Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:36, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, bellach mae Prif Weinidog y DU wedi gwneud cais ffurfiol i'r UE i ymestyn aelodaeth Prydain o'r UE tan 30 Mehefin, ond a fyddai'n cytuno nad penderfyniad gwleidyddol yn unig yw'r penderfyniad sydd i'w wneud, ond bod iddo oblygiadau cyfreithiol hefyd, ac mai'r cyngor a dderbyniodd y Comisiwn Ewropeaidd, os caniateir y DU i ymestyn ei haelodaeth y tu hwnt i 22 Mai, yw y bydd yn ofyniad cyfreithiol felly fod Prydain yn cymryd rhan yn etholiadau Senedd Ewrop? Ac o gofio bod 148 o etholaethau Llafur wedi pleidleisio dros adael yn y refferendwm a dim ond 84 wedi pleidleisio dros aros, a yw'n ddigynnwrf ynghylch y posibilrwydd hwnnw?