Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 20 Mawrth 2019.
Bydd yna ddewisiadau dadleuol i'w gwneud bob amser ym mhob cwr o Gymru. Rhaid inni barhau i ymgysylltu wrth gwrs ac wynebu'r heriau hynny drwy gael sgyrsiau anodd a thrwy ymdrin â hwy gyda dewisiadau dan arweiniad clinigol, oherwydd, os na wnawn hynny, mae newid yn llai tebygol o ddigwydd hyd nes y cyrhaeddir pwynt argyfwng a bydd gwasanaethau'n methu. Rydym naill ai'n caniatáu i newid ddigwydd i ni mewn modd anhrefnus, wedi'i arwain gan argyfwng neu rydym yn grymuso ein gwasanaeth iechyd, ein staff a'r cyhoedd i gymryd perchnogaeth a dewis beth ddylai ddigwydd yn y dyfodol.
Nawr, mae angen inni adeiladu capasiti ychwanegol mewn gofal cymunedol a sylfaenol wrth gwrs—mae hynny'n ganolog yn ein cynllun, 'Cymru Iachach'. Mae angen inni wneud hynny er mwyn cadw pobl yn iach am amser hirach ac edrych ar eu holau'n nes adref, rhywbeth a welir yn strategaeth Hywel Dda yn ogystal ag yn 'Cymru Iachach'. Dylai pobl allu cael cyngor a chymorth ar draws ystod eang o faterion iechyd a gofal sydd o bwys iddynt hwy a'u teuluoedd a gallu mynychu apwyntiadau cleifion allanol mwy cyfredol y tu allan i leoliad ysbyty. A cheir enghreifftiau da ar draws Hywel Dda o sut y caiff gofal ei ddarparu'n nes at y cartref eisoes.
Nawr, fel y soniodd Paul Davies, rwy'n deall yr ymlyniad pwerus sydd gan bobl at ddyfodol gofal iechyd ac yn arbennig at leoliadau ysbyty. Ond mae dyfodol gofal iechyd yn ymwneud â llawer mwy na lleoliad cyfredol adeiladau; mae'n ymwneud â buddsoddi mewn cymunedau, denu meddygon, nyrsys, therapyddion, gwyddonwyr, ac mae hynny'n golygu gweithredu system gofal iechyd fodern, gan wneud defnydd llawn o dechnoleg ddigidol a chadw ysbyty ar gyfer y rhai sydd angen cael eu gofal wedi'i ddarparu o fewn ysbyty.
Yn Hywel Dda, roedd y bwrdd iechyd yn cydnabod bod nifer o'u gwasanaethau yn fregus ac yn dibynnu ar niferoedd sylweddol o staff dros dro—mae'n bwynt y mae ein Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi'i wneud ar fwy nag un achlysur. Gall cael nifer fawr o staff dros dro yn darparu gofal arwain at ansawdd gwaeth, a chostau uwch yn sicr. I oresgyn yr heriau hyn, dechreuodd y bwrdd iechyd ymgysylltu â staff a'r cyhoedd ar ei raglen trawsnewid gwasanaethau clinigol yn 2017, a datblygwyd nifer o argymhellion dan arweiniad clinigol ac ymgynghorwyd yn ffurfiol arnynt rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf y llynedd, ac rwy'n cydnabod nad yw Paul Davies yn cefnogi'r argymhellion hynny—mae ganddo hawl i beidio â'u cefnogi. Yng nghyfarfod cyhoeddus y bwrdd ym mis Medi, cytunwyd ar 11 o argymhellion, ac yn bwysig, datblygwyd yr argymhellion hyn a'u cyflwyno gan y meddygon, y nyrsys, y therapyddion, y gwyddonwyr a grwpiau ehangach o staff sy'n byw, yn gweithio ac yn gwasanaethu pobl canolbarth a gorllewin Cymru.
Nawr, gwnaed rhai penderfyniadau allweddol, gan gynnwys datblygu achos busnes ar gyfer adeiladu ysbyty mawr newydd rhwng Arberth a Sanclêr. Nid wyf yn cydnabod y ffigur o £500 miliwn a roddodd Paul Davies. Mewn gwirionedd, pan fyddwch yn ystyried bod y ganolfan gofal critigol arbenigol y penderfynais y dylid ei hadeiladu yng Ngwent—pris honno yw tua £350 miliwn, felly nid wyf yn cydnabod ffigur Paul Davies. Ond hyd yn oed ar gyfer hynny, roedd yn rhaid iddynt ddatblygu achos busnes i allu dweud, 'Dyma fanylion y rheswm pam rydym am wario swm sylweddol o arian cyhoeddus'.
Nawr, edrychodd hefyd ar ailbwrpasu ysbyty Llwynhelyg ac ysbyty Glangwili. Ac archwiliodd y bwrdd iechyd yr adborth a ddarparwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Gweithiodd clinigwyr a staff gyda'r cyhoedd a sefydliadau eraill ar y manylion ychwanegol i lunio strategaeth 20 mlynedd ar gyfer yr ardal. A chytunwyd ar y strategaeth honno, 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach', ddiwedd mis Tachwedd y llynedd. Mae'n nodi'r cyfeiriad ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf. Datblygir y cynllun manwl i gefnogi ei weithrediad dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ac wrth gwrs, rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd barhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, sefydliadau eraill, eu staff eu hunain, a'r cyhoedd wrth gwrs.
Nawr, rwy'n deall y pryderon a deimlir yn lleol gan bobl yn Sir Benfro ynglŷn ag ysbyty Llwynhelyg. Fel y dywedaf, rwy'n deall yr ymlyniad pwerus sydd gan bobl tuag at ysbyty lleol, a bydd Llwynhelyg yn parhau i fod â rhan bwysig yn nyfodol gwasanaethau gofal iechyd yn yr ardal. Ac wrth gwrs, rydym wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o wasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg. Mae hynny'n cynnwys £7.5 miliwn ar gyfer uned ddialysis newydd, £3.9 miliwn i adnewyddu'r adran batholeg, £600,000 ar gyfer sganiwr CT amlfodd newydd sy'n allyrru ffotonau unigol a dros £3 miliwn i gwblhau'r gwelliannau ar wardiau 9 a 10 i foderneiddio gwasanaethau haematoleg, oncoleg a gofal lliniarol yn yr ysbyty.