Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 20 Mawrth 2019.
Darllenais fod yna besimistiaeth enfawr ar y ddwy ochr i ffin Iwerddon, ac rwy'n bryderus ynglŷn ag edrych gyda chi beth allai'r effaith bosibl fod ar ein masnach ag Iwerddon oherwydd gwyddom ein bod yn allforio gwerth dros £1 biliwn o nwyddau i Iwerddon, a daw'r rhan fwyaf o allforion Iwerddon drwy Abergwaun, Penfro a Chaergybi i rannau eraill o Ewrop. Felly, mae honno'n un agwedd enfawr ar y sefyllfa, ei bod yn anodd iawn deall sut y bydd y cyfan yn gweithio, o gofio bod 'dim bargen' yn bosibilrwydd, neu gytundeb ateb cyflym, cytundeb swyddi a'r economi, neu os yw'r cyhoedd yn penderfynu peidio â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn hynod bwysig ein bod yn parhau i gynnal perthynas fasnach dda a chysylltiadau eraill da gyda'n cymydog agosaf. Roeddwn yn meddwl tybed pa mor anodd yw hynny, o gofio ei bod yn ymddangos nad oes gan Lundain fawr o syniad lle mae Cymru nac Iwerddon.