Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 20 Mawrth 2019.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. A all ddweud wrthyf p'un a yw'r tasglu bellach yn cynnwys dyffryn Aman a chwm Gwendraeth ai peidio? Bydd y Gweinidog yn gwybod, gystal â minnau, fod y sgwrs yn barhaus, ac y gall y cymoedd gorllewinol gael eu hanghofio weithiau. Mae hyn yn peri cryn bryder, yn amlwg, oherwydd, er y gall fod rhai gwahaniaethau diwylliannol, mae'r problemau cymdeithasol ac economaidd ym mhen uchaf dyffryn Aman yn debyg iawn i'r hyn a geir ym mhen uchaf cwm Rhymni, er enghraifft. Felly a all y Gweinidog ddweud wrthyf sut y bydd dyffryn Aman a chwm Gwendraeth yn cael eu cynnwys yn nhasglu'r Cymoedd, a sut yn benodol y bydd y gwaith hwnnw'n gwerthuso ac yn ymwneud â'r cymunedau hynny?