Darpariaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus yn y Dyfodol

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:05, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi dysgu'r wers honno, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd. O ran Caerdydd, credaf fod metro de Cymru yn cynnig cyfle gwych i gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na char gan fod mwy a mwy o swyddi wedi'u lleoli yng nghanol Caerdydd. Ond yng Nghasnewydd, ceir nifer anghymesur o swyddi mewn parciau busnes ar hyd yr M4 fel y mae ar hyn o bryd, ac onid yw'r Gweinidog yn gywir i awgrymu, o leiaf, mai'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i helpu pobl i fynd i'r gwaith o gwmpas Casnewydd, mewn car neu ar fws, yw bwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu ffordd liniaru'r M4?