Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 20 Mawrth 2019.
Wel, drwy fabwysiadu'r dull o weithredu a grybwyllais o ran mabwysiadu ymagwedd thematig ac edrych ar sut y gallwn efelychu'r arferion gorau presennol ar raddfa fwy, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr economi sylfaenol fel rhan o dasglu'r Cymoedd, rwy'n gobeithio y gallwn ledaenu'r manteision y tu hwnt i'r canolfannau'n unig, ac i ben uchaf y Cymoedd ac ar hyd a lled y Cymoedd. Felly, er enghraifft, drwy waith ar yr economi sylfaenol, ni fydd hynny'n gyfyngedig i ôl troed presennol tasglu'r Cymoedd. Ac mae'n bwysig nad oes ffiniau caled i'r ôl troed. Felly, i ateb y cwestiwn penodol ynglŷn â dyffryn Aman a chwm Gwendraeth, mae hynny'n rhywbeth y gofynnais i fy swyddogion ddarparu cyngor i mi yn ei gylch yn ddiweddar. Mae gennyf fuddiant etholaethol yn hyn, felly ni fydd modd imi wneud penderfyniad terfynol ar y mater, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn sicrhau eglurhad yn ei gylch cyn bo hir, gobeithio.