Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 20 Mawrth 2019.
Wel, a gaf fi sicrhau'r Aelod sydd hefyd yn cefnogi ffordd liniaru'r M4, un rhaglen hanfodol y mae'r Llywodraeth yn ei hystyried ar hyn o bryd—y mae'r Prif Weinidog yn ei hystyried ar hyn o bryd—? A dylwn ddweud bod yn rhaid asesu pob ffordd. Rhaid i bob ffordd a adeiladir, Lywydd, gael ei hasesu yn erbyn proses ddiweddaraf yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, proses a gefnogir gan y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac wrth gwrs, mae rhaglenni fel yr un a nodwyd gan yr Aelod yn agored i ymgynghoriad â'r cyhoedd ac rwy'n mawr obeithio y bydd aelodau o'r cyhoedd yn ardal fy nghyd-Aelod yn cyflwyno'u safbwyntiau pan fydd yr ymgynghoriad yn digwydd.