– Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
Sy'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl Plaid Cymru ar yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth. Dwi'n galw ar Helen Mary Jones i'w wneud y cynnig.
Cynnig NDM7000 Rhun ap Iorwerth
Cefnogwyd gan David J. Rowlands
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ymgyrch barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth;
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg i bob menyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) gyda diffyg hysbysiad priodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch WASPI.
4. Yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a aned yn y 1950au.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn ar ran Plaid Cymru, ac ar ran y 138,600 o fenywod yng Nghymru a anwyd yn y 1950au ac a amddifadwyd o'u pensiynau heb hysbysiad dyladwy a phriodol.
Nawr, rwyf am fod yn glir yma nad ydym yn gwrthwynebu cydraddoli oedran pensiwn. Mae hynny'n gwbl gyfiawn, mae'n gwbl briodol. Nid cydraddoli yw'r broblem, ond diffyg hysbysiad ynglŷn â'r ffordd drychinebus y cyflawnwyd hyn. Amddifadwyd y menywod o'r hawl i newid eu cynlluniau a pharatoi. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cydnabod na roddwyd gwybod i lawer o'r menywod hyn, hyd nes iddynt wneud cais am eu pensiwn, yn 60 oed. Felly, nid yw'n ymwneud â gwrthwynebu cydraddoli oedran pensiwn, ond mae'n ymwneud â gwrthwynebu'r ffordd y cafodd y menywod eu trin.
Nawr, mae'r ffeithiau'n hysbys iawn, Lywydd. Pasiwyd deddfwriaeth i gydraddoli oedran pensiwn yn raddol yn 1995, ac nid oedd dim yn eithriadol ynglŷn â hynny—heblaw'r ffaith na roddwyd gwybod yn briodol i'r menywod yr effeithiai arnynt. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2011, penderfynodd clymblaid y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol gyflymu'r amserlen. Nawr, ar yr achlysur hwn, dywedwyd wrth rai o'r menywod ac nid wrth y lleill, ac ni roddwyd ond blwyddyn o rybudd i rai a gafodd wybod y byddai gohiriad o chwe blynedd cyn y gallent gyffwrdd â'u pensiwn. Cafodd menywod eu gadael heb yr incwm sylfaenol yr oeddent yn ei ddisgwyl. Nid arian i alluogi ein cyd-ddinasyddion i fyw yn foethus yw hwn. Mae'n ymwneud â chael safon resymol o fywyd. Bu'n rhaid i rai o'r menywod hyn barhau i weithio mewn swyddi nad ydynt yn ddigon cryf yn gorfforol mwyach i'w cyflawni'n ddiogel—er enghraifft, gofalu—ac rwyf wedi gweld llythyrau meddyg i fenywod yn eu cynghori i beidio â pharhau i wneud y math hwnnw o waith pan nad oes ganddynt unrhyw ddewis. Mae rhai wedi gorfod dibynnu'n llwyr ar bartneriaid am gymorth, ac mewn llawer o achosion mae hynny'n iawn, ond mewn rhai achosion mae'n gwneud menywod yn agored i gam-drin ariannol a gorfod aros mewn perthynas gamdriniol am nad oes ganddynt arian i fynd i rywle arall. Mae llawer ohonynt yn byw ar eu cynilion cyfyngedig, ac mae llawer o'r cynilion hynny bellach wedi mynd. Maent oll yn dlotach na'r hyn y disgwylient fod ar ôl oes o waith, am dâl neu'n ddi-dâl. Mae rhai wedi'u gwthio i dlodi difrifol.
Gadewch imi ddweud wrthych am Rose. Nid dyna ei henw iawn. Mae hi'n hapus imi rannu ei stori, ond mae hi'n llawer rhy falch i ganiatáu i'w chymdogion, heb sôn am ei phlant, wybod pa mor anodd yw hi arni bellach. Mae Rose yn byw mewn cymuned wledig yng Nghymru. Roedd hi'n gweithio mewn swyddfa ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au am ychydig flynyddoedd, ond ni chafodd unrhyw gyfle i gyfrannu—yn wir, fel dynes yn y dyddiau hynny, nid oedd yn cael cyfrannu—at y cynllun pensiwn galwedigaethol a oedd ar gael i'w chydweithwyr gwrywaidd. Fe briododd a bu'n gweithio adref am flynyddoedd lawer, yn gofalu am ei phlant a chyfrannu at ei chymuned mewn sawl swydd wirfoddol. Pan ddychwelodd at waith cyflogedig yn ei 40au hwyr, gwnaeth bwynt o 'ychwanegu at ei stamp', yn yr iaith y byddem yn ei defnyddio, fel y byddai ganddi hawl i'w phensiwn. Ac aeth heb bethau er mwyn gallu fforddio gwneud hynny.
Wel, ar ôl ychydig flynyddoedd yn ôl mewn swydd gyflogedig, unwaith eto gwelodd Rose fod ei hangen adref, yn gyntaf oll i ofalu am ei mam, ac yna am ei gŵr hŷn, a fu farw. Yn ogystal â bod yn straen emosiynol enfawr, effeithiodd hyn ar iechyd Rose. Mae'n dweud wrthyf, 'nid wyf mor gryf ag yr arferwn fod.' Roedd Rose yn 59 pan gafodd ei gwneud yn wraig weddw. Nid oedd pensiwn preifat ei gŵr yn darparu ar gyfer dibynyddion. Daeth Rose o hyd i rywfaint o waith rhan-amser a dipio i mewn i'w phot cynilion bach. Roedd hi'n meddwl y byddai'n iawn—byddai'n tynnu ei phensiwn ymhen ychydig fisoedd pan fyddai'n 60 oed. Ni ddywedodd neb wrthi y byddai'n rhaid iddi aros. Gwnaeth ei chais a dyna pryd y cafodd wybod nad oedd yn mynd i gael ei phensiwn am rai blynyddoedd.
