1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o fusnesau lleol yng Ngorllewin De Cymru i fanteisio ar bŵer deallusrwydd artiffisial? OAQ53610
Diolch. Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn cydnabod y rôl hollbwysig y bydd technolegau digidol yn ei chwarae yn y dyfodol, gyda digideiddio ac arloesi yn themâu allweddol yn y galwadau i weithredu. Rydym yn parhau i ymgysylltu â’r byd busnes i annog mabwysiadu technolegau, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial.
Ddirprwy Weinidog, mae gan ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol rym i drawsnewid busnesau bach, ac eto nid yw'r mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn gwybod sut i harneisio ei bŵer. Nid ar gyfer cwmnïau technoleg mawr yn unig y mae dysgu peirianyddol; gall y caffi lleol ei ddefnyddio, i helpu i brosesu taliadau, ffurflenni TAW, ac awtomeiddio nifer fawr o dasgau. Gyda'r mwyafrif o offer yn ffynhonnell agored, hyd yn oed y data llais Cymraeg—diolch i brosiect Common Voice Mozilla—nid oes fawr o rwystrau rhag mynd i mewn i'r maes. Yr hyn sydd ei angen yw i fusnesau gael eu pwyntio i'r cyfeiriad iawn. Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo manteision deallusrwydd artiffisial a sicrhau ein bod yn arfogi perchnogion busnes yn y dyfodol â sgiliau i fanteisio ar dechnoleg i helpu eu busnesau?
Diolch ichi am y cwestiwn. Mae'r Aelod yn pregethu wrth y cadwedig ar hyn—rwy'n llwyr gydnabod manteision deallusrwydd artiffisial, ar y pen arloesol uchel, ond hefyd ar y pen llai dyrchafedig, bob dydd o redeg busnes a sefydliadau. Ac ers dod i'r gwaith, gwnaeth y gweithgaredd sy'n digwydd argraff fawr arnaf, wedi'i gyfarwyddo gan brifysgolion a busnesau eu hunain, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Credaf fod yna le inni gael trafodaeth ynghylch beth yw rôl y Llywodraeth, oherwydd mae'r arloesi'n digwydd er gwaethaf y Llywodraeth mewn llawer o achosion, ac nid o'i herwydd. Ond ceir pethau pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i geisio cynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar y technolegau hyn, ac rydym yn disgwyl yr adroddiad ar yr adolygiad gan yr Athro Phil Brown cyn bo hir i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud.
Ond rwyf am ddyfynnu un enghraifft i'r Aelod, i'w sicrhau bod arferion da'n bodoli eisoes o fewn ei rhanbarth, sef Aurora International Consulting ym Mhort Talbot, sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer rheoli adeiladu. Maent wedi datblygu prosiect, a lansiwyd y mis diwethaf, i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer y dadansoddiad risg a'r dadansoddiad o'r datganiad dull, a gynhyrchir yn awtomatig bellach, ac mae hynny nid yn unig yn cynhyrchu gwelliannau o ran diogelwch a chywirdeb, ond mae'n arbed 95 y cant o gost cydymffurfio, a bellach maent yn edrych i weld sut y gallant gyflwyno hyn yn rhyngwladol. Felly, mae angen inni edrych ar sut y gellir cymhwyso hyn yn ddomestig, ond hefyd ar sut y gall cwmnïau domestig ei ddatblygu yma a'i allforio dramor.
Yn wir, mae aros ar flaen y gad o ran arloesi technolegol yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant busnes yng Nghymru, ac mae deallusrwydd artiffisial yn un o'r meysydd brwydr sy'n dod i'r amlwg o ran cystadleuaeth busnes, ac ar y llwyfan byd-eang, mae cwmnïau fel Sony yn cydnabod hyn. Ond yma yn ne Cymru, mae canolfan dechnoleg Sony UK ym Mhen-coed sydd wedi ennill gwobrau yn arwain y ffordd mewn perthynas â hyn ac mewn llawer o ffyrdd eraill, gan gynnwys mynd i'r afael â heriau gweithgynhyrchu modern a gwella prosesau drwy ddefnyddio'r dechnoleg rhyngrwyd pethau ddiweddaraf, gan ddwyn cynhyrchiant gweithgynhyrchu ynghyd mewn proses ddi-dor—yn un gweithrediad llyfn. Y llynedd, Weinidog, lansiwyd cyfleuster ymchwil a datblygu AMROC ym Mhen-coed, mewn cydweithrediad â phencadlys Sony a chyfleusterau eraill yn Japan. Ac fel y dywedodd Steve Dalton, y rheolwr gyfarwyddwr, ar y pryd,
Mae cael ein dewis i wneud y gwaith ymchwil hanfodol hwn fel partner cydweithredol gyda'n pencadlys yn rhoi Sony UK TEC ar y map, nid yn unig yng Nghymru, ond ar y llwyfan gweithgynhyrchu byd-eang, sy'n rhywbeth yr ydym yn haeddiannol falch ohono... Mae hefyd yn deyrnged i'n gweithlu medrus iawn sydd wedi gosod eu hunain ar wahân, diolch i'w gwybodaeth a'u galluoedd digyffelyb.
