Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 20 Mawrth 2019.
Cwmnïau gwreiddiedig a chyfrifol—a gellir ymgorffori'r cwmnïau gwreiddiedig a chyfrifol hynny yn y strategaeth a grybwyllodd Leanne Wood yn gynharach mewn perthynas â budd amgylcheddol, yn enwedig lle byddant yn tyfu cadwyni cyflenwi lleol, o darddiad lleol, yn y sector sylfaenol, a all leihau olion traed carbon. Daeth cwmni tai Redrow i gyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, a gofynasom iddynt a oeddent wedi gwneud unrhyw asesiad o'r effaith ar gadwyni cyflenwi lleol, a dywedasant nad oeddent wedi gwneud unrhyw asesiad o gwbl o'u heffaith ar gadwyni cyflenwi lleol. Felly, onid yw'n wir y gall cwmnïau sylfaenol, cwmnïau o darddiad lleol, gael effaith gadarnhaol iawn ar bolisi twf gwyrdd?