Felly, mae Rose yn dal i weithio. Mae ei chynilion wedi mynd. Mae'n cymryd cynifer o oriau yn ei swydd ran-amser ag y gall ymdopi â hwy, ond nid yw'n ddigon. Mae yna ddyddiau pan fydd te a thost yn brif bryd o fwyd y dydd er mwyn iddi allu rhoi petrol yn ei char i'w galluogi i gyrraedd ei gwaith rhan-amser. Mae ofn mawr arni y bydd y car yn torri lawr neu fod angen gwneud gwaith atgyweirio ar y tŷ. Mae'n cynilo'n galed ar gyfer anrhegion Nadolig ac anrhegion pen-blwydd ar gyfer ei hwyrion, ac mae'n peri gofid go iawn iddi na all roi mwy iddynt. Nid fel hyn roedd hi'n disgwyl byw ac nid dyma mae hi'n ei haeddu. Lywydd, mae Rose a miloedd a'r filoedd o fenywod eraill tebyg iddi'n troi atom ni heddiw yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn i sefyll gyda hi a siarad ar ei rhan. Wrth gwrs, nid yw'r materion hyn wedi'u datganoli, ond nid yw hynny'n ein rhwystro rhag mynegi undod a chefnogaeth.
Wrth ddod â fy sylwadau agoriadol i ben, hoffwn ofyn i'r Aelodau wrthod y gwelliannau Ceidwadol. Mae gwelliant 1 yn dileu'r holl gynnwys ystyrlon o'r cynnig hwn. Mae gwelliant 2 yn ffeithiol anghywir a hoffwn wahodd y Ceidwadwyr, yn y cyd-destun hwnnw, i ystyried ei dynnu'n ôl. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyfaddef na chysylltwyd â nifer o'r menywod o gwbl, a chysylltwyd â llawer o'r lleill yn llawer rhy hwyr iddynt allu gwneud unrhyw addasiadau ystyrlon i'w trefniadau. Yr haf hwn bydd yr Uchel Lys yn penderfynu i ba raddau y gweithredodd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n anghyfreithlon.
A hoffwn wahodd y Ceidwadwyr heddiw, Lywydd, i fod yn ddigon dewr i sefyll dros eu hegwyddorion neu eu diffyg egwyddorion, ac os na allant gefnogi'r menywod WASPI mewn perthynas â'r cam a wnaed iddynt, os na allant sefyll yn erbyn yr anghyfiawnder hwn, yna tynnwch eich gwelliannau yn ôl a phleidleisiwch yn erbyn y cynnig, oherwydd gwyddom mai dyna rydych yn ei olygu. Edrychaf ymlaen at y cyfraniadau gan yr holl Aelodau i'r ddadl hon, ac rwy'n gobeithio, ar ddiwedd hynny, y byddwn yn teimlo, fel Cynulliad Cenedlaethol, y gallwn sefyll yn unedig gyda Rose a'r holl fenywod eraill.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig ac rydw i'n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark Isherwood.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwyntiau 2 a 4 ac ailrifo'n unol â hynny.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Llywodraethau olynol y DU wedi cyfathrebu gyda menywod yr effeithiwyd arnynt ers y newidiadau i oedran pensiwn menywod ers Deddf Pensiynau 1995 a Deddf Pensiynau 2007 a bod ymgynghoriad cyhoeddus a dadleuon helaeth wedi cael eu cynnal yn y Senedd o ran cynnydd ychwanegol i oedran pensiwn y wladwriaeth yn 2011.
Diolch, Lywydd. Daeth y newid i oedran pensiwn y wladwriaeth, a gyhoeddwyd yn 1993, yn sgil deddfwriaeth cydraddoldeb ac amryw o achosion yn y llysoedd Ewropeaidd. Roedd newidiadau mewn disgwyliad oes yn cael eu hystyried hefyd. Deddf Pensiynau 1995 a arweiniodd yn gyntaf at gydraddoli, pan ysgogodd cyfarwyddeb yr UE Lywodraeth y DU i gydraddoli oedran ymddeol ar gyfer dynion a menywod—a oedd yn 65 oed a 60 oed ar y pryd. Dewisodd Llywodraeth y DU ei lefelu ar 65 oed, gyda chynnydd fesul cam yn oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod rhwng 2010 a 2020.
Yn dilyn Deddf 1995, parhaodd y cynnydd gwirioneddol ac amcanestynedig yn y boblogaeth bensiynwyr yn gyflymach nag a ragwelwyd, oherwydd hirhoedledd cynyddol. Felly penderfynodd y Llywodraeth Lafur ar y pryd nad oedd oedran pensiwn y wladwriaeth sefydlog yn 65 oed yn fforddiadwy nac yn gynaliadwy, a chyflwynodd Ddeddf Pensiynau 2007, gan godi oedran pensiwn y wladwriaeth i 68 fesul cam rhwng 2024 a 2046.
Nododd y Llywodraeth glymblaid newidiadau pellach yn Neddf Pensiynau 2011 a gyflymodd y broses o gydraddoli oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a chyflwyno'r cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth wedi'i gydraddoli i 66 oed erbyn 2020. Fodd bynnag, roedd hyn yn cynnwys consesiwn fel na fyddai unrhyw ddynes yn gweld cynnydd o fwy na 18 mis yn yr oedran y dôi'n gymwys i gael pensiwn y wladwriaeth, o'i gymharu ag amserlen Deddf 1995, ar gost o £1.1 biliwn i'r Trysorlys.
Deddf Pensiynau 2014—
A ydych yn derbyn ymyriad, Mark Isherwood?
Nid oeddwn yn ymwybodol fod yna—. Iawn, yn sicr.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Fodd bynnag, a ydych yn derbyn mai craidd y mater hwn yw na chafodd llawer iawn o fenywod eu hysbysu am y newidiadau, ac mai dyna lle mae'r anghyfiawnder? Ac os profir bod hynny'n gywir, dylai Llywodraeth y DU ddigolledu'r menywod hynny. A ydych yn cytuno â hynny? [Cymeradwyaeth.]
Rwy'n dod at hynny, ond rwy'n ymwybodol bod hwn yn fater sy'n destun ymgyfreitha ar hyn o bryd.
A gaf fi alw ar aelodau yn yr oriel gyhoeddus, y gwn fod ganddynt ddiddordeb mawr yn yr hyn rydym yn ei drafod yma—os gallwch ganiatáu i'r Aelodau yn y Siambr fwrw ymlaen â'u cyfraniadau, er mwyn iddynt gael eu clywed. Maent yn gynrychiolwyr etholedig ar ran holl bobl Cymru ac mae angen iddynt gael eu clywed. Os ydych yn clapio, clapiwch ar y diwedd un, ac nid yn ystod y ddadl. Ond nid wyf yn eich annog i glapio, cyn i neb fy meirniadu am ddweud hynny. [Chwerthin.] Os gallwch ganiatáu i bob Aelod gael eu clywed yn ystod eu cyfraniadau, byddai hynny'n dderbyniol iawn. Mark Isherwood.
