Effaith Brexit ar Sector y Celfyddydau yn Islwyn

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:21, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Roedd yn glir o'r Siambr hon yr wythnos diwethaf, yn dilyn y datganiad pwysig gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, fod consensws clir a beirniadol i'w gael yn y lle hwn a'r tu allan i'r anghytuno anhrefnus yn San Steffan fod yn rhaid i Gymru barhau, fel yr addawyd gan y rheini gyferbyn, i dderbyn yr un lefel o gyllid ag y byddai wedi'i chael pe bai'r DU wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd—yr un geiniog yn llai. A bydd pob un ohonom yn monitro hyn yn eiddgar. Pa drafodaethau, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i ailadrodd wrthynt pa mor bwysig yw parhau cyllid i'r celfyddydau yn Islwyn?