Dyfodol Cymwysterau Safonol yn Ewrop

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:46, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n gyfan gwbl. Mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o'r hyn yr oeddwn am ei ddweud ar hynny—fod angen inni wneud yn siŵr fod gan bobl gymwysterau cyfwerth, y gall pobl symud o wlad i wlad er mwyn cyflawni gwaith medrus a bod y cymwysterau'n cael eu trin yn gyfartal. Mae hynny'n hynod o bwysig. Sut y mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r Gweinidog Addysg neu'r Llywodraeth yn San Steffan, yn mynd i sicrhau bod hynny'n digwydd? Hynny yw, ni allwn fod yn sicr ein bod yn mynd i gadw'r holl enwau bwyd daearyddol sy'n cael eu diogelu ar ôl inni ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn gobeithio y bydd yn digwydd; ni allwn warantu y byddwn yn eu cadw. Ni allwn warantu y byddwn yn eu cadw os gwnawn gytundebau ag Unol Daleithiau America. Ond y pwynt rwy'n ceisio ei wneud yw: sut y gallwn warantu bod ein cymwysterau—câi cymwysterau City & Guilds eu hystyried ymhlith y gorau yn y byd gan lawer iawn o bobl—yn dal i gael eu hystyried yn Ewrop fel rhai cyfwerth â chymwysterau Ewropeaidd?