Mae hynny'n garedig iawn, diolch. Oherwydd bod hwn yn fater sy'n destun ymgyfreitha ar hyn o bryd, rwy'n ymwybodol iawn fy mod yn ceisio osgoi mynegi barn ac yn canolbwyntio yn hytrach ar yr hanes go iawn wrth wraidd hyn.
Felly, cododd Deddf Pensiynau 2014 oedran pensiwn y wladwriaeth i 67 rhwng 2026 a 2028, a chyflwynodd adolygiadau rheolaidd o oedran pensiwn y wladwriaeth, a'r cyntaf ohonynt oedd adolygiad Cridland 2017, i sicrhau bod y system yn parhau i fod yn deg, yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i drethdalwyr ar sail barhaus.
Ni allwn anwybyddu mater disgwyliad oes. Yn ôl yn 1926, pan osodwyd oedran pensiwn y wladwriaeth am y tro cyntaf, roedd naw o bobl o oedran gweithio am bob un pensiynwr. Mae'r gymhareb bellach yn 3:1 ac mae'n mynd i ddisgyn yn agosach i 2:1 erbyn ail hanner yr unfed ganrif ar hugain. Mae disgwyliad oes yn 65 oed wedi codi mwy na 10 mlynedd ers y 1920au, pan osodwyd oedran pensiwn y wladwriaeth am y tro cyntaf. Ychwanegwyd y pum mlynedd gyntaf o'r blynyddoedd hynny rhwng 1920 a 1990. Ychwanegwyd y pum mlynedd nesaf mewn 20 mlynedd yn unig, rhwng 1990 a 2010. Disgwylir i nifer y bobl sy'n derbyn pensiwn y wladwriaeth dyfu traean dros y 25 mlynedd nesaf ac erbyn 2034, bydd mwy na dwywaith cymaint o bobl dros 100 ag a geir yn awr. Rhagwelir bellach y bydd disgwyliad oes yn 65 oed yn y DU yn codi i 26.7 o flynyddoedd ar gyfer dynion a 28.7 o flynyddoedd i fenywod rhwng 2014 a 2064. Wrth siarad yn San Steffan fis Tachwedd diwethaf, dywedodd yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Guy Opperman, fod y Llywodraeth wedi mynd i drafferth sylweddol i gyfleu'r newidiadau er mwyn sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn llwyr ymwybodol o'u hawliau... gan gynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu, gwybodaeth ar-lein, a llythyrau unigol a bostiwyd at oddeutu 1.2 miliwn o fenywod yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan newidiadau Deddf 1995. Anfonwyd 5 miliwn o lythyrau pellach yn ddiweddarach at y rhai yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau Deddf 2011 rhwng mis Ionawr 2012 a mis Tachwedd 2013.
Daeth i'r casgliad, fod yr Adran Gwaith a Phensiynau, rhwng mis Ebrill 2000 a diwedd mis Medi 2018, wedi darparu mwy na 24 miliwn o ddatganiadau pensiwn gwladol personol, ac rydym yn parhau i annog unigolion i wneud cais am ddatganiad pensiwn gwladol personol.
Rwy'n cynnig gwelliant 2. Fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd gwaith a phensiynau y byddai adolygu newidiadau 2011 yn costio dros £30 biliwn erbyn 2026, y byddai dychwelyd at 60 oed i fenywod yn costio £77 biliwn erbyn 2021, ac y byddai creu anghydraddoldeb newydd rhwng dynion a menywod yn amheus fel mater o gyfraith. Yn sgil hynny, rhoddodd yr Uchel Lys ganiatâd ar gyfer adolygiad barnwrol o effaith y materion hyn ar fenywod a anwyd yn y 1950au. Trefnwyd i'r achos gael ei glywed ar 5 a 6 Mehefin. Mae'n amlwg yn amhriodol i'r Adran Gwaith a Phensiynau ymchwilio i fater sy'n cael ei ystyried gan yr Uchel Lys ac felly maent wedi atal gweithredu ar gwynion cysylltiedig hyd nes y bydd penderfyniad terfynol wedi'i wneud gan y llysoedd. Mae'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd hefyd wedi atal ystyriaeth o achosion cysylltiedig ar yr un sail. Fel y dywedodd Guy Opperman ym mis Ionawr,
Rwy'n sefyll yma'n amddiffyn gweithredoedd nid yn unig y Llywodraeth hon ond y Llywodraeth glymblaid, Llywodraeth Lafur 1997-2010 a'r Llywodraeth cyn honno, y mae eu camau gweithredu i gyd i bob pwrpas yn faterion at sylw'r adolygiad barnwrol.
Fel y dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd, nid yw'n gwneud sylwadau ar ymgyfreitha byw—protocol a fabwysiadwyd gan y Cynulliad hwn o'r blaen, ond mae'r cynnig hwn i'w weld yn mynd yn groes iddo. Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn unol â hynny.
Mae fy nghyd-Aelodau ac eraill eisoes wedi sefydlu beth yw'r broblem yn y fan hon. I grynhoi, newidiodd Llywodraeth y DU y rheolau er mwyn cydraddoli oedran pensiwn i ddynion a menywod heb unrhyw ystyriaeth fod dynion a menywod a anwyd yn y 1950au yn wynebu amgylchedd gwahanol iawn, gyda menywod yn wynebu cyfyngiadau cyfreithiol sylweddol ar eu gallu i sicrhau cyflog teg a mynediad at gronfeydd pensiwn. Wedyn methwyd cyfathrebu'r newidiadau hyn i'r rhai a oedd yn debygol o fod ar eu colled—ymdrech gyfathrebu a oedd mor wael fel bod rhai'n awgrymu mai'r rhai a oedd yn gyfrifol am bensiynau menywod a aeth i redeg yr ymgyrch Brexit dair blynedd yn ôl. [Chwerthin.] Efallai fy mod yn tynnu coes, ond pan nodwyd yr anghyfiawnder a'r caledi y mae hyn yn ei achosi i'r menywod hyn, cawsant eu hanwybyddu gan Lywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, yn waeth na'u hanwybyddu: mae wedi creu caledi ychwanegol i barau oedran cymysg drwy amddifadu llawer ohonynt o fudd-dal credyd pensiwn a'u newid i'r credyd cynhwysol gwerth is.
