Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 20 Mawrth 2019.
Mae'r Prif Weinidog, fel roeddwn yn gwbl iawn i'w ddweud, yn gwbl glir ynghylch y mater hwn, ond ymddengys nad oes diddordeb gan y Gweinidog iechyd yn y mater hwn o gyfrifoldeb cyfunol. Ac a dweud y gwir, dylai unrhyw un nad yw'n barod i gadw at gyfrifoldeb cyfunol mewn unrhyw Lywodraeth ymddiswyddo. [Torri ar draws.] Gadewch imi—[Torri ar draws.] Gadewch imi eich atgoffa—[Torri ar draws.] Gadewch imi eich atgoffa o'r sefyllfa bresennol mewn perthynas ag ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Senedd y DU wedi gwrthod ail refferendwm, wedi gwrthod 'dim bargen', ac wedi gwrthod aelodaeth o unrhyw fath o undeb tollau yn llwyr. Un cytundeb yn unig a negodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd: y cytundeb ymadael a negodwyd gan Brif Weinidog y DU. Mae'r cytundeb hwnnw'n cyflawni canlyniad y refferendwm, mae'n diogelu swyddi, mae'n diogelu trefniadau diogelwch ledled yr UE, ac yn wir, mae'n diogelu uniondeb y Deyrnas Unedig. Felly, pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn deffro, yn derbyn y sefyllfa fel y mae, yn cefnogi Prif Weinidog y DU, fel rhan o dîm y DU, fel y gallwn gyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig o'i blaid?