnes yn y dyfodol â sgiliau i fanteisio ar dechnoleg i helpu eu busnesau?