1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 20 Mawrth 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr, Lywydd. Nawr, yn ddiweddar rhoddodd Masnach a Buddsoddi Cymru sylw i'r costau cyflog a oedd 30 y cant yn is yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ers hynny mae'r Llywodraeth wedi tynnu cyfeiriadau at gyflogau is oddi ar y cyfryngau cymdeithasol ac ati, a gallaf ddeall yn iawn pam y byddech am ymbellhau oddi wrth eich camgymeriad eich hun, ond a gaf fi ofyn beth yw'r camgymeriad a wnaed yma? Ai dim ond eich bod wedi dweud hyn? Oherwydd mae'n ymddangos bod cred fod cynnig cyflogau isel yn beth da yn dal i fod wrth wraidd meddylfryd y Llywodraeth.
Dim o gwbl. Os caf atgoffa'r Aelod na fûm yn gyfrifol am Masnach a Buddsoddi Cymru ers yr ad-drefnu ym mis Rhagfyr, ond gallaf ddweud wrth yr Aelod nad oedd unrhyw Weinidog yn cymeradwyo'r trydariad hwnnw. Roedd yn annerbyniol. Nid yw'n cynrychioli meddylfryd y Gweinidogion. Yn wir, lluniwyd y cynllun gweithredu economaidd i hybu twf cyflogau ac ansawdd swyddi ledled Cymru, a dyna'n union y ceisiwn ei wneud.
Yn anffodus, wrth gwrs, gollyngwyd y gath o'r cwd ac roedd awgrymu bod cyflogau isel yng Nghymru yn rhywbeth i'w ddathlu yn sarhad ar weithwyr Cymru, wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod cyflogau yng Nghymru wedi aros ar lefel rhy isel ers yn llawer rhy hir. Nid wyf yn credu bod hynny'n adlewyrchu'n dda ar 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur. Ond un offeryn, yn sicr, ar gyfer codi cyflogau yng Nghymru yw'r ymgyrch i gyflwyno'r cyflog byw yn ehangach. Mae'r sector cyhoeddus yn ymgysylltu mewn modd cadarnhaol. Credaf fod cynghorau, a arweinir gan fy mhlaid i a'ch un chi, wedi rhoi camau cadarnhaol ar waith ar gyflwyno'r cyflog byw, ond mae economi gref yng Nghymru yn galw am sector preifat cryf, a gallai'r sector preifat elwa yn sicr o gael mwy o weithwyr ar y cyflog byw. Onid y gwir amdani, yn y sector preifat yng Nghymru, yw ein bod yn llusgo ymhell ar ôl rhannau eraill o'r DU o ran gweithredu'r cyflog byw?
Ac a gaf fi ddweud mai dyna'n union pam y gwnaethom gyflwyno'r contract economaidd fel rhan ganolog o'r cynllun gweithredu economaidd, i sicrhau bod gwaith teg yn ystyriaeth allweddol mewn unrhyw benderfyniad a wneir ynglŷn ag a ddylai busnes sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru? O'r pedwar maen prawf yn y contract economaidd hwnnw, mae gwaith teg yn elfen allweddol. Mae'r Comisiwn Gwaith Teg yn cwblhau ei waith ar hyn o bryd. Byddwn yn mabwysiadu'r argymhellion. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y cyflog byw wedi bod yn ystyriaeth allweddol yn eu gwaith.
Ond gadewch i ni edrych ar y ffeithiau sy'n ymwneud â'r economi ers datganoli. Gadewch i ni ystyried cyflogaeth—mae ar lefelau uwch nag erioed. Gadewch i ni ystyried y gyfradd gyflogaeth—unwaith eto, mae ar lefelau uwch nag erioed a chynyddodd yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU dros gyfnod datganoli; mae 9.7 y cant yn uwch o'i gymharu â 4.2 y cant. Mae anweithgarwch yn yr economi bellach yn is yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd—mae honno'n record a dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Ar fusnesau â phencadlys yng Nghymru—oherwydd mae llawer o bobl yn dweud yn aml nad oes gennym bencadlysoedd yma—y ffaith amdani yw bod gennym nifer uwch nag erioed o fusnesau wedi'u sefydlu yma yng Nghymru gyda'u pencadlysoedd yma, ac yn wir, mae wedi cynyddu bron 15,000 yn ystod y chwe blynedd diwethaf yn unig. Mae cyfradd dechrau busnesau yn uwch yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd. Ar ymchwil a datblygu mentrau busnes—gan fod llawer o bobl yn dweud yn aml nad ydym yn buddsoddi digon yn hynny—mewn gwirionedd, rhwng 1995 a 2017, roedd y cynnydd cyfartalog blynyddol yng Nghymru yn 8 y cant, ac mae hynny'n ddwywaith y gyfradd gyfartalog ar draws y DU. Mae allforion wedi codi. Mae cyfoeth aelwydydd wedi codi. Yn ddiamheuaeth, mae economi Cymru wedi gwella ers datganoli, ac yn enwedig yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae hynny'n rhywbeth y credaf y dylai Edwina Hart gael cydnabyddiaeth a chanmoliaeth amdano oherwydd fe fuddsoddodd amser ac egni enfawr i wneud yn siŵr ein bod yn symud oddi wrth ddad-ddiwydiannu drwy ganolbwyntio ar waith o ansawdd uwch sy'n talu'n dda. Nid yw'r gwaith hwnnw ar ben eto, a dyna pam y mae'r cynllun gweithredu economaidd mor hollbwysig.