Ac onid yw'n amseru diddorol, ein bod wedi clywed ddoe gan bwyllgor Tŷ'r Cyffredin a welodd dystiolaeth sy'n awgrymu, o ganlyniad i 86 y cant o'r toriadau cyni sydd wedi taro menywod, fod rhai o'r menywod bellach yn troi at waith rhyw? Ni allwn ragdybio mai mater ar gyfer menywod iau yn unig yw hwn. Faint o fenywod WASPI, tybed, a orfodwyd i ddilyn y trywydd hwn?
Mae hyn i gyd wedi bod yn gyfres o benderfyniadau gwael a bychanu pryderon pobl gan Lywodraeth sydd, dro ar ôl tro, yn dangos nad yw'n poeni fawr ddim am les ariannol menywod. Mae'n gwneud nifer o newidiadau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod tlotach, a dyma un ohonynt. Ac mae pobl yn meddwl tybed pam y mae angen inni sicrhau bod peirianwaith Llywodraeth, yn wleidyddol ac yn weinyddol, yn adlewyrchu'r gymdeithas y mae'n ei gwasanaethu yn well. Yn syml, rhagor o fenywod mewn swyddi uwch lle gwneir penderfyniadau yn Whitehall a San Steffan, ac wrth gwrs, mae hyn yn annhebygol o ddigwydd, ond pe bai wedi digwydd, byddai'r mater wedi cael sylw'n llawer cynt ac ni fyddai wedi cael ei ddiystyru fel mater ymylol. Felly, mae ein cynnig yma yn syml: gadewch inni gefnogi'r ymgyrch anhygoel hon a chywiro anghyfiawnder. [Cymeradwyaeth.]
A gaf fi ddechrau drwy ddatgan buddiant? Cafodd aelodau o fy nheulu eu geni yn y 1950au. Rwy'n byw gydag un mewn gwirionedd, a rhoddodd ganiatâd i mi ddweud hynny, felly rwy'n iawn. Roeddwn yn mynd i ddechrau mewn ffordd wahanol, ond rwyf newydd dreulio chwe munud yn gwrando ar lefarydd y Ceidwadwyr ac ni welais unrhyw empathi tuag at y menywod hyn unwaith yn ystod y chwe munud. Ni chlywais unrhyw ymddiheuriad i'r menywod hyn unwaith yn ystod y chwe munud. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod y goblygiadau i'r menywod hyn, ac mae hynny'n warthus. Mae'n hen bryd iddynt eistedd, a sefyll, efallai'r ddau gyda'i gilydd, i wrando ar leisiau'r menywod hyn mewn gwirionedd—a chlywyd hynny gan Helen Mary Jones eisoes y prynhawn yma—i nodi'r gwahaniaethau a'r heriau a wynebir gan y menywod hyn. Nid un ddynes yn unig yw Rose; mae yna Rose ym mhob un o'n cymunedau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Buaswn yn hapus i wneud hynny.
Mae gennyf aelodau teuluol yr effeithiwyd arnynt gan hyn, fel sydd gan bobl eraill yma rwy'n siŵr. A gallaf eich sicrhau bod gennyf bob cydymdeimlad â rhai o'r unigolion yr effeithiwyd arnynt. Ond a wnewch chi dderbyn bod yna Lywodraeth Lafur a allai fod wedi newid y trefniadau hyn ac ni wnaeth unrhyw beth o gwbl i'w newid? A ydych yn derbyn bod hynny'n wir?
Dyma ni: mae'r Torïaid yn ceisio beio rhywun arall eto, er mai'r Torïaid wnaeth y cyfan. Mae'n hen bryd iddynt ysgwyddo cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, ac nid ydynt yn gwneud hynny. Gadewch inni edrych ar y realiti. Fel y dywedais, mae yna Rose ym mhob cymuned. Beth am fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Mae'n hysbys y gallai 33 y cant o ddynion fod yn ddibynnol ar bensiwn y wladwriaeth yn unig, ond bydd 55 y cant o fenywod yn dibynnu ar bensiwn y wladwriaeth yn unig—gan effeithio'n anghymesur ar fenywod unwaith eto.
Mae gennym sefyllfa gyda'r mater rhwystr oedran. Bydd dynes a anwyd ym mis Mai 1953 wedi cael pensiwn ym mis Tachwedd 2016, colled o tua £2,000. Ni fydd dynes a anwyd ym mis Mai 1954 yn cael pensiwn tan fis Ionawr 2020, colled o tua £20,000. Gwahaniaeth enfawr ar draul 12 mis. Nid yw hynny'n deg. Hefyd, beth am fynd ymlaen at hyn, gan mai'r drydedd broblem sydd gennym yw'r hysbysiad. Bydd y menywod i fyny yno'n dweud wrthych: yr hysbysiad. Bydd fy ngwraig yn dweud wrthych na chafodd hi hysbysiad. Mae hon yn broblem fawr. A phan gewch hysbysiad—tair blynedd—beth allwch chi ei wneud mewn tair blynedd i baratoi ar gyfer y newidiadau i'ch pensiwn? Dim byd. Mae hynny'n gwbl amhriodol ac yn gwbl aneffeithiol. Rydych yn rhoi'r menywod hyn mewn sefyllfa lle na allant wneud trefniadau amgen, ni allant fyw ar yr incwm y byddant yn ei gael, ni allant baratoi, ac mae hynny'n annheg.
