2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
3. Beth yw blaenoriaethau allweddol y Cwnsler Cyffredinol yn y cyfnod cyn Brexit? OAQ53597
Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn parhau'n ddigyfnewid. Rhaid i Lywodraeth y DU gael gwared ar 'dim bargen' ymyl dibyn a cheisio perthynas agos â'r UE a nodwyd gennym yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda chyfranogiad mewn undeb tollau a'r farchnad sengl ynghyd ag aliniad deinamig â safonau cymdeithasol ac amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â'i safonau ar gyfer y farchnad lafur.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ond rwyf am droi at flaenoriaeth arall. Ar Question Time ar y BBC yr wythnos diwethaf a nos Sul ar raglen Wales Live y BBC ac mewn sgyrsiau ar y strydoedd ac yn y caffis a'r tafarndai a chlybiau ledled Cymru ac â theuluoedd a chymdogion ac ar y cyfryngau gwrth-gymdeithasol, yn aml ceir agwedd fwy llym, mwy creulon a gwirioneddol afiach weithiau i'r ddadl ynghylch Brexit. Nawr, fel y gwelwn yma heddiw yn y Siambr, gwyddom fod angerdd yn perthyn i ddadl o'r fath pan fo cymaint yn y fantol, ond gallwch deimlo a chyffwrdd â'r dicter y mae pobl ar bob ochr i'r ddadl yn ei deimlo bellach—y rhai sy'n awyddus iawn i weld Brexit, y rhai sy'n awyddus iawn i osgoi ymyl dibyn, y rhai sy'n awyddus iawn i weld ail refferendwm. Mae'n deg dweud bod rhai i'w gweld yn hapus i gefnogi'r posibilrwydd o anghydfod sifil, sy'n gwbl anghyfrifol yn fy marn i ac yn drosedd yn ôl pob tebyg. Byddwch yn ofalus ynglŷn â'r hyn a ddymunwch.
Yn y wlad hon ac yn y DU, rydym yn datrys y materion hyn drwy ddulliau democrataidd, oherwydd, er mor ddiffygiol yw ein holl ddemocratiaethau, maent yn well o lawer na dewisiadau eraill fel anarchiaeth neu unbennaeth. Felly, fy nghwestiwn i'r Cwnsler Cyffredinol, a thrwyddo ef, i'r Llywodraeth gyfan, yw hwn: beth bynnag fo canlyniad yr wythnosau a'r misoedd nesaf, beth allwn ni a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i atgyweirio'r rhaniadau cyrydol sydd wedi agor bellach yn ein cymunedau, i iachau'r berthynas a ddifrodwyd rhwng yr etholedig a'r etholwyr ac i ailadeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol yng Nghymru y gall pawb ohonom ei chefnogi? Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen y weledigaeth, yr uchelgais a'r arweinyddiaeth a all uno holl bobl Cymru.
Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn hynod bwysig, os caf ddweud. Credaf fod y dadleuon ynghylch Brexit yn aml yn cymryd un o ddau lwybr gwahanol, onid ydynt? Un yw gwleidyddiaeth uchel yr hyn sy'n digwydd yn y Senedd, beth sy'n digwydd yn yr Undeb Ewropeaidd; a'r llall yw'r cwestiwn o baratoi ar gyfer canlyniadau gwahanol ac agweddau ymarferol ym mywydau bob dydd pobl ynglŷn â'r hyn sydd angen iddynt ei wneud, os ydynt yn rhedeg busnesau ac ati, i edrych ar hynny. A'r darn sy'n aml ar goll yw'r darn yn y canol sy'n disgrifio'r math o wlad rydym am fod ar ei ddiwedd, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom oll mewn swyddi arweiniol ag iddynt amlygrwydd cenedlaethol i gyfrannu at y darlun o ran sut yr hoffem i Gymru fod ar ôl Brexit.
Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â'r agwedd ymarferol. Felly, mae'r Llywodraeth yn rhoi cyllid tuag at gefnogi cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol ledled Cymru, sy'n darparu ymyriadau ymarferol i leddfu pryderon, yn aml iawn, ar y pwynt hwn. Rydym wedi rhyddhau arian ar gyfer rheoli mentrau rhagweld troseddau casineb ac ati—felly, y pethau ymarferol. Ond hefyd ceir her arweiniad cenedlaethol i bob un ohonom, onid oes, i wneud yn siŵr ein bod yn ceisio cynnal y ddadl mewn ffordd sy'n dangos parch ac yn cydnabod y gall angerdd a theyrngarwch fod yn ddwfn, ond hefyd ein bod bob amser yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr fod pawb sy'n byw yng Nghymru neu sydd am ddod i Gymru yn cydnabod ein bod, nid yn unig yn gymdeithas gynhwysol ond ein bod yn dathlu'r gwerth hwnnw fel elfen sylfaenol o'r hyn ydym fel cenedl.
Ni allwn gytuno mwy â'r teimladau a fynegwyd gan yr Aelod dros Ogwr. Nid oes yr un ohonom eisiau gweld sefyllfa o aflonyddwch sifil yn digwydd. Mewn ymateb i'r cwestiynau gan lefarydd y Ceidwadwyr, y credwn eu bod yn ddilys iawn, er tegwch, gallwn ddadlau ynghylch beth sy'n digwydd ar ben arall yr M4, ond cwestiynau'r Cynulliad yw'r rhain, a'r bore yma mae dau safbwynt wedi datblygu o fewn Llywodraeth Cymru, a chi yw Gweinidog Brexit, ac mae'n bwysig ein bod yn deall pa un yw'r safbwynt yr ydych chi fel Gweinidog Brexit yn ei gefnogi. A ydych yn cefnogi safbwynt Prif Weinidog Cymru, fel y'i nodwyd ddoe, y byddai ail bleidlais yn creu rhwyg, neu a ydych yn cefnogi'r Ysgrifennydd iechyd, sy'n dweud mai ail bleidlais yw'r hyn sydd ei angen, a geilw'r Aelod dros Flaenau Gwent hynny'n 'arweinyddiaeth egwyddorol'? Oherwydd os ydych yn darllen y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd iechyd heddiw, mae'n procio'r Prif Weinidog i'w ddiswyddo o'r Llywodraeth oherwydd mae'n dweud nad yw'n siŵr a fydd yn y Llywodraeth ai peidio os yw'n cyflawni ei weithred ddydd Sadwrn. Felly, a allwch egluro heddiw pwy sy'n iawn—Prif Weinidog Cymru neu'r Ysgrifennydd iechyd? Mae'n gwestiwn eithaf syml.
Ac rwyf wedi'i ateb sawl gwaith, â phob parch.
Nac ydych.
Amlinellodd y Prif Weinidog bolisi Llywodraeth Cymru ddoe ac fe wnaf ei ailadrodd eto os nad yw'r Aelod yn glir beth ydyw. Mae'r Ysgrifennydd iechyd wedi dweud ei fod yn cefnogi refferendwm arall. Mae hynny'n rhan o safbwynt polisi Llywodraeth Cymru: os na allwn gael y cytundeb y buom yn dadlau drosto, refferendwm yw'r ffordd o ddatrys yr anghytundeb hwnnw.
Felly, rydych yn dweud bod Prif Weinidog Cymru yn anghywir.