9. Dadl Plaid Cymru: Yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 5:57, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn ar ran Plaid Cymru, ac ar ran y 138,600 o fenywod yng Nghymru a anwyd yn y 1950au ac a amddifadwyd o'u pensiynau heb hysbysiad dyladwy a phriodol.

Nawr, rwyf am fod yn glir yma nad ydym yn gwrthwynebu cydraddoli oedran pensiwn. Mae hynny'n gwbl gyfiawn, mae'n gwbl briodol. Nid cydraddoli yw'r broblem, ond diffyg hysbysiad ynglŷn â'r ffordd drychinebus y cyflawnwyd hyn. Amddifadwyd y menywod o'r hawl i newid eu cynlluniau a pharatoi. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cydnabod na roddwyd gwybod i lawer o'r menywod hyn, hyd nes iddynt wneud cais am eu pensiwn, yn 60 oed. Felly, nid yw'n ymwneud â gwrthwynebu cydraddoli oedran pensiwn, ond mae'n ymwneud â gwrthwynebu'r ffordd y cafodd y menywod eu trin.

Nawr, mae'r ffeithiau'n hysbys iawn, Lywydd. Pasiwyd deddfwriaeth i gydraddoli oedran pensiwn yn raddol yn 1995, ac nid oedd dim yn eithriadol ynglŷn â hynny—heblaw'r ffaith na roddwyd gwybod yn briodol i'r menywod yr effeithiai arnynt. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2011, penderfynodd clymblaid y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol gyflymu'r amserlen. Nawr, ar yr achlysur hwn, dywedwyd wrth rai o'r menywod ac nid wrth y lleill, ac ni roddwyd ond blwyddyn o rybudd i rai a gafodd wybod y byddai gohiriad o chwe blynedd cyn y gallent gyffwrdd â'u pensiwn. Cafodd menywod eu gadael heb yr incwm sylfaenol yr oeddent yn ei ddisgwyl. Nid arian i alluogi ein cyd-ddinasyddion i fyw yn foethus yw hwn. Mae'n ymwneud â chael safon resymol o fywyd. Bu'n rhaid i rai o'r menywod hyn barhau i weithio mewn swyddi nad ydynt yn ddigon cryf yn gorfforol mwyach i'w cyflawni'n ddiogel—er enghraifft, gofalu—ac rwyf wedi gweld llythyrau meddyg i fenywod yn eu cynghori i beidio â pharhau i wneud y math hwnnw o waith pan nad oes ganddynt unrhyw ddewis. Mae rhai wedi gorfod dibynnu'n llwyr ar bartneriaid am gymorth, ac mewn llawer o achosion mae hynny'n iawn, ond mewn rhai achosion mae'n gwneud menywod yn agored i gam-drin ariannol a gorfod aros mewn perthynas gamdriniol am nad oes ganddynt arian i fynd i rywle arall. Mae llawer ohonynt yn byw ar eu cynilion cyfyngedig, ac mae llawer o'r cynilion hynny bellach wedi mynd. Maent oll yn dlotach na'r hyn y disgwylient fod ar ôl oes o waith, am dâl neu'n ddi-dâl. Mae rhai wedi'u gwthio i dlodi difrifol.

Gadewch imi ddweud wrthych am Rose. Nid dyna ei henw iawn. Mae hi'n hapus imi rannu ei stori, ond mae hi'n llawer rhy falch i ganiatáu i'w chymdogion, heb sôn am ei phlant, wybod pa mor anodd yw hi arni bellach. Mae Rose yn byw mewn cymuned wledig yng Nghymru. Roedd hi'n gweithio mewn swyddfa ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au am ychydig flynyddoedd, ond ni chafodd unrhyw gyfle i gyfrannu—yn wir, fel dynes yn y dyddiau hynny, nid oedd yn cael cyfrannu—at y cynllun pensiwn galwedigaethol a oedd ar gael i'w chydweithwyr gwrywaidd. Fe briododd a bu'n gweithio adref am flynyddoedd lawer, yn gofalu am ei phlant a chyfrannu at ei chymuned mewn sawl swydd wirfoddol. Pan ddychwelodd at waith cyflogedig yn ei 40au hwyr, gwnaeth bwynt o 'ychwanegu at ei stamp', yn yr iaith y byddem yn ei defnyddio, fel y byddai ganddi hawl i'w phensiwn. Ac aeth heb bethau er mwyn gallu fforddio gwneud hynny.