Felly, tybed a fyddai'r Dirprwy Weinidog, neu'r Gweinidog, neu'r ddau, yn derbyn gwahoddiad i ymweld â chanolfan dechnoleg Sony UK sydd wedi ennill gwobrau i weld sut y mae'r tîm anhygoel yn rhoi Cymru ar flaen y gad bellach yn y byd gweithgynhyrchu a thechnoleg fodern.
Diolch ichi am y cwestiwn. Mae'r Gweinidog newydd fy hysbysu ei fod eisoes wedi derbyn gwahoddiad i fynychu'r ffatri; byddai'n bleser mawr gennyf innau ddod hefyd. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yr Aelod yn hyrwyddwr gwych i bresenoldeb Sony ym Mhen-coed. Credaf fod yna gyfle gwirioneddol gyffrous. Mae'n un o'r pethau rwyf am geisio canolbwyntio arnynt yn y portffolio hwn—sut i harneisio'r arferion da sy'n bodoli yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Oherwydd yn ne Cymru mae gennym ffynonellau gwych o ddata cyfoethog—yn y DVLA, yn Nhŷ'r Cwmnïau, yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol—yng Nghymru, ochr yn ochr â'r enghraifft y mae'r Aelod newydd gyfeirio ati yn Sony, ac mewn mannau eraill. Sut y gallwn ddod â hwy at ei gilydd i harneisio'r pŵer hwnnw ar y cyd er mwyn rhoi rhyw fath o fantais yn y maes i Gymru? Felly, byddem wrth ein bodd yn dod, rwy'n siŵr, ac edrychaf ymlaen at drafod ymhellach gyda'r Aelod pa gyfleoedd eraill a allai godi.
Soniasoch yn gynharach, Ddirprwy Weinidog, beth yw rôl y Llywodraeth yn hyn, ac efallai mai un rôl yw rhoi sicrwydd. Rwyf wedi siarad â darparwyr rhyngrwyd am gysylltedd 5G yn yr ychydig fisoedd diwethaf yng nghyd-destun bargen ddinesig bae Abertawe, ac maent yn gwneud y pwynt fod y sector preifat a'r sector cyhoeddus angen creu galw am 5G, megis dulliau o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, er mwyn iddynt ymrwymo i fuddsoddi yn y dechnoleg sydd ei hangen. Ddoe ddiwethaf gwelais ddarn yn y cyfryngau ynglŷn â sut y gall deallusrwydd artiffisial ddehongli sganiau diagnostig canser yn fwy cywir ac yn gyflymach na meddygon ac wrth gwrs, iechyd a lles yw un o brif themâu y fargen ddinesig. Gyda'r adolygiad rydym newydd ei gael, credaf efallai fod yna ychydig o risg y bydd yn ergyd i hyder y sector preifat ar adeg pan ydym o ddifrif yn ceisio manteisio i'r eithaf ar gyfle euraid i fasnacheiddio deallusrwydd artiffisial. Felly, sut y gallwch sicrhau'r arloeswyr ym maes deallusrwydd artiffisial fod fy rhanbarth, gyda'i ddwy brifysgol wych, yn dal i fod yn lle da i fuddsoddi a masnacheiddio?
Byddwn yn trafod hyn ymhellach y prynhawn yma, rwy'n gwybod, ond gadewch inni ddatgysylltu'r fargen ddinesig oddi wrth yr agenda ddigideiddio ehangach. Nid yw'r ddau yr un peth. Mae un yn ffordd tuag at nod, a gadewch i ni ganolbwyntio ar y pen ehangach. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, nid yw 5G yn rhywbeth sy'n cael ei ddatblygu ar raddfa fawr. Rydym wedi comisiynu Innovation Point i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y gallwn fanteisio arno. Ceir pethau llawer llai dyrchafedig y gallwn eu gwneud i wneud i'r technolegau weithio. Er enghraifft, gellir pweru rhyngrwyd pethau drwy rwydwaith LoRaWAN, sef rhwydwaith amledd isel sy'n llawer mwy cyffredin a dydd i ddydd na 5G. Felly, mae yna bethau y gallwn eu gwneud yn awr gan ddefnyddio teclynnau llawer llai uwch-dechnoleg na 5G a gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud tra ydym yn darganfod i ble mae hyn yn mynd nesaf, oherwydd mae'n amgylchedd sy'n newid yn gyflym.