Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:32, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch o weld yr Aelod bellach yn glir iawn ynghylch ei pholisi. Mae Plaid Cymru wedi arddel tri gwahanol bolisi mewn tri mis ar y cwestiwn hwn, felly mae'n dda ei chael yn egluro ei safbwynt. Credaf ei bod yn siomedig fod Prif Weinidog y DU wedi gofyn am estyniad hyd at ddiwedd mis Mehefin, ac yn amlwg mae hi'n mynd ar drywydd strategaeth sy'n gwbl anghyfrifol, o fwrw ymlaen doed a ddel. Rydym wedi nodi'n glir mai'r hyn a ddylai ddigwydd yn awr—ac rwyf wedi bod yn glir y bore yma, mewn sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU mai'r hyn sydd angen ei weld yn digwydd yw newid strategaeth yn sylfaenol, fel bod y Prif Weinidog yn ceisio consensws llawer ehangach yn y Senedd, i adlewyrchu'r mathau o egwyddorion a amlinellwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', un sy'n ymwneud â thrafodaethau trawsbleidiol, heb unrhyw linellau coch. Mae hynny'n golygu ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol a fyddai'n bosibl, pe bai'n mynd ar drywydd hynny, o fewn y ffrâm amser gyfredol sydd ar ôl ganddi ar gyfer estyniad. Ond heb newid strategaeth o'r fath, ni chredaf y bydd y ffrâm amser y mae hi wedi gofyn amdani yn ei llythyr at Donald Tusk heddiw yn ein harwain i unrhyw sefyllfa well nag yr ydym ynddi heddiw.