Roedd honno'n rhestr hir iawn, ac nid wyf yn siŵr a oeddech yn ceisio cadarnhau yr hyn roeddwn yn ei ddweud, ond nid oedd lefelau cyflog yng Nghymru yn unman ar y rhestr honno. Wrth gwrs ei bod hi'n braf fod lefelau diweithdra yn gostwng, ond nid yw'n dangos y darlun cyfan. Mae gostyngiadau mewn cyfraddau anweithgarwch economaidd i'w croesawu, ond nid yw hynny'n dangos y darlun cyfan. Mae fy nghwestiynau heddiw'n ymwneud â lefelau cyflogau yng Nghymru, a gwyddom eu bod wedi bod yn rhy isel ers yn rhy hir, ac mae gennym y dathliad ymddangosiadol hwn o gyflogau isel yn y trydariad hwnnw, sydd bellach wedi'i ddileu.
Ond i ddychwelyd at y cyflog byw, dyma'r ffigurau: yn yr Alban yn awr, mae 3,000 o gyflogwyr wedi cofrestru fel cyflogwyr cyflog byw. Yn Lloegr, mae'r nifer yn 4,000. Yng Nghymru, mae'r gwahaniaeth yn go syfrdanol mewn gwirionedd: dim ond 120 o gwmnïau sydd gennym—y ffigurau mwyaf diweddar sydd gennyf yma—wedi'u cofrestru fel cwmnïau cyflog byw. Nawr, un gwahaniaeth, yn sicr, rhwng y sefyllfa yng Nghymru a'r Alban a Lloegr yw bod ganddynt sefydliadau wedi'u hariannu yn yr Alban a Lloegr sy'n mynd allan i ddarbwyllo ac annog cwmnïau sector preifat i gyflwyno'r cyflog byw, a dangos iddynt y byddai'n dda i'w busnesau pe baent yn dod yn gyflogwyr cyflog byw.
Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru fuddsoddi go iawn? A gyda llaw, mae'n galonogol wrth gwrs fod yna gontractau y byddwch yn ymrwymo iddynt yn uniongyrchol, drwy gaffael yng Nghymru, fod cwmnïau'n cael eu hannog yn y ffordd honno, a'u cyfarwyddo, mewn gwirionedd, i dalu cyflog byw i weithwyr. Ond beth am yr holl gwmnïau eraill nad ydynt yn rhan o gontractau uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru? Onid yw'n bryd i chi fuddsoddi mewn sefydliadau fel Citizens UK yn Lloegr, Poverty Alliance yn yr Alban i wneud yn siŵr fod y neges yn mynd allan i gwmnïau yng Nghymru y byddai'n dda iddynt hwy, yn ogystal ag i weithwyr Cymru, pe bai mwy ohonynt yn talu'r cyflog byw?
Dylwn ddweud nad wyf yn meddwl fod gwahaniaeth barn rhwng yr Aelod a minnau ar gyfraddau cyflog: mae angen iddynt wella, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Y ffordd yr awn ati i wneud hynny yw trwy gyflwyno'r contract economaidd yn fwy eang fel egwyddor ac yn ymarferol fel modd o wella ansawdd y gwaith a'r cyflog.
