2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch trefniadau i ddiogelu gwasanaethau iechyd a gofal rhag effaith Brexit heb gytundeb? OAQ53623
Cynhaliwyd trafodaethau rheolaidd ar bob agwedd ar gynllunio ar gyfer Brexit 'dim bargen', sy'n cynnwys Gweinidogion, swyddogion Llywodraeth Cymru, ac arweinwyr sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Cafwyd ymgysylltu rheolaidd hefyd â phartneriaid allweddol a Llywodraethau ar draws y DU.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Mae gennyf bryderon penodol ynglŷn â'r gweithlu gofal a chanran y staff a gyflogir mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd sy'n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, wrth gwrs, byddant yn cael caniatâd i aros, ond mae yna gwestiynau gwirioneddol o ran y croeso y byddant yn ei deimlo a ph'un a fyddant yn dewis parhau i wneud hynny, yn enwedig ar ôl Brexit 'dim bargen' a'r amgylchedd gelyniaethus posibl y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato yn gynharach.
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog iechyd ynglŷn â sut y gallwn roi sicrwydd i'r rhan hon o'r gweithlu y bydd croeso mawr iddynt yma yng Nghymru o hyd, ond hefyd ynglŷn â'r posibilrwydd o recriwtio o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd os oes rhaid, mewn ffordd fwy cydgysylltiedig a chydlynol nag a wnaethom yn y gorffennol? Yn y gorffennol, cawsom wahanol fyrddau iechyd yn mynd, er enghraifft, i Ynysoedd y Philipinos i recriwtio nyrsys a chystadlu yn erbyn ei gilydd, ac nid yw hynny i'w weld yn gwneud llawer o synnwyr. Felly, a yw'n gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw fod yna feddwl hirdymor ar waith ynglŷn â sut y diogelwn y gweithlu gofal, yn enwedig, o ran sicrhau, fel y dywedais, fod y bobl sydd gyda ni ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael croeso, ond hefyd o ran meddwl sut y gallai fod angen i ni gael gweithwyr yn eu lle os bydd Brexit caled yn digwydd?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg mae'n bwynt pwysig iawn.
O ran y gweithlu gofal cymdeithasol yn gyffredinol, mae cyfansoddiad y gweithlu hwnnw, yn amlwg, wedi bod yn un o'r problemau y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi canolbwyntio arnynt. Rydym wedi cyflawni gwaith ymchwil i ganfod beth yw'r lefelau cyflogaeth tebygol o fewn y sector o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, maent yn weddol sylweddol. Mae'n un o'r sectorau lle rydym, yn fy nhrafodaethau uniongyrchol gyda chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, ac yn y sylwadau ffurfiol y bydd y Llywodraeth yn eu gwneud i Lywodraeth y DU, wedi nodi problem y gweithlu gofal cymdeithasol fel un sy'n galw am ddull penodol o weithredu o ran amddiffyniad drwy'r polisi mewnfudo. Nid yw'r cynigion presennol yn y Papur Gwyn y mae'r Llywodraeth wedi'i gyflwyno yn gwneud dim i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol, ac mae hynny'n bwysig o safbwynt y gweithlu, ond mae hefyd yn bwysig o safbwynt cynaliadwyedd y gweithlu ac felly, darpariaeth gwasanaethau i bobl sy'n aml yn agored iawn i niwed.
Hefyd, mae trafodaethau'n mynd rhagddynt mewn perthynas â'r ffordd orau o sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn gallu deall y mecanwaith ar gyfer ennill statws preswylydd sefydlog o dan gynnig Llywodraeth y DU. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod arian ar gael i Gymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar y cynlluniau ar gyfer cydnerthedd yn y gweithlu yn fwy cyffredinol yn y tymor hwy.
O ran sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol o'r UE yn teimlo bod croeso iddynt, yn sicr, mae hwnnw'n ddimensiwn hanfodol bwysig i hyn i gyd, ac rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn manteisio ar y cyfle hwn i'w gwneud yn gwbl glir i weithwyr, ym mhob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus, sy'n byw yma ac sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd, ein bod yn eu croesawu, ac y byddwn yn parhau i'w croesawu fel rhan bwysig o wasanaethau cyhoeddus Cymru a'r gymdeithas Gymreig.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, David Rees.