Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 20 Mawrth 2019.
Wel, ar hyn o bryd, mae Cymwysterau Cymru yn gweithio ar adroddiad mewn perthynas â hyn. Fe'i cyflwynir i'r Gweinidog Addysg, y gwn y bydd yn gwneud cyhoeddiadau ar y pwynt hwnnw. Credaf fod bwriad ar hyn o bryd i gyhoeddi'r adroddiad terfynol dros yr haf. Ond o ran y trefniadau yn y dyfodol, yn amlwg mae hyn yn rhan o'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, fel gyda llawer o'r pethau hyn, mae'n dibynnu a oes cytundeb ai peidio. Yn amlwg, yng nghyd-destun cytundeb, mae yna fframwaith y gellir ei barhau yn y tymor byr fan lleiaf. Mewn senario 'dim bargen', mae'n fater o sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion yr aelod-wladwriaeth unigol mewn perthynas â chydnabyddiaeth i gymwysterau, ac rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno y byddai honno'n sefyllfa y byddem eisiau gallu ei hosgoi am y rhesymau sy'n sail i gwestiwn yr Aelod.