2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o baratoadau Brexit llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ53605
Fe gafodd y Prif Weinidog, Gweinidogion eraill a finnau gyfarfod gydag arweinwyr llywodraeth leol ym mis Ionawr i weld sut oedd awdurdodau lleol yn paratoi ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ym mhob sefyllfa bosib. Mae cyfarfodydd eraill wedi bod rhwng Gweinidogion ac arweinwyr yr wythnos hon. Rhaid i awdurdodau lleol, ar ben hyn, hefyd asesu eu paratoadau eu hunain. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, wedi asesu’r sector cyhoeddus yn gyffredinol.
Yn ddiweddar ysgrifennais at nifer o awdurdodau lleol yn gofyn iddynt am fanylion eu cynlluniau Brexit, ac yn arbennig, pa asesiad yr oeddent wedi'i wneud o effaith Brexit 'dim bargen' ar eu gwariant, eu darpariaeth o wasanaethau a materion perthnasol eraill. Mewn ymateb, dywedodd un cyngor wrthyf, a dyfynnaf yn uniongyrchol, mai'r ateb byr yw, dim, neu ddim o unrhyw sylwedd o leiaf.
Mae cynghorau eraill ar gam mwy datblygedig, gyda chabinetau eisoes wedi derbyn ac wedi trafod adroddiadau Brexit, fel y dywedwch. Felly a ydych yn pryderu bod rhai awdurdodau lleol i'w gweld ar ei hôl hi? Pa fecanweithiau monitro sydd gennych ar waith? Ar yr adeg hwyr hon, pa gynlluniau sydd gennych i sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol mor barod ag y gallant fod?
Wel, dyna gwestiwn da iawn. Wrth gwrs, roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod y gwaith yr oeddent wedi'i wneud ddiwedd y llynedd yn dangos rhywfaint o amrywioldeb rhwng awdurdodau lleol. Rhaid imi ddweud, nid wyf yn siŵr mai dyna yw'r darlun yn awr, felly rwy'n bryderus i glywed yr ymateb hwnnw y cyfeiriodd yr Aelod ato.
Mae yna nifer o heriau yma. Drwy gronfa bontio'r UE, rydym wedi darparu arian i gronfeydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—symiau cymharol fach, a bod yn onest—ar gyfer darparu rhyw fath o rannu arferion gorau ac i ddatblygu pecyn cymorth fel bod awdurdodau unigol yn gallu asesu drostynt eu hunain pa mor barod ydynt, ac mae honno'n wybodaeth gyhoeddus o ran y dangosfyrddau a roesant at ei gilydd.
Mewn perthynas ag adnoddau awdurdodau unigol, cyhoeddodd y Gweinidog llywodraeth leol ragor o arian yr wythnos diwethaf i bob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn cynyddu eu capasiti o ran parodrwydd ar gyfer paratoadau Brexit yn gyffredinol. Yn y pen draw mae'n gwestiwn i awdurdodau lleol fodloni eu hunain yn ei gylch wrth gwrs, ond o gadw mewn cof yr hyn a nododd Swyddfa Archwilio Cymru yn yr adroddiad hwnnw, un o'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd mewn ymateb i hynny yw cefnogi gweithgareddau rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r academi i adeiladu capasiti ar gyfer craffu ar y penderfyniadau gwleidyddol a wneir mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Roedd ei gwestiwn yn ymwneud â gweithrediadau, ond roedd hefyd yn ymwneud ag arweiniad gwleidyddol a chraffu gwleidyddol. Mae sioeau teithiol wedi'u cynnal, neu ar fin cael eu cynnal ar gyfer awdurdodau yn Abertawe ac mewn dau leoliad arall—fe atgoffaf fy hun o'r ddau leoliad arall—ac maent ar y gweill ar hyn o bryd. Felly, rydym yn gobeithio'n fawr y bydd hynny'n cynyddu capasiti'r rhai sy'n craffu ar benderfyniadau gwleidyddol mewn llywodraeth leol ynghylch y penderfyniadau hyn.
Efallai mai'r enghraifft de facto orau o baratoadau llywodraeth Leol ar gyfer Brexit yng Nghymru yw bargen twf gogledd Cymru a chais twf gogledd Cymru, yn seiliedig ar gyllid uniongyrchol ac anuniongyrchol gan y ddwy Lywodraeth, ond hefyd datganoli mewnol i fod yn gyfwerth â'r hyn a ddatganolwyd gan Lywodraeth y DU i Bwerdy Gogledd Lloegr. Deallwyd y byddai penawdau telerau'n cael eu cytuno rhwng y Llywodraethau a'r bwrdd twf erbyn diwedd mis Chwefror, ond ni chlywyd dim yn gyhoeddus ers hynny. A allwch roi'r newyddion diweddaraf, felly, ar y sefyllfa bresennol yn hynny o beth?
Mae arnaf ofn na allaf wneud hynny, ond fe ysgrifennaf at yr Aelod ynglŷn â hynny.