9. Dadl Plaid Cymru: Yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:33, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Oherwydd bod y mater dan ystyriaeth farnwrol ac felly wedi'i wahardd rhag cael ei drafod yn gyhoeddus mewn mannau eraill, glynais at ffeithiau hanesyddol a dyfyniadau o'r cofnod; ni fynegais farn ac nid ydym yn gwrthwynebu adolygiad barnwrol. Ond oherwydd yr amgylchiadau, nid oeddwn yn teimlo ei bod hi'n briodol creu risg o gyfraniad sub judice.