Rwyf am fynd yn ôl at rai o'r pwyntiau yma: oedrannau. Rydym yn sôn am agwedd negyddol, ond gadewch inni fod yn onest—pan drydarais hyn ynghylch menywod y 1950au, dywedwyd y drefn wrthyf. Cefais fy ngeni ym 1960. Gwn y bydd yr Aelod a oedd ar y radio y bore yma yn yr un categori. Cefais fy ngeni ym 1960. Beth amdanaf i? Effeithir arni hithau yn ogystal, gan nad ydym ond yn meddwl yn y 1950au am eu bod yn dod at oedran pensiwn yn awr, ond mae hyn yn mynd i effeithio ar fenywod am lawer iawn o flynyddoedd. A pham y dylem fod yn dadlau yn ei gylch? Mae'n ymwneud â mwy na chefnogi menywod, oherwydd bydd yn rhaid i'r Llywodraeth hon ysgwyddo'r baich o ran y menywod hynny. Bydd yna alw o ran anghenion cymdeithasol. Mae'r menywod hynny'n ofalwyr yn aml iawn yn awr; boed yn gofalu am berthnasau hŷn neu am wyrion, maent yn dod yn ofalwyr. Os oes yn rhaid iddynt weithio, pwy sy'n mynd i fod yn ofalwyr? Pwy sy'n mynd i dalu'r Bil am y gofalwyr? Y bobl yn y rhes flaen yma. Mae'n effeithio ar Lywodraeth Cymru. Mae'n effeithio ar bopeth a wnawn, ac yn fwy pwysig, mae'n effeithio ar y menywod. Mae'n broblem go iawn.
Mae rhai'n gallu cael pensiynau galwedigaethol, ond credaf fod Helen Mary wedi tynnu sylw at hyn: daethant o gyfnod lle nad oedd ganddynt hawl i bensiynau galwedigaethol; ni chawsant eu cynnwys yn hynny. Ni ddechreuodd rhai ohonynt weithio tan yn ddiweddarach mewn bywyd, oherwydd y traddodiad yn y dyddiau hynny lle roeddent yn dechrau edrych ar ôl y teulu ac yna'n dod i weithio yn nes ymlaen, weithiau'n rhan-amser. Mae hynny'n golygu bod unrhyw bensiwn galwedigaethol a oedd ganddynt yn fach iawn beth bynnag. Ac roedd pawb—pawb—yn dibynnu ar y cysyniad o, 'Wel, rwy'n mynd i gael pensiwn yn 60 oed, a dyna fy nghyfrifiad i, dyna rwy'n gweithio tuag ato—pensiwn yn 60 oed, felly gallaf ymddeol a helpu gydag anghenion gofalu fy nheulu.' Mae hynny wedi mynd i'r gwynt, gan fod yn rhaid iddynt weithio bellach am na allant gael yr incwm pan fyddent wedi ymddeol.
Ac mae rhai o'r rheini'n gweithio mewn swyddi sy'n heriol yn gorfforol, a bydd yn eu gwneud yn sâl o ganlyniad i hynny. Mae'n mynd i olygu y byddant yn creu galwadau ar y gwasanaethau cymdeithasol, anghenion cymdeithasol, oherwydd y cyflwr y byddant yn ei gael wedyn am eu bod yn gweithio'r blynyddoedd ychwanegol hynny. Beth rydym ni fel cymdeithas yn ei wneud, yn rhoi hynny ar ysgwyddau menywod? Mae'n hen bryd inni ysgwyddo ein cyfrifoldebau a thrin y menywod hyn yn deg, a'r cyfnod trosiannol, a daflwyd allan drwy'r ffenestr gan y Llywodraeth Dorïaidd. Mae'r menywod hyn wedi'u rhoi ar y domen. Mae'n hen bryd inni sefyll a chynrychioli'r menywod hyn, a dweud wrth y Llywodraeth Dorïaidd, 'Mae gennych ddyletswydd tuag at y menywod hyn; cyflawnwch y ddyletswydd honno.' [Cymeradwyaeth.]
Rwyf am ddatgan buddiant yn hyn o beth, ac rwyf hefyd am roi gwybod i Darren Millar, sydd wedi cyflwyno'r gwelliant hwn, ei fod yn gyfan gwbl anghywir, oherwydd gwn na chefais i lythyr. Peidiwch â dweud wrthyf fy mod wedi cael llythyr a heb ei ddarllen: ni chefais lythyr, ac ni allwn ei ddarllen, ac mae hynny yr un fath i'r bobl i fyny yno. Cawsom y rhybuddion cychwynnol pan ddywedodd y Llywodraeth Lafur eu bod yn bwriadu newid pethau. Y llythyrau cyflymu, nid wyf yn gwybod i ble yr aethant, ond rhaid bod blwch post yn llawn ohonynt yn rhywle, a rhaid ei fod yn yr ether, oherwydd ni laniodd drwy dwll llythyrau pobl. Felly, mae angen i chi ddileu hyn a rhaid ichi wynebu ffeithiau, a rhaid ichi fod yn onest am y peth.
Felly, euthum allan yno—. Rwyf wedi siarad droeon ar y ddadl hon a gawsom heddiw, ac rwyf wedi cyfarfod â llawer iawn o bobl. Cyfarfûm â rhywun y tu allan heddiw a oedd yn dweud wrthyf ei bod yn gorfforol amhosibl iddi wneud ei gwaith yn yr oed y mae disgwyl iddi ei wneud. Ceir dealltwriaeth bron fod dynion yn gwneud gwaith sy'n drwm yn gorfforol yn aml iawn, ond nid yw'n trosi rywsut ac yn cael ei ddeall bod menywod yn gwneud gwaith sy'n drwm yn gorfforol. Mae glanhau, er enghraifft, yn waith sy'n drwm yn gorfforol. Mae nyrsio a gofalu yn waith sy'n drwm yn gorfforol. Byddai angen ichi roi cynnig arni. Awgrymaf eich bod yn rhoi cynnig arni ac yna'n meddwl am y ffaith y bydd disgwyl i chi ei wneud yn 60 oed.
Aiff hyn â ni'n ôl i oes Fictoria. Pan oedd yn rhaid inni gael pensiynau am y tro cyntaf, 70 oedd yr oed. Roedd yr oedran yn 70, ac roedd cafeatau o fewn hynny nad oeddech yn gwneud y peth hwn, neu nad oeddech yn gwneud y peth arall, oherwydd os nad oeddech o gymeriad da ni allech gael pensiwn. Rydym yn mynd tuag yn ôl ar gyflymder nas gwelwyd erioed o'r blaen.