Nawr, nododd yr Aelod rai cyfryngau mewn mannau eraill sy'n cynyddu'r nifer sy'n derbyn y cyflog byw. Yma yng Nghymru, mae gennym Busnes Cymru gyda mwy na 200,000 o fusnesau o fewn eu cyrraedd—dyna wasanaeth rwyf wedi'i ddefnyddio'n bersonol yn ddiweddar. Rwyf wedi ysgrifennu at bob busnes ar ddau achlysur ynglŷn â Brexit, wedi cysylltu â 200,000, ond mae Busnes Cymru bellach yn gweithredu fel yr asiantaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru i annog cymaint â phosibl yn y sector preifat i fabwysiadu'r cyflog byw.
Ond yn hytrach nag anogaeth yn unig, rwy'n credu bod rhaid ichi gynnig rhywbeth. Rhaid i chi gynnig rhywbeth, a'r rhywbeth hwnnw yw cyllid y Llywodraeth, a chymhwyso'r egwyddor o rywbeth am rywbeth yw'r modd mwyaf effeithiol o bell ffordd o newid ymddygiad a gwella cyfraddau cyflog. A dyna a welwn yng Nghymru, a dyna pam y mae incwm aelwydydd ar gynnydd yng Nghymru. Ond buaswn yn derbyn bod angen gwneud mwy o hyd. Dechreuasom o linell sylfaen ofnadwy ganol i ddiwedd y 1990au. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol, ond drwy'r cynllun gweithredu economaidd a'r contract economaidd, byddwn yn mynd ymhellach eto.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Y mis diwethaf, comisiynwyd Actica Consulting gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd i gynnal adolygiad cyflym dan arweiniad annibynnol o drefniadau ar gyfer darparu bargen ddinesig bae Abertawe, gwerth £1.3 biliwn. Rwy'n troi fy mhen yn awr at y Dirprwy Weinidog gan y gallaf weld mai dyna'r ffordd y mae'r drafodaeth yn mynd. Gwnaeth yr adroddiad saith argymhelliad i wella'r gallu i gyflawni canlyniadau'r fargen, a tybed, Ddirprwy Weinidog, a allech ddarparu crynodeb o'ch asesiad o ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.
Wel, am gyfle. Ceir cyfle pellach yn ddiweddarach gyda'r cwestiwn brys ar yr union bwnc hwn i fynd i'r afael â'r pethau hynny, felly efallai y caf roi crynodeb byr i chi a gallwn ei archwilio ychydig ymhellach.
Dyma adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae Alun Cairns a minnau'n cytuno ar y mater hwn, o leiaf. Ceir beirniadaeth o'r holl chwaraewyr yn y ddau adroddiad, ac yn hytrach nag oedi gyda hynny, credaf fod angen inni ailfeddwl a chanolbwyntio ar ble i fynd â hyn o'r fan hon. Ond mae yna amrywiaeth o argymhellion manwl defnyddiol iawn i bob ochr ynglŷn â sut y gallwn ail-raddnodi’r berthynas hon i gyflawni'r hyn yr hoffem iddi ei gyflawni.
Diolch i chi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog, ac nid wyf yn anghytuno â dim a ddywedasoch. Rwyf am geisio nodi beth oedd eich asesiadau cychwynnol o'r argymhellion hynny ac efallai y gallech ymdrin â hynny. O ddarllen yr adroddiad fy hun, nodais fod yr argymhellion allweddol yn amlinellu'r angen am weithredu dros y pedwar mis nesaf. Nawr, camau i'r fargen ddinesig eu cyflawni yw'r rhain, ond tybed sut rydych chi a Llywodraeth Cymru yn mynd i gynorthwyo'r fargen ddinesig i gyflawni'r argymhellion hynny.
Yn sicr, cyfarfu Alun Cairns a minnau ag arweinwyr yr awdurdodau lleol eisoes ddydd Gwener. Cefais gyfarfod pellach ddydd Llun gyda'r ASau Cymreig a chyfarfod y bore yma ag Aelodau Cynulliad Cymru i roi gwybod iddynt beth y bwriadwn ei wneud nesaf.
Ein blaenoriaeth gyntaf yw adfer peth momentwm i'r prosiect hwn, felly rydym yn gweithio'n agos gyda'r fargen ddinesig i geisio cael dau o'r prosiectau dros y llinell cyn gynted â phosibl, sef ail gam Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac ardal ddigidol y glannau yn Abertawe. I wneud hynny, mae'r cyfrifoldeb yn gorwedd yn bennaf ar y dinas-ranbarth; hwy fydd yn gorfod datblygu'r achos busnes a'i gael wedi'i gymeradwyo gennym ni a Llywodraeth y DU. Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda hwy fel partneriaid, nid yn unig fel plismyn, sef y ffordd y sefydlwyd y fargen, i geisio cydweithio a gwneud yn siŵr ein bod yn cael y sicrwydd sydd ei angen i ryddhau'r arian ar gyfer y prosiectau hyn.
