Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 20 Mawrth 2019.
Fe gafodd y Prif Weinidog, Gweinidogion eraill a finnau gyfarfod gydag arweinwyr llywodraeth leol ym mis Ionawr i weld sut oedd awdurdodau lleol yn paratoi ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ym mhob sefyllfa bosib. Mae cyfarfodydd eraill wedi bod rhwng Gweinidogion ac arweinwyr yr wythnos hon. Rhaid i awdurdodau lleol, ar ben hyn, hefyd asesu eu paratoadau eu hunain. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, wedi asesu’r sector cyhoeddus yn gyffredinol.