Dyfodol Cymwysterau Safonol yn Ewrop

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:48, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddod at hyn o'r ochr arall, os caf, oherwydd, ar hyn o bryd wrth gwrs, gall athro neu athrawes wedi cymhwyso sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd weithio yma heb fod angen unrhyw hyfforddiant pellach, ond yn y bôn, mae angen i athrawon sydd wedi cymhwyso o rannau eraill o'r byd ailhyfforddi. Pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna gwestiwn gwirioneddol yn codi wedyn ynglŷn ag a fydd yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn athrawon wedi cymhwyso o wledydd eraill. Rwy'n meddwl tybed beth fyddai eich barn ar hyn ac a fyddwch yn siarad gyda'r Gweinidog Addysg, efallai, am yr angen i adolygu'r sefyllfa honno, yn enwedig o ystyried y cwricwlwm newydd, lle gallai cymwysterau'r athrawon eraill hynny o dramor fod yn fwy perthnasol nag y maent ar hyn o bryd?