Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 20 Mawrth 2019.
Weinidog, rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn cymeradwyo Mr Gething am ei ddewrder, ac am fod yn barod i roi ei swydd yn y fantol er mwyn sefyll dros beth sydd orau i Gymru, ac i'r DU gyfan. Wrth gwrs, er mwyn gallu cynnal refferendwm, neu'n wir o ran safbwynt Prif Weinidog Cymru ynghylch dod i gytundeb, bydd angen ymestyn erthygl 50. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym am ba hyd y cred Llywodraeth Cymru y dylid ymestyn erthygl 50, ac i ba ddiben?