Joyce, a wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Joyce, diolch i chi am ildio. Tybed sut y byddech yn ymateb i etholwr o Ben-y-bont ar Ogwr, Jocelyn o grŵp WASPI Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cymoedd, a ddywedodd wrthyf pan ofynnais iddi, 'Beth a ddywedech pe baech yn cael siarad yn y ddadl hon?' Ac fe ddywedodd, 'Huw, yr hyn a ddywedwn yw bod menywod y 1950au wedi dioddef digon yn sgil anghydraddoldeb ar hyd ein bywydau. Rydym bellach yn byw bywyd llawn o dlodi gorfodol, ansicrwydd, salwch, digartrefedd i rai, dyled a thristwch, a chawn ein trin fel dinasyddion eilradd. Nid yw cydraddoldeb yn gydraddoldeb i ni a gafodd ein geni yn y 1950au.' A fyddech yn cytuno â hynny?
Rwy'n cytuno'n llwyr. A'r mater arall yr hoffwn ei godi, unwaith eto, ac fe'i codais ddoe, yw bod unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i waith yn 65 oed a hŷn—ac rydym yn sôn am bobl yn gorfod gweithio y tu hwnt i 65 oed—yn ôl ffigurau Prime Cymru, maent yn fwy tebygol o farw cyn iddynt gael swydd nag y maent o gael swydd.
Ac mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd— oherwydd bydd yn effeithio ar y grŵp oedran hwn yn ogystal unwaith eto, a menywod unwaith eto—fod y credydau pensiwn o fis Mai eleni yn mynd i gael eu talu pan ddaw'r person ieuengaf i fod â hawl i'r credyd pensiwn hwnnw. Felly, nid nawr yn unig yr effeithir arnynt, ac mae'r effaith arnynt yn amlwg, ond drwy godi'r oedran hwn cyn y gallant dderbyn eu pensiwn, mae hefyd yn ei symud ymhellach i ffwrdd cyn y gallant gael credydau pensiwn mewn gwirionedd. A chafodd hynny ei wthio drwodd yn llechwraidd heb unrhyw rybudd ynghanol anhrefn llwyr Brexit. Wel, nid ydych wedi cuddio'r newyddion hwnnw, ni wnawn adael i chi guddio'r newyddion hwnnw, ac nid wyf am dderbyn y gwelliant hwn, oherwydd gwn yn bersonol ei fod yn gyfan gwbl anghywir. [Cymeradwyaeth.]
Rhaid imi ddatgan buddiant ar y dechrau, oherwydd rwy'n ddynes WASPI. Rwy'n ddynes yr effeithiwyd arni'n annheg gan y newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth ac un o'r Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth.
Yn 1995, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol Ddeddf Pensiynau newydd a fyddai wedi codi oedran ymddeol menywod i 65 oed—yr un oedran â dynion—erbyn 2025. Byddai hyn wedi rhoi 15 mlynedd i fenywod newid eu cynlluniau ymddeol; 15 mlynedd yn fwy o gynilion i helpu i lenwi'r diffyg yn eu cronfeydd pensiwn. Fodd bynnag, newidiodd Llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol y cynlluniau hyn. Cyflymodd Deddf Pensiynau 2011 y newidiadau, gan olygu y byddai oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn codi o 63 yn 2016 i 65 ym mis Tachwedd eleni. Roedd y Ddeddf hefyd yn datgan y dylai oedran pensiwn y wladwriaeth i ddynion a menywod godi i 66 erbyn 2020.
Fel miloedd o fy nghydwladwyr, ni chefais fy hysbysu'n bersonol ynglŷn â'r newidiadau. Ni chefais lythyr, ni chefais unrhyw esboniad, ac ni ddywedodd neb wrthyf y byddai fy nghynlluniau ar gyfer ymddeol yn gorfod newid.
Ond yn wahanol i lawer o fenywod eraill yn y sefyllfa hon, rwy'n ffodus, rwy'n dal i weithio, ac nid wyf yn wynebu tlodi. Yn anffodus, mae llawer o fenywod wedi'u heffeithio'n ddrwg gan y newidiadau hyn, ac rwyf wedi darllen am o leiaf un ddynes a laddodd ei hun o ganlyniad i'r twll du ariannol roedd hi'n ei wynebu.
Nid oes neb yn anghytuno na ddylai oedrannau ymddeol dynion a menywod fod yr un fath. Fodd bynnag, ni ddylai'r newidiadau hyn fod wedi'u cyflwyno heb ddegawdau o rybudd, blynyddoedd i allu cynllunio, ac amser i wneud trefniadau ariannol ychwanegol. Fel y mae pethau, cyflwynwyd y newidiadau i bensiynau menywod yn rhy gyflym ac yn rhy ar hap.
Ni chlywais am y newidiadau hyd nes i mi glywed sylw wrth basio gan un o fy ffrindiau sy'n dosbarthu parseli. Dywedodd wrthyf ei bod hi'n edrych ymlaen at ddosbarthu parseli'n rhan-amser am nad oedd ei choesau gystal â'r hyn yr arferent fod. Ac roedd hi'n mynd i fynd yn rhan-amser. Yn anffodus, oherwydd y newidiadau hyn, roedd hi bellach yn deall y byddai'n rhaid iddi ddosbarthu parseli am chwe blynedd arall yn amser llawn. Felly, dyna sut y cefais i wybod. Ac mae menywod yn gorfod dioddef oherwydd diffyg rhagofal a chynllunio gan Lywodraethau DU olynol.
Yn anffodus, ni allwn gywiro camgymeriadau'r gorffennol, ond gallwn liniaru effeithiau'r camgymeriadau hynny ar fenywod a anwyd yn y 1950au. Ddeuddeg mis yn ôl yn y Siambr hon, cyflwynais gynnig yn galw am bensiwn pontio sy'n darparu incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd; iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r menywod sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth; iawndal i bawb nad ydynt wedi dechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill budd ariannol a gollwyd; ac iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw ac wedi methu cael pensiwn pontio. Felly, galwaf ar Lywodraeth Cymru i fynnu cyfiawnder gan Lywodraeth y DU. Mae arnom ddyletswydd i filoedd o fenywod Cymru, menywod sydd wedi talu eu dyledion, i dalu pensiwn y wladwriaeth iddynt. [Cymeradwyaeth.]
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.
Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad ar ran Llywodraeth Lafur Cymru. Diolch i'r rhai a wnaeth y cynnig i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n tynnu sylw at y problemau a wynebir gan filoedd o fenywod yng Nghymru a gafodd eu geni yn y 1950au sydd wedi cael eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi'i godi heb hysbysiad effeithiol na digonol, fel y clywsom y prynhawn yma. Mewn gwirionedd, Helen Mary, credwn ei fod yn 195,000 o fenywod yng Nghymru. Gallaf ddweud heddiw y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn yn llawn.
Er nad yw materion pensiwn wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau cryf ynglŷn ag effaith Deddfau pensiynau 1995 a 2011 yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a welodd eu hoedran pensiwn y wladwriaeth yn cael ei godi'n sylweddol heb hysbysiad effeithiol na digonol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein pryderon ynghylch effaith y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth a byddwn yn parhau i wneud y sylwadau hynny, wedi'u cryfhau gan y ddadl heddiw, i Weinidogion y DU sy'n parhau'n gyfrifol am y materion hyn.
Mae'r cyfathrebiadau gwael ac anamserol i'r menywod yr effeithiwyd yn fwyaf anghymesur arnynt gan y newidiadau yn anfaddeuol, a thynnwyd sylw eglur at hynny yn y ddadl heddiw. Gwyddom bellach fod menywod yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau parhaus bellach yn dioddef caledi a thlodi o ganlyniad i'r newidiadau na wyddent ddim amdanynt, fel y mae'r Aelodau wedi dweud heddiw.
Diolch. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod eisiau ysgrifennu ar y mater hwn sydd heb ei ddatganoli, ond rydym newydd eistedd drwy ddadl cyn hon pan ddywedodd y Gweinidog materion rhyngwladol na allai ymyrryd oherwydd ei fod yn fater nad yw wedi'i ddatganoli. Sut y gallwch ymyrryd ar y mater hwn sydd heb ei ddatganoli ond na allech ymyrryd ynghylch y mater blaenorol nad yw wedi'i ddatganoli?
Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i ddod â rhywfaint o gonsensws ynghylch y sylwadau y gallwn eu gwneud ar ran y menywod yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt mor niweidiol gan y newidiadau hyn. Bydd llawer o fenywod yn y grŵp oedran hwn wedi gweithio'n rhan-amser, yn aml mewn mwy nag un swydd ran-amser, mewn swyddi ar gyflogau isel, gan gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am berthnasau sy'n blant neu'n bobl hŷn. Mae llawer wedi profi anghydraddoldeb, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, drwy gydol eu bywydau ac roeddent yn disgwyl cael rhai hawliau wrth gyrraedd oedran pensiwn. Maent wedi gweithio, maent wedi talu eu cyfraniadau yswiriant gwladol, maent wedi cyfrannu'n llawn i gymdeithas, ond bellach cânt eu rhoi dan anfantais yn uniongyrchol unwaith eto fel menywod.
Felly, rydym yn talu teyrnged heddiw, ac mae hwn yn llais cryf a phwysig o'r Siambr hon, i ymgyrchwyr yn ein hetholaethau. Hoffwn dalu teyrnged yn arbennig i Kay Ann Clarke a Theresa Hughes, y cyfarfûm â hwy ar risiau'r Senedd heddiw. Ceir sawl grŵp ymgyrchu sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder—Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, BackTo60, Shoulder to Shoulder, We Paid In You Pay Out—sy'n siarad ar draws y wlad am eu hymgyrchoedd. Credaf fod rhaid inni dalu teyrnged i gyflawniad y grwpiau hyn. Maent wedi sicrhau bod y neges yn cael ei chyfleu i'r cyfryngau prif ffrwd, ac i wleidyddion. Maent wedi ffurfio grwpiau ar draws y wlad yn ein hetholaethau. Maent hefyd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ffurfio grŵp seneddol hollbleidiol ar anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth i fenywod.
O ganlyniad i'w hymgyrch, cyflwynodd menywod ledled y wlad gwynion ynghylch camweinyddu yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'r Uchel Lys wedi rhoi caniatâd i gynnal adolygiad barnwrol, sydd i'w gynnal ar 5 a 6 Mehefin. Felly, byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau ac yn mynegi ein pryderon wrth Weinidogion y DU sy'n gyfrifol am y materion hyn. Fe ddywedaf, mewn ymateb i'ch cynnig—[Torri ar draws.]
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Mewn gwirionedd mae'n gyfle i gywiro'r hyn y tybiwn ei bod yn wybodaeth gamarweiniol ar safbwynt yr Adran Gwaith a Phensiynau a wnaed gan y Ceidwadwyr. Nid oes unrhyw reswm o gwbl, pan gynhelir adolygiad barnwrol, pam na all yr Adran Gwaith a Phensiynau roi sylwadau, oherwydd mae a wnelo â phroses a gweithdrefn. Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau'n cydnabod bod menywod wedi'u trin yn annheg, gallant ddweud hynny. Y cyfan sydd ganddynt i'w wneud yw tynnu eu gwrthwynebiad i'r adolygiad barnwrol yn ôl, a chychwyn negodiadau a thrafodaethau ynglŷn â sut y gallant unioni'r hyn a oedd yn gamgymeriad go ddifrifol—camgymeriad enbyd y maent wedi'i wneud. [Cymeradwyaeth.]
Yn hollol, a gallaf eich sicrhau a sicrhau'r Siambr hon os rhoddir camau cyfreithiol ar waith, y bydd Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried pa opsiynau sydd ar gael i ni yn Llywodraeth Cymru i ymateb. Felly, rwyf am orffen gyda datganiad pwerus iawn gan Philip Alston o'r Cenhedloedd Unedig, rapporteur arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol. Dywedodd y llynedd fod menywod a aned yn y 1950au wedi'u heffeithio'n arbennig gan newid sydyn a gyflwynwyd yn wael i oedran pensiwn y wladwriaeth, fel bod effaith y newidiadau yn cosbi'r rhai sy'n digwydd bod ar fin ymddeol yn ddifrifol.
