Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:37, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, mae'r cwestiwn ynghylch goblygiadau cyfreithiol estyniad yn un ystyriaeth y gwn ei bod yn fyw ym meddyliau partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn amlwg, mae yna bwynt pan fydd cyfansoddiad y Senedd newydd ar ddiwedd Mehefin/dechrau Gorffennaf, yn peri newid sylweddol iawn yn yr amgylchedd. A cheir pryderon, rwy'n credu, ynglŷn ag os yw'r DU yn aelod y tu hwnt i'r pwynt hwnnw heb fod wedi ethol Aelodau o Senedd Ewrop, gallai fod her i gyfansoddiad y Comisiwn newydd ac ati, sy'n teimlo i mi fel risg y byddent yn gyndyn iawn i'w chreu yn ymarferol. Felly, ceir cyfyngiadau go iawn i'r cwestiwn y buom yn ei drafod dros y 10 neu 15 munud diwethaf ynglŷn â'r estyniad a allai fod yn bosibl.