Diolch ichi, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi ac Alun Cairns yn gweithio gyda'ch gilydd ar hyn, ac rwy'n falch eich bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau lleol am bethau yn ogystal. Ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau, efallai drwy ddatganiadau, oherwydd mae gan bawb ohonom ddiddordeb yn hyn. Rwy'n falch fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y cyfraniad cadarnhaol y gall y fargen ei wneud i hybu'r economi yn y rhan hon o Gymru. Rwy'n credu yn y fargen ddinesig fel dull o weithredu ac rwy'n falch ein bod yn symud tuag at sefyllfa lle bydd pob rhan o Gymru o fewn ôl-troed bargen twf.
Ond wrth symud ymlaen, Weinidog—ac efallai mai dyma pam y gofynnais i'r holl Aelodau gael y wybodaeth ddiweddaraf ar hyn—sut y byddwch yn sicrhau bod y materion a godwyd yn yr adroddiad hwn yn mynd i gael sylw gyda bargeinion twf eraill hefyd? Yr hyn rwy'n ei ofyn, Weinidog, yw bod yna faterion yn codi a heriau wedi'u hamlinellu yng nghyswllt bargen ddinesig bae Abertawe ac rwyf am sicrhau bod y Llywodraeth yn defnyddio ei dylanwad i sicrhau nad yw'r un camgymeriadau'n digwydd mewn bargeinion twf eraill. Rwy'n meddwl yn benodol am fargen twf canolbarth Cymru, sy'n datblygu, wrth gwrs.
Wel, roedd nifer o bwyntiau yno. Rydym wedi briffio Aelodau: cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig llawn iawn gennym ddydd Gwener, cyhoeddwyd y ddau adroddiad ac fel y dywedais, rhoddwyd y papur briffio yn ei le ac rwy'n ateb cwestiynau arno y prynhawn yma. Os hoffai unrhyw Aelod gael rhagor o wybodaeth, rwy'n fwy na pharod i'w cyfarfod i'w briffio ar yr hyn rydym yn ei wneud. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig inni fod yn agored ar hyn, a dyna pam rydym wedi cyhoeddi'r adroddiadau llawn, er eu bod yn feirniadol o bob ochr.
O ran y gwersi a ddysgwyd ar gyfer prosiectau eraill, sefydlwyd y fargen ddinesig hon mewn ffordd nad oedd yn union yr un fath â bargeinion dinesig eraill, a chredaf mai dyna un o'r problemau a nodwyd gan yr adroddiadau: ymdrin â hyn ar sail prosiect, yn hytrach na rhoi ymreolaeth i'r dinas-ranbarth fabwysiadu dull rheoli portffolio. A thrwy fynnu bod pob prosiect yn gweithio drwy fodel pum achos y Trysorlys, maent wedi gosod bar llawer uwch i awdurdodau lleol ei oresgyn nag mewn prosiectau a ariannwyd yn gonfensiynol, naill ai drwy eu refeniw eu hunain neu drwy Lywodraeth Cymru. Mae rhai o'r awdurdodau lleol, a'r rhanbarth yn ei gyfanrwydd, wedi cael anhawster i gael y sgiliau a'r capasiti i allu mynd drwy'r model achos busnes trylwyr hwnnw, ac mae hynny wedi bod yn un o'r problemau a amlygwyd yn yr adroddiad. Felly, ar un ystyr, mae wedi'i sefydlu mewn ffordd a'i gwnaeth yn feichus ac yn anodd iddynt.
Sut y cymhwyswn hyn ar gyfer rhanbarthau eraill—. Gan fod y cyfrifoldeb dros y bargeinion dinesig bellach wedi symud o Swyddfa'r Cabinet, a'r rôl blismon honno, i'n hadran, rydym yn benderfynol y gallwn chwarae mwy o rôl partneriaeth. Mae'r Gweinidog a minnau'n benderfynol—ac rydym eisoes wedi cyfarfod â chadeiryddion yr holl fargeinion dinesig i wneud y pwynt hwn—ein bod yn awr, o dan y cynllun gweithredu economaidd, am ddatblygu strategaethau economaidd rhanbarthol. Rydym am wneud hynny mewn ysbryd o bartneriaeth a chydgynhyrchu, a dylem gymryd y bargeinion dinesig fel man cychwyn ar gyfer sut y datblygwn strategaeth ranbarthol gadarn gyda'n gilydd ar gyfer pob rhan o Gymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn dysgu'r gwersi'n llawn o'r ddau adroddiad ac o sgyrsiau eraill.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. A allai Gweinidog y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am gynnydd parc uwch-dechnoleg Blaenau Gwent?
