Dyfodol Cymwysterau Safonol yn Ewrop

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:49, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n amlwg yn waith arwyddocaol mewn perthynas â chyfansoddiad cymwysterau gweithlu'r sector cyhoeddus ledled Cymru yn gyffredinol, gan gynnwys y sector addysg, a dyna oedd sail llawer o'r sylwadau a gyflwynwyd gennym yng nghyd-destun Brexit yn enwedig i Lywodraeth y DU a thu hwnt. Ond mae hwn yn faes lle mae gwaith yn bendant ar y gweill ar hyn o bryd. Gwn fod y Gweinidog Addysg yn gweithio ar y cwestiynau hyn ar hyn o bryd.