Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:30, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi roi ychydig bach o gyngor i'r Aelod? Os yw'n mynd i ddewis ymosod arnom ar sail cysondeb, awgrymaf ei fod yn edrych ychydig yn nes adref. A chredaf y byddai ychydig mwy o ffocws ar y lles cenedlaethol, yn hytrach na dim ond lles y blaid, wedi golygu na fyddai'r wlad hon yn y sefyllfa y mae ynddi yn awr, o dair blynedd o wastraffu amser, pan nad oedd ei Brif Weinidog yn gallu cynnig cytundeb sy'n ennyn cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin, na chefnogaeth ei Chabinet, neu roi Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn sefyllfa lle gall bleidleisio'n gyson â'i record bleidleisio ei hun—gan bleidleisio dros ac yn erbyn 'dim bargen'. Cwbl anghyfrifol.