Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 20 Mawrth 2019.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ond rwyf am droi at flaenoriaeth arall. Ar Question Time ar y BBC yr wythnos diwethaf a nos Sul ar raglen Wales Live y BBC ac mewn sgyrsiau ar y strydoedd ac yn y caffis a'r tafarndai a chlybiau ledled Cymru ac â theuluoedd a chymdogion ac ar y cyfryngau gwrth-gymdeithasol, yn aml ceir agwedd fwy llym, mwy creulon a gwirioneddol afiach weithiau i'r ddadl ynghylch Brexit. Nawr, fel y gwelwn yma heddiw yn y Siambr, gwyddom fod angerdd yn perthyn i ddadl o'r fath pan fo cymaint yn y fantol, ond gallwch deimlo a chyffwrdd â'r dicter y mae pobl ar bob ochr i'r ddadl yn ei deimlo bellach—y rhai sy'n awyddus iawn i weld Brexit, y rhai sy'n awyddus iawn i osgoi ymyl dibyn, y rhai sy'n awyddus iawn i weld ail refferendwm. Mae'n deg dweud bod rhai i'w gweld yn hapus i gefnogi'r posibilrwydd o anghydfod sifil, sy'n gwbl anghyfrifol yn fy marn i ac yn drosedd yn ôl pob tebyg. Byddwch yn ofalus ynglŷn â'r hyn a ddymunwch.
Yn y wlad hon ac yn y DU, rydym yn datrys y materion hyn drwy ddulliau democrataidd, oherwydd, er mor ddiffygiol yw ein holl ddemocratiaethau, maent yn well o lawer na dewisiadau eraill fel anarchiaeth neu unbennaeth. Felly, fy nghwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol, a thrwyddo ef, i'r Llywodraeth gyfan, yw hwn: beth bynnag fo canlyniad yr wythnosau a'r misoedd nesaf, beth allwn ni a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i atgyweirio'r rhaniadau cyrydol sydd wedi agor bellach yn ein cymunedau, i iachau'r berthynas a ddifrodwyd rhwng yr etholedig a'r etholwyr ac i ailadeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol yng Nghymru y gall pawb ohonom ei chefnogi? Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen y weledigaeth, yr uchelgais a'r arweinyddiaeth a all uno holl bobl Cymru.