Wel, ar ôl ychydig flynyddoedd yn ôl mewn swydd gyflogedig, unwaith eto gwelodd Rose fod ei hangen adref, yn gyntaf oll i ofalu am ei mam, ac yna am ei gŵr hŷn, a fu farw. Yn ogystal â bod yn straen emosiynol enfawr, effeithiodd hyn ar iechyd Rose. Mae'n dweud wrthyf, 'nid wyf mor gryf ag yr arferwn fod.' Roedd Rose yn 59 pan gafodd ei gwneud yn wraig weddw. Nid oedd pensiwn preifat ei gŵr yn darparu ar gyfer dibynyddion. Daeth Rose o hyd i rywfaint o waith rhan-amser a dipio i mewn i'w phot cynilion bach. Roedd hi'n meddwl y byddai'n iawn—byddai'n tynnu ei phensiwn ymhen ychydig fisoedd pan fyddai'n 60 oed. Ni ddywedodd neb wrthi y byddai'n rhaid iddi aros. Gwnaeth ei chais a dyna pryd y cafodd wybod nad oedd yn mynd i gael ei phensiwn am rai blynyddoedd.

Felly, mae Rose yn dal i weithio. Mae ei chynilion wedi mynd. Mae'n cymryd cynifer o oriau yn ei swydd ran-amser ag y gall ymdopi â hwy, ond nid yw'n ddigon. Mae yna ddyddiau pan fydd te a thost yn brif bryd o fwyd y dydd er mwyn iddi allu rhoi petrol yn ei char i'w galluogi i gyrraedd ei gwaith rhan-amser. Mae ofn mawr arni y bydd y car yn torri lawr neu fod angen gwneud gwaith atgyweirio ar y tŷ. Mae'n cynilo'n galed ar gyfer anrhegion Nadolig ac anrhegion pen-blwydd ar gyfer ei hwyrion, ac mae'n peri gofid go iawn iddi na all roi mwy iddynt. Nid fel hyn roedd hi'n disgwyl byw ac nid dyma mae hi'n ei haeddu. Lywydd, mae Rose a miloedd a'r filoedd o fenywod eraill tebyg iddi'n troi atom ni heddiw yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn i sefyll gyda hi a siarad ar ei rhan. Wrth gwrs, nid yw'r materion hyn wedi'u datganoli, ond nid yw hynny'n ein rhwystro rhag mynegi undod a chefnogaeth.

Wrth ddod â fy sylwadau agoriadol i ben, hoffwn ofyn i'r Aelodau wrthod y gwelliannau Ceidwadol. Mae gwelliant 1 yn dileu'r holl gynnwys ystyrlon o'r cynnig hwn. Mae gwelliant 2 yn ffeithiol anghywir a hoffwn wahodd y Ceidwadwyr, yn y cyd-destun hwnnw, i ystyried ei dynnu'n ôl. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyfaddef na chysylltwyd â nifer o'r menywod o gwbl, a chysylltwyd â llawer o'r lleill yn llawer rhy hwyr iddynt allu gwneud unrhyw addasiadau ystyrlon i'w trefniadau. Yr haf hwn bydd yr Uchel Lys yn penderfynu i ba raddau y gweithredodd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n anghyfreithlon.

A hoffwn wahodd y Ceidwadwyr heddiw, Lywydd, i fod yn ddigon dewr i sefyll dros eu hegwyddorion neu eu diffyg egwyddorion, ac os na allant gefnogi'r menywod WASPI mewn perthynas â'r cam a wnaed iddynt, os na allant sefyll yn erbyn yr anghyfiawnder hwn, yna tynnwch eich gwelliannau yn ôl a phleidleisiwch yn erbyn y cynnig, oherwydd gwyddom mai dyna rydych yn ei olygu. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau gan yr holl Aelodau i'r ddadl hon, ac rwy'n gobeithio, ar ddiwedd hynny, y byddwn yn teimlo, fel Cynulliad Cenedlaethol, y gallwn sefyll yn unedig gyda Rose a'r holl fenywod eraill.