Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 20 Mawrth 2019.
Efallai mai'r enghraifft de facto orau o baratoadau llywodraeth Leol ar gyfer Brexit yng Nghymru yw bargen twf gogledd Cymru a chais twf gogledd Cymru, yn seiliedig ar gyllid uniongyrchol ac anuniongyrchol gan y ddwy Lywodraeth, ond hefyd datganoli mewnol i fod yn gyfwerth â'r hyn a ddatganolwyd gan Lywodraeth y DU i Bwerdy Gogledd Lloegr. Deallwyd y byddai penawdau telerau'n cael eu cytuno rhwng y Llywodraethau a'r bwrdd twf erbyn diwedd mis Chwefror, ond ni chlywyd dim yn gyhoeddus ers hynny. A allwch roi'r newyddion diweddaraf, felly, ar y sefyllfa bresennol yn hynny o beth?