Gallaf. O ran menter y Cymoedd Technoleg yn gyffredinol, mae'r Dirprwy Weinidog a minnau'n gweithio agos iawn gyda'n gilydd i sicrhau bod y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol yn cael ei datblygu mor gyflym ag y bo modd, ein bod yn denu mwy o gwmnïau technoleg fodurol yn arbennig i mewn i'r ardal, a'n bod yn defnyddio'r £100 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg er lles gorau'r ardal.
Diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ateb. Fodd bynnag, ers y cyhoeddiad ar y parc a'r safle uwch-dechnoleg fodurol, tua 18 mis yn ôl, nid oes yr un uned ddiwydiannol wedi'i hadeiladu. A wnaiff y Gweinidog roi dyddiad pendant i bobl Blaenau Gwent a Glynebwy yn awr ar gyfer dechrau gwaith, a ffrâm amser hyd yn oed ar gyfer creu swyddi ar y safle o bosibl?
Wel, rydym eisoes wedi cymeradwyo datblygiad safle Rhyd-y-Blew. Rydym wedi cymeradwyo busnes ychwanegol ac unedau diwydiannol ysgafn yn The Works yng Nglynebwy. Bydd gwaith ailosod Techboard yn dechrau eleni. Ac rwy'n falch o allu dweud heddiw ein bod ar y blaen i'r proffil gwariant ar gyfer menter y Cymoedd Technoleg gwerth £100 miliwn, yn bennaf oherwydd y buddsoddiad yn y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol, a allai fod wedi mynd i unrhyw le yn y byd—i Singapôr, i'r Almaen—ond yn lle hynny, dewisodd Thales ddod i Gymru.
Llefarydd—
Unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am—
Na, fi sydd ar fai—nid oedd angen ymyriad.
Mae hynny'n iawn, Lywydd. Unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ond yn sgil canslo Cylchffordd Cymru, rwy'n nodi mai 179 o swyddi roedd ardal fenter Glynebwy yn gyfrifol amdanynt yn ystod y saith mlynedd y bu mewn bodolaeth. Does bosibl felly, Weinidog y Cabinet, nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru roi seilwaith yn ei le fel mater o frys—seilwaith ffisegol a gofodol—i greu swyddi a rhagolygon hirdymor mewn ardal y dywedir ei bod yn un o'r rhai tlotaf yng Nghymru, a'r DU yn wir. Yn dilyn ymlaen o hyn, Weinidog y Cabinet, a allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni ynglŷn â'r cynhyrchwyr ceir, TVR, a'u bwriad i ddefnyddio'r safle?
Gallaf. Rwy'n falch o ddweud bod TVR yn gwneud cynnydd mawr ar geisio cymorth cyfalaf ar gyfer eu prosiect. Ac o ran seilwaith ffisegol, mae'r Aelod yn llygad ei le: mae JLL a llawer o rai eraill wedi nodi angen brys—nid yn unig yng Nglynebwy a Blaenau Gwent, ond ar draws Cymru—am unedau diwydiannol, yn rhannol o ganlyniad i'r ffaith bod cynifer o'r unedau a ddatblygwyd ac a adeiladwyd yn y 1980au yn cyrraedd diwedd eu hoes ddefnyddiol. Ac felly, dyna pam rydym yn buddsoddi cyfran enfawr o'r £100 miliwn mewn unedau diwydiannol sy'n briodol ar gyfer y mathau o fusnesau sydd eisiau lleoli yn y Cymoedd Technoleg. Dylwn ddweud wrth yr Aelod hefyd, mewn perthynas â'r ardal fenter, fy mod yn falch ein bod bellach wedi newid i strwythur llywodraethu newydd—bwrdd cynghori'r Cymoedd Technoleg—sy'n edrych yn benodol ar y cyfleoedd, nid yn unig o fewn y sector modurol, ond yn yr amgylchedd technoleg a digidol ehangach, i ddatblygu swyddi ym Mlaenau Gwent.