Masnach rhwng Cymru a Iwerddon

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 3:02, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

O ystyried adroddiadau bod Grŵp Protest a Gweithredu Uniongyrchol Brexit, a arweinir gan ffigurau a gymerodd ran ym mhrotestiadau tanwydd 2000, yn bygwth amharu ar fasnach Iwerddon drwy yrru'n araf ar yr A55 ddydd Gwener a gwarchae yng Nghaergybi a Doc Penfro ddydd Sadwrn, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cyn lleied o aflonyddu â phosibl?