Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 20 Mawrth 2019.
Yn anffodus, wrth gwrs, gollyngwyd y gath o'r cwd ac roedd awgrymu bod cyflogau isel yng Nghymru yn rhywbeth i'w ddathlu yn sarhad ar weithwyr Cymru, wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod cyflogau yng Nghymru wedi aros ar lefel rhy isel ers yn llawer rhy hir. Nid wyf yn credu bod hynny'n adlewyrchu'n dda ar 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur. Ond un offeryn, yn sicr, ar gyfer codi cyflogau yng Nghymru yw'r ymgyrch i gyflwyno'r cyflog byw yn ehangach. Mae'r sector cyhoeddus yn ymgysylltu mewn modd cadarnhaol. Credaf fod cynghorau, a arweinir gan fy mhlaid i a'ch un chi, wedi rhoi camau cadarnhaol ar waith ar gyflwyno'r cyflog byw, ond mae economi gref yng Nghymru yn galw am sector preifat cryf, a gallai'r sector preifat elwa yn sicr o gael mwy o weithwyr ar y cyflog byw. Onid y gwir amdani, yn y sector preifat yng Nghymru, yw ein bod yn llusgo ymhell ar ôl rhannau eraill o'r DU o ran gweithredu'r cyflog byw?