2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, o ran—. Roedd yn amlwg, mae'n ddrwg gennyf, o'r Siambr hon yr wythnos diwethaf, ar ôl—
Mae angen ichi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn, os gwelwch yn dda.
O'r gorau.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar sector y celfyddydau yn Islwyn? OAQ53632
Mae Llywodraeth Cymru a'i hasiantau yn asesu effaith a goblygiadau posibl Brexit ar bob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru yn barhaus, gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal o Gymru, gan gynnwys Islwyn, ar ei cholled o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r UE.
Diolch. Roedd yn glir o'r Siambr hon yr wythnos diwethaf, yn dilyn y datganiad pwysig gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, fod consensws clir a beirniadol i'w gael yn y lle hwn a'r tu allan i'r anghytuno anhrefnus yn San Steffan fod yn rhaid i Gymru barhau, fel yr addawyd gan y rheini gyferbyn, i dderbyn yr un lefel o gyllid ag y byddai wedi'i chael pe bai'r DU wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd—yr un geiniog yn llai. A bydd pob un ohonom yn monitro hyn yn eiddgar. Pa drafodaethau, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i ailadrodd wrthynt pa mor bwysig yw parhau cyllid i'r celfyddydau yn Islwyn?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. Gwn fod llawer o sefydliadau yn ei hetholaeth wedi elwa o gyllid yr UE, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr Coed Duon a sefydliadau eraill. Rydym wedi mynnu'n gyson y dylai Llywodraeth y DU gadw at ei haddewid na fyddai Cymru'n colli ceiniog o'r incwm y mae'n ei gael ar hyn o bryd gan yr UE ar ôl inni adael, ac mae hynny yr un mor wir o ran cyllid ar gyfer y celfyddydau a diwylliant ag y mae ar gyfer unrhyw agwedd arall ar y rhaglenni cyfredol.
Nid yw'n glir ar hyn o bryd, er enghraifft, mewn perthynas ag Ewrop Greadigol a rhaglenni eraill, a fyddwn yn parhau fel y DU i fod yn gymwys am hynny yn y tymor hwy. Pe ceid cytundeb, mae'n bosibl y gallai prosiectau barhau, ond nid yw'n sicr o gwbl yng nghyd-destun diffyg cytundeb y ceir mynediad at y rhaglenni hynny yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn darparu cyllid sylweddol i'r celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac maent wedi gwneud eu dadansoddiad eu hunain o effaith Brexit ar sector y celfyddydau yng Nghymru. Ac mae'n ymwneud i raddau ag arian, wrth gwrs, ond ceir agweddau eraill sydd yr un mor bwysig mewn llawer o ffyrdd, yn ymwneud â chydweithredu Ewropeaidd, symudedd artistiaid, ac effaith rheoliadau ffiniol a thariffau ar bartneriaethau celfyddydol a diwylliannol trawsffiniol ledled yr Undeb Ewropeaidd.