Diogelu Gwasanaethau Iechyd a Gofal rhag Effaith Brexit heb Gytundeb

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 20 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:03, 20 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae gennyf bryderon penodol ynglŷn â'r gweithlu gofal a chanran y staff a gyflogir mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd sy'n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, wrth gwrs, byddant yn cael caniatâd i aros, ond mae yna gwestiynau gwirioneddol o ran y croeso y byddant yn ei deimlo a ph'un a fyddant yn dewis parhau i wneud hynny, yn enwedig ar ôl Brexit 'dim bargen' a'r amgylchedd gelyniaethus posibl y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato yn gynharach.

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog iechyd ynglŷn â sut y gallwn roi sicrwydd i'r rhan hon o'r gweithlu y bydd croeso mawr iddynt yma yng Nghymru o hyd, ond hefyd ynglŷn â'r posibilrwydd o recriwtio o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd os oes rhaid, mewn ffordd fwy cydgysylltiedig a chydlynol nag a wnaethom yn y gorffennol? Yn y gorffennol, cawsom wahanol fyrddau iechyd yn mynd, er enghraifft, i Ynysoedd y Philipinos i recriwtio nyrsys a chystadlu yn erbyn ei gilydd, ac nid yw hynny i'w weld yn gwneud llawer o synnwyr. Felly, a yw'n gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw fod yna feddwl hirdymor ar waith ynglŷn â sut y diogelwn y gweithlu gofal, yn enwedig, o ran sicrhau, fel y dywedais, fod y bobl sydd gyda ni ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael croeso, ond hefyd o ran meddwl sut y gallai fod angen i ni gael gweithwyr yn eu lle os bydd Brexit caled yn digwydd?