Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 20 Mawrth 2019.
Rhwng eich ateb chi, Weinidog, a chwestiwn Hefin David, credaf eich bod wedi sôn am bob agwedd ar fy nealltwriaeth o'r economi sylfaenol. Soniasoch am gaffael ar y diwedd, ac yn ystod cwestiynau'r llefarwyr yr wythnos diwethaf, gofynnais i'r Gweinidog Cyllid a chaffael ynglŷn â rôl werthfawr caffael wrth ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol a thyfu economi sylfaenol Cymru, os yw hwnnw'n ymadrodd rydym am ei ddefnyddio. Felly, a allwch ddweud ychydig yn fwy wrthym, ymhelaethu rhywfaint, ar ran olaf eich ateb a dweud sut y bwriadwch sicrhau bod polisi caffael Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiannau lleol hyn, y diwydiannau gwyrdd hyn, gobeithio, sy'n ddiwydiannau ar gyfer heddiw ond hefyd yn ddiwydiannau ar gyfer y dyfodol?