Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:37, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs. Mae'r amgylchedd wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu cynllun gweithredu economaidd. Mae amcanion allweddol y cynllun yn cynnwys yr ymgyrch tuag at dwf cynaliadwy, yr angen i wrthsefyll newid hinsawdd a hyrwyddo newid i economi carbon isel, glanach. Bydd cyflawni hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.