Lywydd, byddwn yn cefnogi'r cynnig yn llawn ac yn gwrthwynebu gwelliannau 1 a 2. Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb tuag at y menywod hyn ac i unioni cam; gallant wneud hynny yn awr, fel y dywedodd Mick Antoniw, a sicrhau bod cydraddoldeb i fenywod yn cael ei gefnogi a'i hyrwyddo. Ac fel y dywedodd David Rees, y rali honno y credaf ei fod wedi'i mynychu ym Mhort Talbot ddydd Sadwrn diwethaf—roeddent yno i alw am ein cefnogaeth ac am i Lywodraeth y DU 'roi ein hurddas, ein hunan-barch a'n bywydau yn ôl i ni'. Dyna'r hyn y mae'r menywod sy'n ymgyrchu yn galw amdano. Rydym yn eu cefnogi yr holl ffordd—mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau Cynulliad Llafur yn eu cefnogi yma heddiw drwy gefnogi'r cynnig hwn gan Blaid Cymru. [Cymeradwyaeth.]
Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl. Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Ac a gaf fi ddiolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Ni allaf ymateb i'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud, ond rwyf wedi clywed tystiolaeth deimladwy iawn gan unigolion, gan bobl yn siarad naill ai ar ran eu ffrindiau neu eu cydweithwyr neu drostynt eu hunain.
Credaf fod y pwyntiau a wnaed yn benodol gan David Rees a Leanne yn ymwneud â gwahanol brofiadau menywod mewn bywyd, ynglŷn â chymaint mwy y maent yn dibynnu ar bensiwn y wladwriaeth. Yn llythrennol nid oedd yn bosibl i fy etholwr, Rose, gynilo arian mewn cynllun pensiwn cyflogwr, oherwydd ni châi wneud hynny oherwydd ei rhyw. Mae bywydau'r menywod hynny wedi bod yn wahanol iawn ac mae arnom rywbeth iddynt am y gwaith di-dâl y maent wedi'i wneud, am y gofalu y maent wedi'i wneud, am wirfoddoli yn eu cymunedau.
Rwy'n hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i'r cynnig hwn, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn edrych ar ffyrdd y gallant wneud sylwadau yn ymarferol ar ran y menywod yr effeithiwyd arnynt yn y modd hwn. Ac yn awr, Lywydd, down at anghysondeb gwybyddol Mark Isherwood. Hynny yw, mae pawb ohonom yn gwybod ei fod yn fod dynol mor neis, ond sut ar y ddaear y gall arddel y gwerthoedd y credaf ei fod o ddifrif yn eu harddel a siarad nonsens o'r fath wedyn? Eglurodd Mark Isherwood i ni—[Torri ar draws.]—Mae'n ddrwg gennyf, Mark, na, nid oes gennyf amser. Fe fuaswn yn gwneud fel arfer, ond nid oes amser gennyf—
Oes mae, Helen Mary.
O'r gorau. Os yw am fwy o raff i grogi ei hun, rwy'n hapus i'w rhoi iddo.
Na, na, na. Mark Isherwood.
Oherwydd bod y mater dan ystyriaeth farnwrol ac felly wedi'i wahardd rhag cael ei drafod yn gyhoeddus mewn mannau eraill, glynais at ffeithiau hanesyddol a dyfyniadau o'r cofnod; ni fynegais farn ac nid ydym yn gwrthwynebu adolygiad barnwrol. Ond oherwydd yr amgylchiadau, nid oeddwn yn teimlo ei bod hi'n briodol creu risg o gyfraniad sub judice.
Rydych wedi gwneud eich pwynt, ond mae eich pwynt yn anghywir. Oni bai eich bod yn amau Joyce Watson, Caroline Jones ac eraill sydd wedi dweud yn y Siambr hon na chawsant llythyr, mae gwelliant 2 yn ffeithiol anghywir, ac rwy'n eich gwahodd eto i'w dynnu'n ôl, oherwydd mae'n anghywir. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud nad anfonwyd gohebiaeth at lawer o fenywod.
Nawr, Mark Isherwood, rydych yn siarad mewn un ffordd ac yna mae'r gwelliannau rydych yn eu cyflwyno'n gwrthddweud yr hyn a ddywedasoch, mewn un ystyr. Rydych wedi disgrifio'r hyn y dywedasoch ei fod yn achos hanesyddol, rydych wedi disgrifio beth ddylai fod wedi digwydd, ac ar bob un o'r pwyntiau cyfreithiol, oeddech, roeddech yn gywir, ond nid y ddeddfwriaeth yw'r broblem, nid cydraddoli'r oedran yw'r broblem—y broblem yw y dylid bod wedi dweud wrth fenywod pan oedd ganddynt amser i gynllunio. Ac nid fy lle i yw amddiffyn y Blaid Lafur, oherwydd, fel y gwyddoch, nid dyna fy arfer, ond ar yr achlysur hwn, nid eu bai hwy yw hyn. Dyn a ŵyr mae'n fai arnynt hwy yn aml—[Chwerthin.]—ond ar yr achlysur hwn, nid eu bai hwy yw hyn.
I ddod â fy sylwadau i fwcwl, Lywydd, rwyf eto'n gwahodd y Ceidwadwyr i dynnu eu hail welliant yn ôl am ei fod yn ffeithiol anghywir. Rwy'n annog y Cynulliad i wrthwynebu eu dau welliant. Ac mae fy neges i gloi, Lywydd, i'r holl fenywod yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n annog pob dynes yn y grŵp oedran hwn na chafodd lythyr i gofrestru eich cwyn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Pob un o'r rheini, os yw ffigurau Jane Hutt yn gywir—ac rwy'n dibynnu ar ffigurau o Dŷ'r Cyffredin, felly mae'n debyg nad yw'n syndod ei fod yn amcangyfrif rhy isel—pob un o'r bron 200,000 o fenywod hynny: cofrestrwch eich cwyn. Drwy wneud hynny, byddwch yn dod yn sgil hynny'n rhan o'r broses sy'n ddarostyngedig i adolygiad barnwrol. Rwy'n eich annog i fynd i siarad â'ch Aelod Cynulliad neu eich Aelod Seneddol i gael rhywfaint o gymorth gyda'r broses honno. Efallai y byddwch yn ystyried nad yw hynny'n beth synhwyrol iawn i'w wneud os yw eich Aelod Cynulliad neu eich Aelod Seneddol yn Geidwadwr. Rwy'n eich annog, yr holl fenywod hyn, i fynnu eich hawliau, a bydd y rhan fwyaf ohonom yn sefyll gyda chi pan wnewch hynny. [Cymeradwyaeth.]
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.