Blaenoriaethau Allweddol yn y Cyfnod cyn Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:44, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Ni allwn gytuno mwy â'r teimladau a fynegwyd gan yr Aelod dros Ogwr. Nid oes yr un ohonom eisiau gweld sefyllfa o aflonyddwch sifil yn digwydd. Mewn ymateb i'r cwestiynau gan lefarydd y Ceidwadwyr, y credwn eu bod yn ddilys iawn, er tegwch, gallwn ddadlau ynghylch beth sy'n digwydd ar ben arall yr M4, ond cwestiynau'r Cynulliad yw'r rhain, a'r bore yma mae dau safbwynt wedi datblygu o fewn Llywodraeth Cymru, a chi yw Gweinidog Brexit, ac mae'n bwysig ein bod yn deall pa un yw'r safbwynt yr ydych chi fel Gweinidog Brexit yn ei gefnogi. A ydych yn cefnogi safbwynt Prif Weinidog Cymru, fel y'i nodwyd ddoe, y byddai ail bleidlais yn creu rhwyg, neu a ydych yn cefnogi'r Ysgrifennydd iechyd, sy'n dweud mai ail bleidlais yw'r hyn sydd ei angen, a geilw'r Aelod dros Flaenau Gwent hynny'n 'arweinyddiaeth egwyddorol'? Oherwydd os ydych yn darllen y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd iechyd heddiw, mae'n procio'r Prif Weinidog i'w ddiswyddo o'r Llywodraeth oherwydd mae'n dweud nad yw'n siŵr a fydd yn y Llywodraeth ai peidio os yw'n cyflawni ei weithred ddydd Sadwrn. Felly, a allwch egluro heddiw pwy sy'n iawn—Prif Weinidog Cymru neu'r Ysgrifennydd iechyd? Mae'n gwestiwn eithaf syml.