Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:56, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n iawn, Lywydd. Unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ond yn sgil canslo Cylchffordd Cymru, rwy'n nodi mai 179 o swyddi roedd ardal fenter Glynebwy yn gyfrifol amdanynt yn ystod y saith mlynedd y bu mewn bodolaeth. Does bosibl felly, Weinidog y Cabinet, nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru roi seilwaith yn ei le fel mater o frys—seilwaith ffisegol a gofodol—i greu swyddi a rhagolygon hirdymor mewn ardal y dywedir ei bod yn un o'r rhai tlotaf yng Nghymru, a'r DU yn wir. Yn dilyn ymlaen o hyn, Weinidog y Cabinet, a allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni ynglŷn â'r cynhyrchwyr ceir, TVR, a'u bwriad i ddefnyddio'r safle?